Enillydd The Apprentice i gyflwyno gwobr £10,000 i fyfyriwr mentergar
24 Mawrth 2017
Bydd enillydd diweddaraf cyfres deledu The Apprentice yn Aberystwyth ddydd Llun 27 Mawrth 2017 ar gyfer rownd derfynol y gystadleuaeth fenter i fyfyrwyr y Brifysgol.
Bydd Alana Spencer yn cyflwyno'r wobr, sef £10,000, am y syniad buddugol yng nghystadleuaeth Gwobr CaisDyfeisio 2017.
Eleni fe gafwyd syniadau gan ugain o gystadleuwyr llawn menter, yn fyfyrwyr unigol ac yn dimoedd o fyfyrwyr.
Cafodd y cynigion eu cloriannu gan chwe chyn-fyfyriwr busnes y Brifysgol a'u sgorio yn ôl meini prawf penodol, gan gynnwys ansawdd y cynnyrch neu'r gwasanaeth, a'u posibiliadau masnachol.
Rhoddwyd chwech o gynigion cryf ar y rhestr fer, ac fe fydd y rhain yn cyflwyno eu syniadau busnes i banel o gyn-fyfyrwyr busnes y Brifysgol, yn union fel y Dragons’ Den.
Bydd pawb ar y rhestr fer yn cael hanner awr i ddarbwyllo'r beirniaid am bosibiliadau masnachol eu syniad, ac i ateb unrhyw gwestiynau.
Diwedd prynhawn dydd Llun, 27 Mawrth, bydd y beirniaid yn cyhoeddi enillwyr Gwobr CaisDyfeisio 2017. Cyflwynir y wobr gan Alana Spencer.
Sefydlodd Alana ei busnes siocled ei hun pan oedd hi'n 17 oed cyn iddi symud ymlaen i bobi cacenni.
Enillodd gyfres The Apprentice yn 2016 a chael buddsoddiad gwerth chwarter miliwn o bunnoedd gan yr Arglwydd Sugar yn ei chwmni cacenni Ridiculously Rich by Alana.
Dywedodd Alana: “Mae'n wych cael dod yn ôl i Aberystwyth i gyflwyno gwobr CaisDyfeisio y Brifysgol i'r enillydd y gystadleuaeth. Mae bob amser yn dda cwrdd â mentrwyr busnes fel y cystadleuwyr hyn. Dechreuais fy musnes i pan oeddwn i'n ddisgybl yn Ysgol Aberaeron, ar ôl i'm mam brynu llyfr imi ar sut i wneud siocledi. Dysgais ychydig o ryseitiau, gwneud siocledi i'm teulu a'm ffrindiau ac fe aeth hi o nerth i nerth wedyn. Byddwn i'n annog pawb sydd am fentro i fusnes i sicrhau bod ganddynt amcan pendant i anelu ato a chynllun am sut i gyrraedd yno. Mae'n bwysig iawn bod gennych syniad clir o'r cyfeiriad rydych am fynd iddo, ac wedyn gweithio yn ôl o'r pwynt hwnnw a dysgu beth sydd angen i chi ei wneud er mwyn cyrraedd y nod hwnnw."
Mae Gwobr CaisDyfeisio yn cynnig hyd at £10,000 i'r unigolyn neu'r tîm buddugol er mwyn iddynt fuddsoddi mewn offer, adnoddau neu wasanaethau proffesiynol i'w helpu i wireddu eu syniad am ddyfais neu fusnes newydd.
Dywedodd Tony Orme, Ymgynghorydd Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth: “Mae myfyrwyr yn cael meithrin cyswllt â rhai o'n cyn-fyfyrwyr busnes mwyaf dylanwadol; i fanteisio ar eu harbenigedd a dysgu beth yw cyfrinach eu llwyddiant. Mae'r arian yn gymorth sylweddol o ran costau cychwyn y busnes, ond y cyngor a'r cymorth fydd y pethau mwyaf gwerthfawr. Rydym yn ffodus o gael graddedigion sy'n awyddus i roi rhywbeth yn ôl ac i helpu'r myfyrwyr, ac mae eu haelioni o ran amser ac arian yn ysbrydoliaeth.”
Ar ben yr arian a roddir yn wobr i'r enillydd, bydd pob un o'r chwech ar y rhestr fer yn cael cyngor arbenigol gan y panel o gyn-fyfyrwyr sydd wedi llwyddo yn eu mentrau masnachol.
Dywedodd Louise Jagger, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni; “Mae Gwobr CaisDyfeisio yn gallu golygu cymaint i rywun sydd wedi cael syniad gwych ac sydd ag angen cymorth ariannol a chyngor i roi'r syniad ar waith. Rydym yn ddiolchgar iawn i'r cyn-fyfyrwyr sy'n dal i roi mor hael tuag at Gronfa Aber sy'n ariannu'r wobr, ac i'r cyn-fyfyrwyr a'r cyfeillion sy'n rhoi eu hamser i fod yn aelodau o'r panel o feirniaid.”
Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymdrechu i roi'r cymorth angenrheidiol i bob myfyrwyr ar gyfer eu gyrfaoedd drwy ei gwasanaeth Gyrfaoedd. Yn rhan o'r gefnogaeth hon, cynigir cymorth a chyngor ar gyfer arloesi masnachol ac er mwyn dechrau busnesau.