Uned newydd i hybu iechyd a lles yn y gymuned
Dr Joanne Wallace o IBERS yn defnyddio sganiwr DXA yn WARU i ddadansoddi cyfansoddiad y corff – braster, asgwrn a chyhyrau.
06 Mawrth 2017
Bydd Prifysgol Aberystwyth yn lansio Uned Ymchwil Asesu Lles ac Iechyd (WARU) yn ystod Diwrnod Agored ar ddydd Mercher 15 Mawrth.
Lleolir yr uned yn Adeilad Carwyn James, Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ar gampws Penglais, a bydd gwyddonwyr yno yn cynnal gweithgareddau a phrosiectau ymchwil i hybu iechyd a lles yn y gymuned.
Diben yr uned ymchwil yw cyfrannu tuag at atebion ymarferol sy'n cynorthwyo i leihau baich clefyd cronig a’r niferoedd uchel o bobl sy’n cael eu derbyn i ysbytai yn y DU.
Mae croeso i holl drigolion canolbarth Cymru sydd yn 18 oed neu’n hŷn fynychu’r Diwrnod Agored, fydd yn cynnig ystod o asesiadau ac arddangosiadau iechyd a lles am ddim ar y dydd, gan gynnwys dadansoddi dietegol, gweithrediad yr ysgyfaint a chyfansoddiad y corff.
Bydd tîm WARU hefyd yn rhoi sylw i weithgarwch corfforol a mesur gallu corfforol, technoleg 'smart' ddigidol-gysylltiedig i atgyfnerthu ymddygiad iach, a rôl ymarfer corff mewn lleihau risg datblygu neu waethygu cyflyrau cronig fel clefyd y siwgr, strôc a chlefyd Parkinson.
Bydd y diwrnod hefyd yn cynnwys cyfres o sgyrsiau byrion 15 munud ar ystod eang o bynciau gan gynnwys strôc, breuder, clefyd y siwgr, ac ymdopi â straen i fyfyrwyr.
Dywedodd Dr Rhys Thatcher, arbenigwr ym maes Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Ein nod yn WARU yw cymell a chefnogi pobl yng nghanolbarth Cymru i fyw yn iachach, a’u cynorthwyo i helpu eu hunain. Mi fydd WARU yn ganolbwynt ar gyfer ymchwil iechyd a lles o fewn y Brifysgol ac mi fyddwn yn edrych yn rheolaidd am aelodau o'r gymuned i gymryd rhan yn ein prosiectau ymchwil, er budd y gymuned gyfan.”
Y prosiect ymchwil cyntaf i'w gynnal yn WARU fydd MWH@home (Monitro Lles yn y Cartref), sy’n cael ei ariannu gan EIT (Sefydliad Ewropeaidd dros Arloesedd a Thechnoleg) a’i arwain gan Yr Athro John Draper.
Dywedodd yr Athro Draper: “Bydd y prosiect hwn yn rhoi cyfle i bobl canolbarth Cymru i gyfrannu at ymchwil sydd yn anelu i wella rhagolygon iechyd pobl yn y DU.
“Mae disgwyliad oes ym Mhrydain wedi cynyddu'n gyson yn ystod y ganrif ddiwethaf, ond yn anffodus, ochr yn ochr â hyn gwelwyd cynnydd mewn gordewdra a chyflyrau iechyd cronig fel clefyd y siwgr math 2 a chlefydau’r galon, sydd yn aml yn gysylltiedig â diet.
“Er bod y rhan fwyaf o unigolion yn ymwybodol o beth yw diet iach, mae annog newid mewn ymddygiad er mwyn gwella arferion bwyta yn profi'n hynod o anodd. Nod WARU yw cyfrannu at wella hyn.”
Mae'r arfau cyfredol a ddefnyddir i asesu pa mor iach yw’r diet Prydeinig yn gyfyngedig iawn ond mae ymchwil diweddar yn IBERS wedi dangos bod modd dod o hyd i gemegau mewn wrin sy'n deillio o fwyd, a bod modd eu mesur er mwyn asesu diet yn gywir.
Un o amcanion allweddol y prosiect MWH@home yw penderfynu a all darparu mesur gwrthrychol o ddiet drwy ddadansoddi wrin, ar y cyd â dyddiaduron bwyd pobl, gynorthwyo unigolion i ddeall eu harferion bwyta gwirioneddol a hyrwyddo ffordd iachach o fyw.
Mi fydd unigolion sy'n gwirfoddoli ar gyfer y prosiect yn cael clorian bwyso 'smart' am ddim a thapiau mesur sy'n gysylltiedig â chyfrifiadur tabled i'w helpu i amcangyfrif cyflwr y corff yn eu cartrefi eu hunain fel cam pellach i hyrwyddo ffordd iachach o fyw.
Byddant yn ymweld â WARU i ymgymryd â chyfres gynhwysfawr o brofion i asesu eu Lles ac Iechyd a chael adborth ar eu profion wrin ar dri achlysur dros gyfnod o flwyddyn.
Bydd WARU hefyd yn cynnal cyfres o gyfleoedd MOT iechyd rheolaidd, gan ddechrau gyda'r MOT i rai dros 60 oed ar yr 22ain o Fawrth, digwyddiad sydd wedi cael ei gynnal yn llwyddiannus gan Dr Marco Arkesteijn a David Langford o IBERS, mewn cydweithrediad gyda Age Cymru yn adeilad Carwyn James dros y 3 blynedd ddiwethaf.