Anrhydeddu dwy am eu cyfraniad i’r Gymraeg

Felicity Roberts (chwith) a Jaci Taylor

Felicity Roberts (chwith) a Jaci Taylor

01 Mawrth 2017

Bydd dwy sydd wedi treulio rhan helaeth o’u hoes yn gweithio ym maes Cymraeg i Oedolion yn cael eu hanrhydeddu mewn seremoni arbennig yn yr Hen Goleg nos Fawrth 7 Mawrth 2017.

Caiff cyfraniad oes Felicity Roberts a Jaci Taylor ei gydnabod fel rhan o’r Gwobrau Dydd Gŵyl Dewi cyntaf erioed i’w trefnu gan y Brifysgol.

Yn wreiddiol o Chwilog ger Pwllheli, mae Felicity wedi bod yn dysgu Cymraeg i oedolion yn Aberystwyth ers 1968.

Yn ardal Birmingham y cafodd Jaci ei geni ond fe ddechreuodd ddysgu Cymraeg ar ôl symud i Aberystwyth yn 1980, cyn dod yn diwtor ei hun yn 1984.

Y gwestai gwadd ar noson Gwobrau Dydd Gŵyl Dewi fydd Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cysylltiadau Allanol  Cymdeithas Bêl-droed Cymru a chyn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Bydd e’n cyflwyno gwobrau i gyfanswm o saith o bobl mewn chwe chategori gwahanol, gydag enwau’r pump enillydd arall yn cael eu datgelu ar y noson:

  • Cyfraniad Oes (Felicity Roberts a Jaci Taylor)
  • Cydnabyddiaeth Arbennig
  • Dysgwr Rhagorol
  • Pencampwr y Gymraeg (Staff)
  • Pencampwr y Gymraeg (Myfyriwr)
  • Astudio Drwy’r Gymraeg

 

Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Aberystwyth gyda chyfrifoldeb am y Gymraeg: “Mae’r Gymraeg yn rhan annatod o’n cenhadaeth fel Prifysgol ers ein sefydlu. Cyfle i ddathlu’n diwylliant dwyieithog yw Gwobrau Dydd Gŵyl Dewi a chydnabod cyfraniadau arbennig gan staff a myfyrwyr. Staff fel Felicity Roberts a Jaci Taylor sydd ill dwy yn adnabyddus trwy Gymru a thu hwnt am eu gwaith yn y maes hwn. Mae miloedd o unigolion wedi elwa yn sgil eu hegni a’u brwdfrydedd at ddysgu, ac mae’n diwylliant yn gyfoethocach o’u herwydd. Edrychwn ymlaen at eu gwobrwyo nhw a’r enillwyr eraill ar y seithfed o Fawrth.”

Fe fydd pob un o’r enillwyr yn derbyn englyn personol gan Eurig Salisbury, bardd a nofelydd sydd hefyd yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd y Brifysgol.

Adran Gwasanaethau’r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth sydd wedi trefnu’r seremoni wobrwyo, dan arweiniad y pennaeth Mari Elin Jones.

“Mae yna nifer o bobl ar hyd a lled y Brifysgol, yn aelodau staff ac yn fyfyrwyr, sydd yn gwneud gwaith pwysig iawn i hyrwyddo’r Gymraeg. Maen nhw’n hybu ac yn annog, yn cyfieithu ac yn cynorthwyo, ac yn amlygu’n ddyddiol pa mor allweddol yw’r iaith. Trwy gynnal Gwobrau Dydd Gŵyl Dewi, rydyn ni’n gallu dangos ein gwerthfawrogiad o’u hymdrechion a dod at ein gilydd i ddathlu’n diwylliant,” dywedodd.

Cefndir Felicity Roberts

Magwyd Felicity ym mhentref Chwilog ger Pwllheli ar aelwyd Gymraeg. Ar ôl gadael yr ysgol, fe aeth i’r Coleg Normal ym Mangor i ddilyn cwrs hyfforddi athrawon ac ennill rhagoriaeth mewn egwyddorion ac ymarfer dysgu. Symudodd i Aberystwyth yn 1967 a’r flwyddyn ganlynol, fe ddechreuodd ddysgu Cymraeg i oedolion.

Yn ystod y 1970au, aeth ati i ddysgu iaith ei hun - Llydaweg i ddechrau, yna Gwyddeleg - cyn dilyn cwrs gradd mewn Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Gweithiai fel tiwtor rhan amser yn ystod y cyfnod hwn ac yn 1980, cafodd ei phenodi yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth, ac yn ystod ei 27 mlynedd yno dilynwyd ei modiwl poblogaidd Crefft Adfer Iaith gan sawl un a ddaeth yn adnabyddus iawn ym maes Cymraeg i Oedolion.

Yn gynnar yn yr 80au sefydlwyd CYD gan grŵp bach o bobl, a Felicity yn eu plith. Mudiad oedd hwn a ysbrydolwyd gan Yr Athro Bobi Jones i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg rhwng siaradwyr rhugl a dysgwyr mewn gwaith a hamdden. Mae Felicity wedi bod yn Drefnydd Côr CYD Aberystwyth ers blynyddoedd ac mae galw cyson am wasanaeth y côr yn yr ardal o hyd.

Yn 2006, fe gwblhaodd MA mewn Gwyddeleg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn 2007, fe’i penodwyd yn Diwtor Drefnydd gyda Chanolfan Cymraeg i Oedolion Prifysgol Aberystwyth. Ar hyn o bryd mae’n tiwtora 12 awr yr wythnos ac yn Gydlynydd Cwrs Haf Dwys Cymraeg Prifysgol Aberystwyth sydd yn rhedeg drwy fis Awst ac yn denu pobl o bedwar ban y byd.

Cefndir Jaci Taylor

Yn ardal Birmingham y cafodd Jaci ei geni. Fe symudodd i Gymru ym 1974, gan ymgartrefu yn Aberystwyth yn 1980 a dechrau dysgu Cymraeg. Bu’n mynychu dosbarthiadau Felicity Roberts, ynghyd â thiwtoriaid eraill, ac erbyn 1984 roedd wedi sicrhau Lefel O Cymraeg Ail Iaith. Yn fuan wedyn, daeth yn diwtor Cymraeg ei hun gan weithio yn y Brifysgol a Chyngor Sir Ceredigion. Bu’n gyfrifol am drefnu a chynnal cyrsiau dwys yng Ngholeg Addysg Bellach Ceredigion yn ogystal.

Roedd Jaci yn un o sylfaenwyr CYD yn y Canolbarth yn y 1980au, yn darparu cyfleoedd i ddysgwyr ymarfer eu Cymraeg wrth sgwrsio gyda siaradwyr rhugl. Cafodd ei phenodi’n Gydlynydd CYD yn 1996 ac yna’n Gyfarwyddwr, a bu yn y swydd tan 2007. Yna fe’i penodwyd gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Prifysgol Aberystwyth fel Swyddog Datblygu yn gyfrifol am farchnata a dysgu anffurfiol am gyfnod o ddeng mlynedd cyn ymddeol ym mis Ionawr, 2017.

Yn ei hamser hamdden, mae Jaci yn ffotograffydd brwd a defnyddiai ei lluniau’n aml yn y  cylchgronau cyfrwng Cymraeg i ddysgwyr y bu’n olygydd arnynt, sef Cadwyn CYD a’r Ddraig Werdd. Mae hi hefyd yn hoff o arddio, teithio, gwaith DIY a choginio.