€4m i hybu bioamrywiaeth ar strwythurau arfordirol yng Nghymru ac Iwerddon
Bydd Ecostructure yn gweithio gyda rhanddeiliaid a gwneuthurwyr polisi i ddatblygu ymyriadau ecolegol syml ond arloesol ar gyfer gwella bioamrywiaeth, gan adeiladu ar waith arobryn IBERS ar welliannau pyllau craig artiffisial yn Nhywyn a deunyddiau amgen i goncrid.
24 Mawrth 2017
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn arwain menter newydd a gefnogir gan yr Undeb Ewropeaidd i wella gwerth ecolegol strwythurau amddiffyn ac ynni adnewyddadwy arfordirol yng Nghymru ac Iwerddon, mewn cydweithrediad â Choleg Prifysgol Dulyn, Prifysgol Bangor, Coleg Prifysgol Cork a Phrifysgol Abertawe.
Cafodd y prosiect €4m Ecostructure ei gyhoeddi heddiw (dydd Gwener 24 Mawrth, 2017) gan Mark Drakeford, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Gyllid a Llywodraeth Leol.
Dr Joe Ironside o Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth sydd yn arwain Ecostructure.
Dywedodd Dr Ironside: “Yng Nghymru ac Iwerddon, rydym yn dibynnu ar amddiffynfeydd môr a wnaed gan ddyn i ddiogelu nifer o'n dinasoedd, trefi a chysylltiadau cludiant pwysicaf rhag llifogydd a stormydd. Mae'r strwythurau artiffisial hyn yn tueddu i ddarparu cynefinoedd gwael ar gyfer bywyd gwyllt, ond mae eco-peirianneg yn cynnig potensial enfawr i'w gwneud yn fwy gwyrdd.”
Mi fydd cynlluniau i harneisio grym y môr i gynhyrchu ynni adnewyddadwy hefyd angen strwythurau arfordirol mawr, megis morgloddiau i forlynnoedd llanw arfaethedig.
Bydd gweithio dylunio ecolegol sensitif i mewn i’r strwythurau arfordirol hyn yn eu galluogi i ddarparu seilwaith gwyrdd gwerthfawr gyda'r potensial i fod o fudd i bobl a bywyd gwyllt, yn enwedig mewn ardaloedd trefol.
Dywedodd Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru Mark Drakeford: “Mae prosiectau trawsffiniol rhwng Cymru ac Iwerddon yn bwysig am eu bod yn tynnu ynghyd arbenigedd o’r ddwy wlad er mwyn ymateb i’r heriau a’r cyfleoedd sy’n berthnasol i’r ddwy ochr o Fôr Iwerddon.
“Bydd Prifysgol Aberystwyth a’i phartneriaid yn cael dros €3m o gyllid yr UE ar gyfer gweithredu’r prosiect hwn. Mae hyn yn enghraifft arall o’r manteision a fyddai’n dod i Gymru o gael bod yn rhan o raglenni cydweithredu Ewropeaidd ar ôl inni ymadael â’r UE.”
Gyda chefnogaeth o €3.25m o gyllid Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy raglen Cydweithrediad Iwerddon Cymru'r Undeb Ewropeaidd, bydd y tîm prosiect yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid allweddol o'r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol ar ddwy ochr Môr Iwerddon i hyrwyddo’r defnydd o ddylunio ecolegol sensitif i adeileddau arfordirol.
Yn ogystal â darparu manteision i ecosystemau arfordirol a ffordd o fyw trigolion ac ymwelwyr arfordirol, mae'r dulliau eco-beirianneg newydd rhain yn cynnig cyfleoedd posibl i roi hwb i sectorau glas a gwyrdd economïau Cymru ac Iwerddon.