Myfyrwyr yn agor llwybr newydd yng Nghoed Penglais
Aelodau o Wirfoddolwyr Cadwraeth Aberystwyth a’r gymuned leol yn dathlu agor llwybr newydd yng Nghoed Penglais.
23 Mawrth 2017
Mae criw o fyfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi bod yn dathlu agor llwybr cerdded newydd drwy Goed Penglais.
Ers mis Medi 2016 mae Gwirfoddolwyr Cadwraeth Aberystwyth wedi bod yn rheoli hanner ddwyreiniol y coetir sy'n eiddo i'r Brifysgol, gan gael gwared ar rywogaethau ymledol fel Rhododendron er mwyn hybu mwy o fioamrywiaeth, a gwella draenio.
Yn fwy diweddar, mae'r grŵp o fyfyrwyr wedi bod yn canolbwyntio ei ymdrechion ar ddatblygu llwybr cerdded newydd ar hyd nant gudd, uwchlaw Plas Penglais, sy'n cwblhau taith gerdded gylchol yn y goedwig am y tro cyntaf.
Bu hyd at ugain o wirfoddolwyr yn gweithio ar y prosiect sydd wedi cynnwys adeiladu dwy bont ar draws y nant gan ddefnyddio coed sycamorwydden.
Mae ardaloedd o goetir hefyd wedi cael eu clirio i hybu twf rhywogaethau brodorol gan gynnwys derw, ffawydd ac ynn, cennin Pedr a chlychau'r gog.
Cafodd y llwybr ei agor yn swyddogol brynhawn Mercher 22 Mawrth.
Iolo Jones, myfyrwyr Daearyddiaeth yn ei flwyddyn olaf yw Llywydd Gwirfoddolwyr Cadwraeth Aberystwyth. “Rydym wrth ein bodd gyda'r hyn yr ydym wedi'i gyflawni dros yr ychydig fisoedd diwethaf ac yn mawr obeithio y bydd ein cyd-fyfyrwyr, staff y Brifysgol ac aelodau o'r gymuned leol yn gwneud yn fawr o'r warchodfa natur wych hon. Rydym hefyd yn ddiolchgar i'r Brifysgol am ymddiried y gwaith o reoli'r coetir i ni fel grŵp, gan roi cyfle i ni adeiladu rhywbeth gwerth chweil, a hefyd am gefnogaeth tîm tiroedd y Brifysgol sydd wedi ein cynorthwyo gyda chwympo rhai o'r coed mwyaf, gwaith draenio a darparu graean ar gyfer y llwybr newydd.”
Dywedodd Paul Evans, Rheolwr Tiroedd gyfer y Brifysgol: "Mae'r gwirfoddolwyr wedi gwneud gwaith rhagorol ac mae wedi bod yn bleser gweithio gyda nhw a dilyn eu cynnydd. Lle y bo'n bosibl rydym wedi cefnogi eu gwaith, yn enwedig gyda chlirio rhai o’r coed mwy o faint, gwaith draenio, a darparu cerrig i wahanol leoliadau ar gyfer y llwybr, ond eu gweledigaeth a'u gwaith nhw yw hwn, ac ni fyddai'r llwybr newydd wedi cael ei adeiladu heb eu hymrwymiad nhw.”
Mae’r Athro Emeritws Len Kersley wedi bod yn aelod o Grŵp Cefnogi Parc Natur Penglais ers iddo gael ei sefydlu pum mlynedd ar hugain yn ôl, ac wedi canmol gwaith Gwirfoddolwyr Cadwraeth Aberystwyth.
Dywedodd yr Athro Kersley: “Dros y blynyddoedd rydym wedi cael cefnogaeth aruthrol gan genedlaethau o Wirfoddolwyr Cadwraeth Aberystwyth. Maent wedi gwneud pob math o waith yn y parc, drwy wella'r amgylchedd, plannu coed, adeiladu waliau cerrig sych, cynorthwyo i glirio eithin a mieri fel y gall pobl weld yr arddangosfa odidog o glychau'r gog, ond hefyd maent wedi gwneud llawer o waith dros y blynyddoedd ar agor y lle i’r cyhoedd, gwella llwybrau, adeiladu grisiau a mynedfeydd newydd a chodi arwyddion. Mae’n hyfryd gweld hyn yn parhau gydag agoriad y llwybr newydd heddiw.”
Mae Coed Penglais yn cwmpasu ardal o bron i 11 hectar, Woods Penglais ymestyn o Ffordd y Gogledd, y tu ôl i Blas Penglais ac i fyny cyn belled â Phentre Jane Morgan, ac mae wedi dod yn hafan i fywyd gwyllt ac yn adnodd cymunedol gwerthfawr.
Ers ei sefydlu yn y 1960au, mae Gwirfoddolwyr Cadwraeth Aberystwyth wedi bod yn gweithio ar brosiectau cadwraeth o gwmpas Ceredigion ar benwythnosau a chysylltiadau hir-sefydliedig gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y Ganolfan Dechnoleg Amgen (CAT) a Chyngor Sir Ceredigion.
Ei nod yw galluogi myfyrwyr i fwynhau'r amgylchedd lleol a hyrwyddo sgiliau ymarferol megis plygu gwrychoedd, adeiladu llwybrau a rheoli cynefinoedd.
Nawr bod y llwybr diweddaraf wedi cael ei agor, bydd y grŵp yn gweithio gyda thîm tiroedd y Brifysgol i ddatblygu rhaglen rheoli gynhwysfawr ar gyfer y warchodfa.
Ychwanegodd Iolo: "Mae llawer o botensial ar gyfer mwy o waith yn y coed ac ar y llwybr, gan gynnwys adeiladu grisiau a rheoli llystyfiant, a darparu gwybodaeth drwy gyfres o baneli. Mae hyn yn golygu mwy o gyfleoedd ar gyfer ein gwirfoddolwyr i ddysgu sgiliau newydd a gwneud cyfraniad gwerthfawr at y gymuned leol.”
Mae rhan isaf Coed Penglais yn cael ei reoli gan Gyngor Sir Ceredigion fel gwarchodfa natur Parc Natur Penglais.