IBERS yn lansio MSc newydd mewn Biotechnoleg
Mae’r cwrs blwyddyn MSc Biotechnoleg yn darparu’r sgiliau allweddol sydd eu hangen ar fyfyrwyr er mwyn ymateb i heriau biotechnoleg a'u hyfforddi i ddatrys problemau yn greadigol ac i feddwl yn strategol.
16 Mawrth 2017
Mae cymhwyster meistr newydd mewn biotechnoleg wedi ei lansio gan Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae’r cwrs blwyddyn MSc Biotechnoleg yn darparu’r sgiliau allweddol sydd eu hangen ar fyfyrwyr er mwyn ymateb i heriau biotechnoleg a'u hyfforddi i ddatrys problemau yn greadigol ac i feddwl yn strategol.
Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i fanteisio ar gyfleoedd a throi eu syniadau yn fusnes hyfyw neu gais llwyddiannus am grant.
Dywedodd Dr Gordon Allison, cydlynydd cynllun a modiwl biotechnoleg: “Mae biotechnoleg yn sector sy'n ehangu'n gyflym gan ddarparu cyfleoedd cyflogaeth ar gyfer ystod eang o raddedigion. Yn y DU yn unig mae'r diwydiant yn cyflogi 160,000 a chyllid blynyddol o £50 biliwn.”
“Mae’n profiad ni yn dangos bod cwmnïau biotechnoleg yn recriwtio myfyrwyr Meistr gyda sgiliau arbenigol a throsglwyddadwy ar gyfer swyddi a fu gynt ar gael i fyfyrwyr Doethuriaeth yn unig, ac mae’r radd hon yn ymateb i ofynion diwydiant”, ychwanegodd.
Bydd y myfyrwyr yn derbyn hyfforddiant ymarferol yn y technegau a thechnolegau biowyddoniaeth moleciwlaidd a dadansoddol diweddaraf mewn Biotechnoleg Ddiwydiannol (biotechnoleg eplesu) a Biotechnoleg Planhigion; dau faes allweddol mewn biotechnoleg.
Mae'r cwrs hefyd yn canolbwyntio ar faterion byd-eang fel biotechnoleg forol, bwyd ac iechyd a sut y gall defnydd cynaliadwy o fio-adnoddau a biowyddoniaeth gynorthwyo i ddiwallu anghenion poblogaeth ddynol sydd ar gynnydd.
Mae pob modiwl cwrs yn cael eu cyflwyno gan academyddion ac ymarferwyr proffesiynol sydd yn flaengar yn y maes.
Graddiodd Joe Freemantle yn ddiweddar gyda MSc mewn Biotechnoleg a Rheoli Arloesedd, rhagflaenydd i'r cynllun presennol.
Dywedodd Joe: “Fe ddatblygais ystod eang o sgiliau labordy ymarferol ac adeiladu rhwydweithiau diwydiannol, ac ers diwedd y cynllun rydw i wedi parhau i dderbyn cefnogaeth gan wyddonwyr IBERS. Chwe mis ers i mi gwblhau fy nghwrs, rwyf yn Brif Swyddog Technegol a sylfaenydd cwmni sydd newydd ei sefydlu ac sy'n edrych i ddatblygu atebion newydd a gwahanol ar gyfer ailgylchu cynnyrch hylendid amsugnol, a thrwy fy nghysylltiad â Phrifysgol Aberystwyth ac wedi ymddangos ar y BBC.
“Yn bendant, mae astudio yn IBERS, Prifysgol Aberystwyth a derbyn cymorth oddi wrthynt, wedi fy helpu i ddatblygu'r galluoedd sydd eu hangen ar gyfer mentro i ddechrau busnes.”
Ychwanegodd Dr Allison: “Ni fu erioed amser gwell i ddewis biotechnoleg fel gyrfa. Mae'r cwrs MSc hwn yn rhoi’r sgiliau galwedigaethol a’r wybodaeth arbenigol i fyfyrwyr, gan roi mantais gystadleuol werthfawr iddynt yn y farchnad swyddi a’u paratoi ar gyfer gyrfa mewn biotechnoleg neu ymchwil sydd yn gysylltiedig.