Ffair Yrfaoedd y Gwanwyn ym Mhrifysgol Aberystwyth
13 Mawrth 2017
Bydd cyflogwyr mawr o bob cwr o’r byd yn bresennol mewn Ffair Yrfaoedd a gynhelir ym Mhrifysgol Aberystwyth yfory (ddydd Mawrth 14 Mawrth).
Bydd cyfle i fyfyrwyr a’r rhai sydd wedi graddio’n ddiweddar i siarad â busnesau a sefydliadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn y digwyddiad yng Nghanolfan y Celfyddydau.
Bydd yn gyfle i gael gwybod mwy am ystod eang o swyddi graddedigion, lleoliadau, cynlluniau hyfforddi, a chyfleoedd astudio a gwirfoddoli sydd ar gael iddynt.
Bydd dros 40 o stondinau yn y Ffair, ac yn eu plith bydd cyflogwyr fel Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda, IBM, Cyngor Gwynedd, y Llu Awyr Brenhinol, Dŵr Cymru, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, Dunbia, y BBC, y Swyddfa Ystadegau Gwladol, FDM Group ac Aldi.
Bydd sefydliadau fel Camp America, y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol, Cyfnewid UNA, Opportunity China a Frontier hefyd yn bresennol.
Drwy gydol y dydd, bydd Cynghorwyr Gyrfaoedd ar gael i roi cyngor a chyfarwyddyd ychwanegol, gan gynnwys clinig galw heibio ar baratoi CV. Ymhlith y gweithgareddau eraill a fydd ar gael yn ystod y dydd i helpu myfyrwyr â’u gyrfa bydd ‘Gwib Gyfweld’ gyda rhai o’r cyflogwyr yn y ffair a chinio rhwydweithio gyda rhai o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.
Dywedodd Siân Furlong-Davies, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol: “Mae gan rai o’n myfyrwyr syniadau pendant ynglŷn â’r hyn maen nhw am ei wneud ar ôl graddio, ond mae llawer ohonynt yn dal i geisio penderfynu. Beth bynnag eu sefyllfa yn hynny o beth, bydd y Ffair Yrfaoedd yn gyfle gwych i’r myfyrwyr i edrych ar ystod eang o lwybrau gyrfa i’w helpu i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am eu dyfodol.”
Dywedodd yr Athro John Grattan, Is-Ganghellor Dros Dro Prifysgol Aberystwyth: “Yn Aberystwyth, rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael addysg a phrofiad eithriadol yn ystod eu hamser yma. Ond rydym hefyd yn rhoi pwyslais ar sicrhau eu bod yn gallu dod o hyd i swyddi da ar ôl graddio.
“Bydd y Ffair Yrfaoedd yn cyd-fynd â nifer o fentrau uchelgeisiol yr ydym wedi’u sefydlu i baratoi ein myfyrwyr ar gyfer y camau cyntaf pwysig hynny o ran gyrfa ar ôl iddynt raddio.”
Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 92% o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth mewn gwaith neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl graddio yn 2015.
Bydd y Ffair Yrfaoedd ar agor o 11.00 y bore tan 3.00 y prynhawn ddydd Mawrth 14 Mawrth yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.
Bydd stondinau’r cyflogwyr a’r sefydliadau yn y Neuadd Fawr, a bydd rhagor o stondinau a gweithgareddau ynglŷn â gweithio’n benodol yn sector y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn y Stiwdio Gron ac ym Mar y Theatr.
AU5617