Myfyrwyr Aberystwyth i fynychu Gŵyl Ffilm Tribeca Efrog Newydd
Chwith i'r dde: Dylan Jones o Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni Prifysgol Aberystwyth, y myfyrwyr Gary Evans a Monica Cossu a fydd yn hedfan i Ŵyl Ffilm Tribeca yn Efrog Newydd, Dr Anwen Jones, Pennaeth yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, a Dr Greg Bevan, darlithydd Cynhyrchu'r Cyfryngau yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.
14 Mawrth 2017
Bydd dau o fyfyrwyr Ffilm a Theledu o Brifysgol Aberystwyth yn mynychu Gŵyl Ffilm fyd-enwog Tribeca yn Efrog Newydd ym mis Ebrill 2017.
Bydd Gary Evans a Monica Cossu yn hedfan i Efrog Newydd ar ymweliad pedwar diwrnod i'r Ŵyl, sy'n cael ei chynnal o 19 tan 30 Ebrill, ar ôl ennill tocynnau mewn cystadleuaeth adrannol.
Un o uchafbwyntiau’r Ŵyl eleni fydd dathliadau 45 mlwyddiant The Godfather a The Godfather Part II gyda dangosiadau cefn-wrth-gefn o’r ffilmiau.
Ymysg y dangosiadau eraill bydd Can’t Stop, Won’t Stop: The Bad Boy Story gan Sean "Diddy" Combs, The Circle gyda Tom Hanks ac Emma Watson yn serene, Mike and the Mad Dog ac mae'r Tribeca / Chwaraeon ESPN, â dangosiadau arbennig o Bowling for Columbine gan Michael Moore, Reservoir Dogs Quentin Tarantino ac Aladdin Disney.
Yr her a osodwyd i fyfyrwyr yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu oedd amlinellu sut y byddai'r daith yn gwella eu dyheadau gyrfaol a sut y byddent yn eu tro yn gweithredu fel llysgenhadon ar ran y Brifysgol.
Mae gwobr Gary a Monica yn cynnwys tocynnau hedfan i Efrog Newydd, llety pedair noson yno, a thocyn am ddim i’r Ŵyl fydd yn caniatáu iddynt fynychu llawer o ddangosiadau, digwyddiadau, lolfeydd y gwneuthurwr ffilmiau ac ardaloedd VIP.
Ac yntau’n gyn-fyfyriwr o Ysgol y Preseli, Sir Benfro mae Gary yn ei ail flwyddyn yn astudio Ffilm a Theledu ac mae'n edmygydd o waith y cyfarwyddwyr Quentin Tarantino a Christopher Nolan.
Meddai Gary: "Mae hwn yn gyfle unwaith mewn oes i weld rhai o'r enwau mwyaf ym myd y ffilm ac amsugno awyrgylch gŵyl o bwys. Mae gweithio yn y diwydiant ffilm wedi bod yn freuddwyd i mi erioed ac mae gwaith cyfarwyddwr The Raid, Gareth Evanso Hirwaun, sydd wedi bod yn trafod ei waith gyda ni yma yn Aberystwyth, wedi bod yn ysbrydoliaeth. Bydd Tribeca yn gyfle gwych i ddysgu mwy am y diwydiant a sut mae’n gweithio, ar rwy’n ddiolchgar iawn i Brifysgol Aberystwyth am wneud hyn yn bosibl.”
Mae Monica Cossu o Phuket, Gwlad Thai, yn ei blwyddyn olaf ac yn astudio Ffilm a Theledu.
Dywedodd Monica: “Mae mynd i Ŵyl Ffilm Tribeca yn golygu llawer i mi, ac yn gwireddu breuddwyd plentyndod. Rydw i'n edrych ymlaen at fod yng nghwmni cynifer o bobl greadigol. Bydd pedwar deg y cant o'r cyfarwyddwyr yn yr Ŵyl eleni yn fenywod ac rwy’n disgwyl i hynny fod yn brofiad fydd yn magu hyder. Bydd adran ddogfennol yr Ŵyl yn nodi Diwrnod y Ddaear ar 22 Ebrill, yn ystod ein hamser yno, ac rwy’n edrych ymlaen at weld dangosiadau o ffilmiau nodwedd sydd yn canolbwyntio ar newid hinsawdd. Mae’n bwysig iawn nad yw gŵyl ffilm sydd mor uchel ei phroffil â Tribeca yn osgoi’r materion brys yma.”
Un fydd yn teithio gyda Gary a Monica fydd Dr Greg Bevan, darlithydd Cynhyrchu'r Cyfryngau ym Mhrifysgol Aberystwyth, a threfnydd yr ymweliad.
Dywedodd Dr Greg Bevan: “Mae hwn yn gyfle rhagorol i’n myfyrwyr ymgysylltu â rhwydweithiau rhyngwladol o wneuthurwyr, cynhyrchwyr a dosbarthwyr ffilmiau yn un o wyliau gorau’r byd – a’r cyfan yn un o brifddinasoedd diwylliannol mwyaf y byd.”
Mae'r daith hefyd yn gyfle iddynt gwrdd cyn-fyfyriwr o Aberystwyth a rhaglennydd ffilmiau'r Ŵyl, Ben Thompson a chael gwybod mwy am ei lwybr gyrfa o Aberystwyth i Tribeca.
Ychwanegodd Dr Bevan: "Mae Ben wedi bod yn hynod hael i'n myfyrwyr, bob amser yn hapus i rannu ei brofiad, egni a brwdfrydedd gyda nhw. Rydym yn ffodus iawn i allu galw Ben yn gyfaill i'r Adran a'r Brifysgol. "
Un o enillwyr y llynedd oedd BJ Braithwaite. Dywedodd: “Roedd y daith yn ffantastig. Nid yn unig y cawsom gyfle i weld ffilmiau gwych cyn iddynt gael eu rhyddhau, ond cawsom hefyd brofi sut mae gŵyl fel Tribeca yn gweithio a chyfarfod â gweithwyr proffesiynol allweddol y diwydiant. Gwneud ffilmiau yw fy niddordeb pennaf a’r gobaith yw y byddaf rhyw ddydd yn dangos fy ngwaith fy hun mewn gŵyl o faint ac enw da Tribeca. Mae’n gyfle gwych i ddarpar wneuthurwyr ffilm fel fi ac mae'r Brifysgol i'w chanmol am ei chefnogaeth i’r gwaith hwn.”
Mae taith Gary a Monica wedi derbyn cefnogaeth hael gan Gronfa Aber Prifysgol Aberystwyth – cynllun rhoddion i gyn-fyfyrwyr, rhieni, staff a chyfeillion y Brifysgol i gefnogi prosiectau sy'n cyfoethogi’ uniongyrchol brofiad a datblygiad myfyrwyr, tra bod ymweliad Dr Bevan wedi ei noddi gan yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.
Dywedodd Dr Anwen Jones, Pennaeth Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu: “Mae’n bleser gennym noddi aelod o staff i fynychu Gŵyl Ffilmiau Tribeca gyda’r myfyrwyr a datblygu’r berthynas rhwng yr Adran a’r Ŵyl ei hun.