Llenor Cwrdaidd i gyfieithu’r Mabinogi
Salih Agir Qoserî
06 Mawrth 2017
Mae bardd a chyfieithydd Cwrdaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth yr wythnos hon (6-10 Mawrth 2017) i gyfieithu rhai o chwedlau'r Mabinogi i Kurmandji, iaith Gwrdeg sy’n cael ei defnyddio yn Nhwrci.
Mae Salih Agir Qoserî yn gweithio gyda Caroline Stockford, cyfieithydd barddoniaeth a llenyddiaeth Dwrcaidd sy’n gweithio yn Aberystwyth. Fe fydd hi yn ei thro yn gweithio ar destunau Saesneg eu hiaith o chwedlau Cwrdeg.
Wedi'i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Rhaglen Ewrop Greadigol yr Undeb Ewropeaidd, trefnwyd y cyfnod preswyl gan PEN Cymru a Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau (LAF) - llwyfan Ewropeaidd ar gyfer cyfnewid llenyddiaeth a chyfieithu sy’n rhan o Sefydliad Mercator ym Mhrifysgol Aberystwyth ac sy’n arwain menter Ewrop Lenyddol Fyw.
Yn ystod ei gyfnod preswyl, bydd Salih Agir Qoserî yn ymweld ag Ysgol Gyfun Penweddig yn Aberystwyth ac ysgol Bishop Vaughan yn Nhreforys, Abertawe.
Dywedodd Cyfarwyddwr Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau, Alexandra Büchler: "Un o'n prif amcanion yw gwneud ysgrifennu iaith leiafrifol yn fwy gweladwy felly rydyn ni’n falch iawn o fod wedi gallu trefnu’r ymweliad hwn â Chymru a’r cyfle i ddathlu cyfoeth llenyddol y Cwrdiaid yn Nhwrci."
"Mae Salih Agir Qoserî bellach yn byw yn ninas Mardin, Anatolia, ar ôl treulio pymtheg mlynedd yn Sweden. Mae wedi cyfieithu nifer o lyfrau Swedeg, Saesneg a Thwrceg i'r Gwrdeg, gan gynnwys 1984. Nawr mae'n troi ei sylw at straeon hudolus y Mabinogi a thrwy eu cyfieithu i Gwrdeg, bydd yn gwneud yr hyn y mae LAF yn ei wneud orau - sef rhoi llenyddiaeth ar daith."
Dywedodd Cyfarwyddwr PEN Cymru, Sally Baker: “Mae cefnogi hawliau ieithyddol a chyfieithu wrth wraidd Gweithgareddau PEN Cymru. Rydym felly wrth ein bodd cael cydweithio gyda LAF a Phrifysgol Aberystwyth wrth groesawu’r cyfieithydd Cwrdaidd Salih Agir Qoserî i Gymru, a chael cyfle i ddangos ein cefnogaeth i bob awdur Cwrdaidd a Thwrcaidd. Bydd ei ymweliadau ag ysgolion a’r digwyddiadau cyhoeddus yn tynnu sylw at sefyllfa’r iaith a’r diwylliant Cwrdaidd ac rydym yn falch o allu hwyluso cyfieithu’r Mabinogi i’r Cwrdeg a chwedlau Cwrdaidd i’r Gymraeg.”
Ar ddiwedd ei gyfnod preswyl, bydd Salih Agir Qoserî a Caroline Stockford yn cael cyfle i fynychu Ffair Lyfrau Llundain - un o brif ddigwyddiadau yng nghalendr y diwydiant cyhoeddi rhyngwladol.
Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau sy’n cyd-drefnu Canolfan Gyfieithu Lenyddol y Ffair Lyfrau a’i rhaglen hynod lwyddiannus o seminarau dros gyfnod o dridiau.