Caiacio yn Afghanistan - cyn-fyfyrwyr Aber yn rhannu profiadau
Cynfyfyrwyr Aberystwyth yn caiacio ar hyd afon Panjshir yn Afghanistan. Llun gan Kristof Stursa.
07 Mawrth 2017
Bydd dau gyn-fyfyriwr yn dychwelyd i Aberystwyth ar 8 Mawrth 2017 i siarad am eu hanturiaethau caiacio mewn gwlad sy’n fwy adnabyddus fel theatr rhyfel na chyrchfan dŵr gwyn.
Fe dreuliodd James Smith a Joe Rea-Dickins ddeg diwrnod yn padlo ar hyd afon Panjshir yng ngogledd Afghanistan gyda dau gaiaciwr arall, Callum Scott a Kristof Stursa.
Mae’r grŵp o bedwar bellach yn mynd ar daith o amgylch y DU ac Iwerddon yn sôn am eu profiadau, gyda digwyddiad arbennig yn cael ei gynnal yn Ystafell Seddon yn Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth am 7yp nos Fercher 8 Mawrth 2017.
Roedd cynnwys Aberystwyth yn y daith yn fater o raid, yn ôl James Smith, a fu'n astudio Marchnata ac Almaeneg yn Aberystwyth rhwng 2008-2012.
"Cefais amser gwych yn Aber ac mae gen i lu o atgofion melys o fy nghyfnod yma. Un o'r prif resymau dros ddewis y brifysgol oedd bod ganddi un o'r clybiau canŵio gorau yn y DU. Roedd y cwrs yn wych wrth gwrs, ond daeth y clwb yn rhan fawr iawn o’m mywyd prifysgol ac mae'n wych ei weld yn mynd o nerth i nerth," meddai James, a fu’n Llywydd y Clwb Canŵio Prifysgol Aberystwyth yn 2009-10.
"Daeth ein trip i Afghanistan yn sgil taith arall wnaethon ni drefnu i Bacistan tra'n dal yn y Brifysgol. Fe sylweddolon ni bod dal modd ymweld â’r lleoedd hyn o hyd a chael amser da. Roedd gennym ni swyddogion lleol yn ein hebrwng ar hyd y daith gyfan a doedden ni ddim yn teimlo mewn perygl ar unrhyw adeg; yn wir, rhaid dweud i ni gael croeso arbennig o gynnes. Rydyn ni nawr yn bwriadu sefydlu busnes teithiau caiac yn India felly bydd gradd marchnata yn ddefnyddiol."
Yn ystod eu taith ar hyd afon Panjshir a thrwy fynyddoedd yr Hindu Kush, fe fu’r pedwar ffrind hefyd yn cynnal gweithdy caiacio i ddysgu pobl leol oedd â diddordeb.
Buon nhw’n ffilmio’r daith ac fe fyddan nhw’n defnyddio'r delweddau fideo wrth iddyn nhw adrodd straeon am eu hanturiaethau yn Afghanistan i gynulleidfaoedd ar draws y DU ac Iwerddon.
Dywedodd Louise Jagger, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni Prifysgol Aberystwyth,: "Mae ysbryd antur yn perthyn i fyfyrwyr Aberystwyth. Yn y 1960au, er enghraifft, fe aeth Cymdeithas Alltaith myfyrwyr Aberystwyth i Afghanistan, fe wnaethon nhw groesi anialwch y Sahara, ac fe yrron nhw drwy Daleithiau Trucial y Dwyrain Canol. Mae'n wych gweld bod y traddodiad hwn yn fyw ac iach heddiw. Fel Prifysgol, rydym bob amser yn awyddus i glywed am y gwahanol lwybrau mae’n myfyrwyr wedi eu dilyn ers graddio felly rydym yn falch iawn fod James a Joe yn dod â'u sioe deithiol i Hen Goleg - lleoliad perffaith ar gyfer digwyddiad sy’n dathlu campau rhai o gyn aelodau Clwb Canŵio Aberystwyth. "
Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad yn Aberystwyth ar 8 Mawrth yn costio £5 - £8 ac ar gael gan unrhyw aelod o bwyllgor Clwb Canwio Prifysgol Aberystwyth neu arlein www.ticketsource.co.uk/date/GGLLHG