Darlith Canmlwyddiant yn galw am gyfiawnder technoleg
13 Mawrth 2017
Bydd ffigwr blaenllaw ym maes datblygu rhyngwladol yn cyflwyno'r ddiweddaraf mewn cyfres o ddarlithoedd cyhoeddus i ddathlu canmlwyddiant Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth.
Mae Simon Trace CBE yn ymgynghorydd annibynnol ac awdur ar ddatblygu rhyngwladol a thechnoleg.
Bydd yn traddodi ei ddarlith Technology Justice – why it’s time to reboot our relationship with technology am 7 yr hwyr ddydd Mawrth 14 Mawrth yn ystafell ddarlithio A6 yn adeilad Llandinam ar gampws Penglais.
Ar sail ei lyfr Rethink, Retool, Reboot: Technology as if people and planet mattered (2016), bydd yn dadlau bod angen i gymdeithas edrych eto ar y ffordd y mae'n defnyddio technoleg.
"Mae technoleg yn sail i ddatblygiad dynol. Mae arnom angen mynediad iddo i ddarparu'r elfennau sylfaenol iawn o safon bywyd - bwyd, dŵr, lloches, iechyd ac addysg. Ond heddiw does gan tua un rhan o bump o boblogaeth y byd ddim myediad i set o dechnolegau sylfaenol ar gyfer safon sylfaenol o fyw," meddai Simon Trace.
"Mae angen agwedd newydd arnom at lywodraethu mynediad at dechnoleg a’r defnydd ohono, a set wahanol o yrwyr i adlinio ein systemau arloesi i ddarparu technoleg sydd yn gymdeithasol ddefnyddiol ac sy'n mynd i'r afael â'r heriau allweddol o dlodi a chynaliadwyedd amgylcheddol. Bydd fy nghyflwyniad yn ystyried sut y gallem ddefnyddio ffrâmwaith gyfeirio wahanol - Cyfiawnder Technoleg - i ddarparu dull cwbl wahanol i'r modd yr ydym yn goruchwylio a llywodraethu’r datblygiad a'r defnydd o dechnoleg."
Dywedodd Pennaeth Adran Ddaearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Rhys Jones: “Bydd y ddarlith hon yn ystyried y berthynas rhwng technoleg, cymdeithas a’r amgylchedd. Mae’n berthynas sydd wedi newid cryn dipyn dros y 100 mlynedd diwethaf ac wedi bod yn destun astudiaeth gan ddaearegwyr yn Aberystwyth ar hyd y cyfnod hwn. Nod ein cyfres o ddarlithiau canmlwyddiant yw adlewyrchu lled a dyfnder Daearyddiaeth fel pwnc sydd wedi bod yn un o gonglfeini’r Brifysgol ers 1917.”
Yn ôl tabl cynghrair y QS World Subject Rankings a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2017, mae Aberystwyth yn un o’r 100prifysgol orau yn y byd ar gyfer astudio a Daearyddiaeth.
Cyn y ddarlith am 7pm, bydd derbyniad diodydd yn cael ei gynnal am 6.30pm yn y Felin Drafod yn adeilad Llandinam.
Cefndir Simon Trace
Mae Simon Trace yn ymgynghorydd annibynnol ac awdur ar ddatblygu rhyngwladol a thechnoleg. Cafodd ei lyfr Rethink, Retool, Reboot: Technology as if people and planet mattered, ei gyhoeddi gan Practical Action Publishing ym mis Gorffennaf 2016.
Mae Simon yn beiriannydd siartredig gyda MA mewn anthropoleg a 35 mlynedd o brofiad o weithio yn y sector datblygu rhyngwladol ar fynediad at wasanaethau sylfaenol (dŵr, glanweithdra ac ynni), cynhyrchu bwyd cynaliadwy, a rheoli adnoddau naturiol. Ef oedd y Prif Swyddog Gweithredol yr NGO rhyngwladol Practical Action o 2005 tan 2015, a chyn hynny, cyfarwyddwr rhyngwladol yr NGO Water Aid.
Mae Simon yn un o ymddiriedolwyr Sefydliad yr Amgylchedd Ewropeaidd ac mae wedi gwasanaethu ar nifer o baneli rhyngwladol gan gynnwys Grŵp Llywio menter Ynni Cynaliadwy i Bawb Fframwaith Olrhain Byd-eang Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig a phanel cynghori allanol ar gyfer mynegai Parodrwydd i Fuddsoddi mewn Ynni Cynaliadwy Banc y Byd.
Ar hyn o bryd mae'n aelod o Grŵp Cynghori Strategol ar gyfer Cronfa Ymchwil Heriau Global £1.5 biliwn Llywodraeth y DU.
AU10817