Lansio prosiect treftadaeth arfordirol a newid yn yr hinsawdd
Llun o’r awyr o dwyni tywod Ynyslas ger y Borth sef un o’r ardaloedd dan sylw ymchwilwyr prosiect CHERISH ©RCAHMW
21 Mawrth 2017
Bydd prosiect ymchwil Ewropeaidd gwerth miliynau o bunnoedd, a fydd yn ymchwilio i beryglon newid yn yr hinsawdd o safbwynt tirweddau arfordirol Cymru ac Iwerddon, yn cael ei lansio’n swyddogol ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Iau 23 Mawrth 2017.
Gyda chymorth ariannol o €4.1m gan raglen Cymru-Iwerddon yr Undeb Ewropeaidd, mae prosiect CHERISH (Hinsawdd, Treftadaeth ac Amgylcheddau Riffiau, Ynysoedd a Phentiroedd) yn cael ei arwain gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru mewn cydweithrediad â Phrifysgol Aberystwyth.
Mae dau bartner yn Iwerddon hefyd yn rhan o’r astudiaeth bum mlynedd – Canolfan Archaeoleg ac Arloesi Iwerddon (The Discovery Programme), ac Arolwg Daearegol Iwerddon.
Bydd yn prosiect yn canolbwyntio ar y pentiroedd a’r ynysoedd o amgylch Sir Benfro, Bae Ceredigion a Phen Llŷn, ynghyd â safleoedd ar arfordir de a dwyrain Iwerddon.
Defnyddir y technolegau diweddaraf i ddadansoddi archaeoleg yr arfordir a’r ynysoedd a’r safleoedd treftadaeth forol sydd wedi gweld yr effaith fwyaf yn sgil newid yn yr hinsawdd, erydu arfordirol, stormydd a lefel y môr sy’n codi o hyd.
Bydd y prosiect yn ariannu gwaith cloddio newydd, cofnodi newidiadau amgylcheddol, mapio morol a modelu’r tirwedd.
Un o nodau’r prosiect yw datgelu rhai o’r cyfrinachau sydd o’r golwg o dan y dŵr o amgylch Cymru ac Iwerddon, gan gynnwys hen longddrylliadau.
Mae Dr Toby Driver yn Uwch Ymchwilydd i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru: “Bydd ein cyd-ymchwilwyr yn Iwerddon yn defnyddio cwch ag offer arbennig i gynnal arolygon aml-baladr o dan y môr, a thrwy ddefnyddio’r dulliau mapio morol diweddaraf, byddwn yn gallu casglu delweddau eglur iawn o longddrylliadau a aeth i drafferthion o dan y dŵr mewn mannau fel Sarn Badrig ger Harlech. Bydd rhai wedi bod yno am hyd at bedair canrif, a dyma fydd y tro cyntaf i rai ohonynt gael eu gweld o dan y dŵr.
“Byddwn hefyd yn edrych ar dwyni tywod Niwbwrch yn Ynys Môn, lle dywedir i bentref cyfan gael ei gladdu o dan y tywod gannoedd o flynyddoedd yn ôl. Ymhlith y lleoliadau eraill bydd Ynysoedd y Moelrhoniaid, Stagbwll ac ynysoedd Sir Benfro yn ogystal â safleoedd ar arfordir Iwerddon.”
Bydd Prifysgol Aberystwyth yn cyfrannu at y bartneriaeth drwy ddatblygu cofnodion eglurder iawn o newidiadau amgylcheddol gan ddefnyddio cofnodion gwaddodol a hanesyddol, dan arweiniad Dr Sarah Davies, Darllenydd yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear (ADGD).
“Mae gwaddodion mewn dyddodion mawn arfordirol, fel y rhai yng Nghors Fochno yn y Borth, yn ogystal ag mewn rhwydweithiau twyni a morlynnoedd, yn darparu cofnod manwl o newidiadau yn yr hinsawdd yn y gorffennol. Mae gennym ddiddordeb arbennig yn y ffordd y mae gweithgarwch stormydd wedi amrywio dros y mil o flynyddoedd diwethaf, a’r gwersi y gall hanes eu dysgu i ni heddiw.
“Dros raddfeydd amser hanesyddol, gall cofnodion dogfennol hefyd ddarparu gwybodaeth werthfawr am natur gweithgarwch stormydd wrth iddo newid – a sut y mae cymunedau wedi ymdopi â byw mewn amgylcheddau arfordirol deinamig,” meddai Dr Davies.
Bydd y prosiect o gymorth i strategaethau newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol oherwydd bydd yn cynnig dealltwriaeth fwy trylwyr o newidiadau mwy hirdymor i dreftadaeth ac amgylcheddau arfordirol Cymru ac Iwerddon, sy’n denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn.
Cynhelir digwyddiadau cyhoeddus i rannu gwybodaeth am y canfyddiadau a threfnir sesiynau hyfforddi i helpu i ddatblygu cyfleoedd twristiaeth.
Dywedodd Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru Mark Drakeford: “Mae'r prosiect hwn yn gyfle i Gymru ac Iwerddon ddod at ei gilydd i fynd i'r afael â rhai o'r heriau ry’n ni’n eu hwynebu o ganlyniad i’r newid yn yr hinsawdd a'r amgylchedd yn ein hardaloedd arfordirol. Mae'n hynod o bwysig bod safleoedd treftadaeth ac adnoddau sydd mewn perygl o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd yn cael eu diogelu, ac mae'n bleser gweld y bydd y buddsoddiad hwn hefyd yn cefnogi cyfleoedd newydd i sector twristiaeth y ddwy wlad.”
Yn ogystal â €4.1m o arian yr Undeb Ewropeaidd, cyd-ariennir CHERISH ag €1.1m gan y sefydliadau sy'n cymryd rhan yn y prosiect.