Prifysgol Aberystwyth yn dathlu Wythnos Wyddoniaeth Prydain
Esblygiad dyn yw un o'r stondinau sy'n rhan o arddangosfa Wythnos Wyddoniaeth Prydain Prifysgol Aberystwyth.
15 Mawrth 2017
Mae dros 1,500 o blant ysgol o bob cwr o ganolbarth a gorllewin Cymru yn ymweld â Phrifysgol Aberystwyth yr wythnos hon fel rhan o Wythnos Wyddoniaeth Prydain.
'Mae Newid yn Gyson' yw'r thema ar gyfer ffair wyddoniaeth ryngweithiol tri diwrnod (14/15/16 Mawrth) sydd wedi ei threfnu gan Ganolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol y Brifysgol.
Mae'r arddangosfa yn rhad ac am ddim ac yn agored i'r cyhoedd, ac yn cynnwys mwy na deg ar hugain o stondinau ymarferol ac arbrofion gwyddonol yn cynnwys yr ExoMars 2020 Rover, Hologram Ysbryd Pepper, Planhigion yn y Gofod ac Esblygiad Dynol.
Dywedodd Debra Croft, Rheolwr y Ganolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol y Brifysgol: "Ein nod yw tynnu sylw at ehangder a dyfnder y gwaith gwyddonol rhagorol sy’n cael ei wneud yma ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ei bwrpas yw i ehangu gwybodaeth o wyddoniaeth ymhlith plant ysgol, eu hysbrydoli a dangos iddynt pa mor bwysig yw yn ein bywydau ni i gyd.
"Bydd dros 150 o staff a myfyrwyr yn rhan o’r digwyddiad, sy’n rhoi o'u hamser a'u hegni i’w wneud yn llwyddiant, ac yr ydym wedi cael cefnogaeth wych hefyd gan bartneriaid megis Cyngor Sir Ceredigion, ac ein tîm ni o Arweinwyr Myfyrwyr."
Oriau Agor 'Mae Newid yn Gyson' yw Dydd Mawrth 14, 9.30yb - 3yp; Dydd Mercher 15, 9.30yb - 3yp a 4yp - 6yp; Dydd Iau 16, 9.30yb - 3yp. Mae mynediad am ddim ac mae ragor o wybodaeth ar gael ar-lein.