Darlith gyhoeddus ar ddiogelu oedolion
Canolfan Llanbadarn. bydd Dr Margaret Flynn yn traddodi ei darlith yn Adeilad Elystan Morgan.
09 Mawrth 2017
Bydd un o arbenigwyr blaenllaw’r Deyrnas Unedig ar ddiogelu oedolion yn traddodi darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Mercher 22 Mawrth 2017.
Cynhelir darlith Dr Margaret Flynn ‘The imperfect art of safeguarding: learning from two reviews’ am 6.30 yr hwyr yn Adeilad Elystan Morgan yng Nghanolfan Llanbadarn.
Dr Margaret Flynn yw cadeirydd annibynnol Bwrdd Diogelu Oedolion Swydd Gaerhirfryn. Bu’n Gadeirydd nifer o Adolygiadau Achos Difrifol, a bydd ei darlith yn trafod y gwersi a ddysgwyd yn sgil dau ohonynt – achos Ysbyty Winterbourne View a’r adolygiad annibynnol o’r honiadau o gam-drin ac esgeuluso pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal yng Ngwent, a ymchwiliwyd gan Ymgyrch Jasmine.
Trefnwyd y ddarlith hon gan y Ganolfan Astudio Heneiddio, Cam-drin ac Esgeulustod, sydd wedi ei lleoli yn Ysgol y Gyfraith, Aberystwyth, ac sy’n rhan o raglen o weithgareddau prosiect ymchwil y Ganolfan ar gam-drin pobl hŷn, Dewis Choice.
Wrth siarad cyn y digwyddiad dywedodd yr Athro John Williams o Ysgol y Gyfraith, Aberystwyth, “Rydym yn falch iawn bod Margaret Flynn wedi derbyn ein gwahoddiad i ddod i Aberystwyth. Margaret yw un o brif arbenigwyr y wlad ar ddiogelu oedolion. Mae ei dealltwriaeth o ddiogelu oedolion, sy’n seiliedig ar ei phrofiad helaeth o gynnal adolygiadau a’i gwaith ehangach, yn ei rhoi mewn sefyllfa ddelfrydol i nodi’r newidiadau sy’n hanfodol i ddiogelu oedolion sydd dan fygythiad.
“Mae cam-drin ac esgeuluso oedolion sydd dan fygythiad yn broblem fawr sy’n wynebu cymdeithas. Mae ymchwiliadau gan y cyfryngau yn dangos bod oedolion dan fygythiad yn cael eu cam-drin a’u hesgeuluso mewn cartrefi gofal ac ysbytai yn ogystal ag yn eu cartrefi eu hunain.
“Gwnaeth ymchwiliad gan Panorama yn 2011 ddatgelu’r cam-drin corfforol a seicolegol helaeth yr oedd pobl ag anableddau dysgu ac ymddygiad heriol yn ei ddioddef yn Ysbyty Preifat Winterbourne View. Cawsai preswylwyr bregus iawn eu bwlio, a’u cam-drin yn gorfforol ac yn emosiynol gan staff.
“Yng Nghymru, fe arweiniodd y driniaeth ofnadwy o breswylwyr mewn sawl cartref gofal yng Ngwent at un o’r ymchwiliadau mwyaf gan yr Heddlu i gam-drin ac esgeuluso pobl hŷn, sef Ymgyrch Jasmine. Ymchwiliodd yr heddlu i farwolaethau 63 o bobl a honnir bod dros gant o bobl hŷn wedi dioddef yr hyn a ddisgrifiodd yr AS lleol Nick Smith yn gam-drin “iasoer” yn y cartrefi gofal.
“Mae adroddiad Margaret ar Ymgyrch Jasmine, In Search of Accountability, yn ddadansoddiad trylwyr a didrugaredd o’r methiannau llu a arweiniodd at y digwyddiadau trist. Fe wnaeth yr Adolygiad amlygu sut y mae’n rhaid inni weithio tuag at sicrhau bod pobl mewn cartrefi gofal, ysbytai a sefyllfaoedd tebyg yn cael eu trin gydag urddas a pharch.”
Mae Dr Margaret Flynn yn gyd-olygydd Journal of Adult Protection.
Yn ddiweddar, cafodd ei phenodi gan Lywodraeth Cymru yn gadeirydd cyntaf y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol.
Yn 2015 dyfarnwyd £890,000 gan Gronfa’r Loteri Fawr tuag at Dewis Choice, y prosiect ymchwil £1.3m ar Gam-drin a Chyfiawnder yr Henoed.
Mae tîm y prosiect yn cynnwys Sarah Wydall, Uwch Gymrawd Ymchwil a Chyd-Brif Ymchwilydd, yr Athro Alan Clarke, Cyd-Brif Ymchwilydd, a’r Athro John Williams, Cyd-Brif Ymchwilydd.