Blwyddyn mewn diwydiant ar gael i fyfyrwyr
Y fyfyrwraig Jennifer Campbell sy’n astudio ar gyfer gradd Gwyddor Amaethyddiaeth ac Anifeiliaid yn IBERS, ac a fu’n gweithio fel Swyddog Treialon Cynorthwyol gyda Bayer Crop Science.
03 Mawrth 2017
Mae Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth am gynnig dewis cwrs newydd sy'n caniatáu i fyfyrwyr elwa o flwyddyn amhrisiadwy o brofiad gwaith gyda chyflogwyr proffil uchel.
Mae cwrs pedair blynedd sy'n cynnwys blwyddyn o brofiad gwaith perthnasol wedi bod yn ddewis ar gyfer cyrsiau gradd amaethyddol IBERS ers nifer o flynyddoedd.
Yn dilyn llwyddiant cynyddol o fyfyrwyr i gael gwaith perthnasol o ganlyniad i hyn, caiff y dewis hwn ei gynnig ar bob cwrs gradd a gynigir gan IBERS o fis Medi 2017.
Mae Jennifer Campbell yn fyfyrwraig yn ei blwyddyn olaf yn IBERS ac yn astudio ar gyfer gradd Gwyddor Amaethyddiaeth ac Anifeiliaid ac fe gwblhaodd blwyddyn mewn diwydiant yn ddiweddar.
Dywedodd Jennifer: “Mae'r flwyddyn mewn diwydiant wedi fy ngalluogi i gael profiad uniongyrchol gwerthfawr o'r diwydiant amaethyddol yn y meysydd sydd o ddiddordeb i fi. Dechreuais fy ngwaith ar fferm âr ac yna treuliais y gaeaf yn wyna ac yna’n gweithio fel Swyddog Treialon Cynorthwyol gyda Bayer Crop Science ym Mawrth 2016."
Mae Jennifer eisoes wedi sicrhau cyflogaeth fel cynorthwyydd bridio glaswellt porthiant a threialon ar gyfer DSV Seeds a bydd yn cychwyn wedi iddi raddio'r haf hwn, ac mae o’r farn ei bod wedi llwyddo i gael y swydd, i raddau helaeth, oherwydd y sgiliau a’r cymwysterau amaethyddol gwerthfawr a gafodd yn ystod ei blwyddyn mewn diwydiant.
“Dysgais lawer yn ystod fy mlwyddyn yn gweithio ac mae wedi rhoi gwell dealltwriaeth i mi o fyd modiwlau trydedd flwyddyn. Bu treulio’r flwyddyn mewn amgylchedd gwaith hefyd yn gymorth i’m gwneud yn fwy hyderus, sydd wedi fy helpu pan yn mynychu cyfweliadau am swyddi i raddedigion.
“Mae'r gefnogaeth gan ddarlithwyr IBERS drwy gydol y cyfnod yn ardderchog. Byddwn yn argymell y flwyddyn mewn diwydiant i unrhyw fyfyriwr, p'un a oes ganddynt brofiad blaenorol ai peidio; mae’r cysylltiadau sydd i'w gwneud a'r sgiliau y gellir eu datblygu yn amhrisiadwy.”
Mae IBERS yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau uchel ei bri gan gynnwys Biowyddoniaeth Milfeddygol, Astudiaethau Ceffylau, a Sŵoleg ac yn Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol (NSS) 2016 cafodd yr Athrofa 100% ar gyfer Gwyddor Anifeiliaid, Cadwraeth Cefn Gwlad a Bioleg Planhigion o safbwynt boddhad myfyrwyr.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cyflogadwyedd IBERS, Dr Les Tumilty: "Un o'r ffyrdd gorau i ddatblygu cyflogadwyedd yn y dyfodol yw dangos cymhwysedd yn y gweithle. Mae gwneud profiad gwaith fel rhan o'r cwrs yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ddisgleirio ac i ddatblygu sgiliau perthnasol i’r gwaith, yn ogystal â datblygu arbenigedd technegol.”
Yn ogystal â manteisio ar gysylltiadau gyda diwydiant IBERS caiff myfyrwyr eu hannog a chymorth i ddatblygu eu cysylltiadau eu hunain gyda diwydiant, a gydag arweiniad gan staff, i ddatblygu eu cyfleoedd eu hunain i ddiwallu eu hanghenion a'u diddordebau unigol.
Ychwanegodd Cyfarwyddwr IBERS yr Athro Michael Gooding: “Rwy'n falch iawn y caiff ein holl fyfyrwyr gradd yn awr y cyfle i brofi cyfnod yn y gweithle ac arddangos eu sgiliau i gyflogwyr. Mae'n bwysig o safbwynt IBERS ein bod, nid yn unig yn datblygu myfyrwyr gwybodus ond hefyd myfyrwyr sydd â'r sgiliau byw a'r hyder i greu gyrfaoedd llwyddiannus a gwneud gwahaniaeth yn y gymdeithas sydd ohoni.”
Bydd y flwyddyn o brofiad gwaith yn cynnwys nifer o ddarnau o waith cwrs sy'n cyfrif tuag at y radd derfynol. Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr gyflawni o leiaf 9 mis o waith llawn amser, ond gall fod yn hwy os ydynt yn dymuno.
I gael gwybod mwy am gyrsiau IBERS ac am eu prosiectau ymchwil cyfredol ewch i wefan IBRS.