Gŵyl Yrfaoedd Dewiswch Eich Dyfodol ym Mhrifysgol Aberystwyth
Chwith i'r dde: Rebecca Flanagan (Gyrfa Cymru) Lesley Clarke (Gyrfa Cymru), Rebecca Davies (Dirprwy Is-Gangehellor a Prif Swyddog Gweithredu, Prifysgol Aberystwyth) a David Moyle (Pennaeth Derbyn Israddedigion & Cyswllt Ysgolion, Prifysgol Aberystwyth)
28 Chwefror 2017
Bydd gŵyl yrfaoedd fawr i ddisgyblion ysgol uwchradd yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth heddiw, dydd Mawrth 28 Chwefror.
Trefnwyd Gŵyl Yrfaoedd Dewiswch Eich Dyfodol, y digwyddiad cyntaf o’i fath yn y sir, gan Gyrfa Cymru ar y cyd â Phrifysgol Aberystwyth, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Gwahoddwyd disgyblion o ysgolion uwchradd ledled Ceredigion i gymryd rhan yn y digwyddiad, a disgwylir tua 1,000 o ymwelwyr ar y diwrnod.
Dywedodd David Moyle, Pennaeth Derbyn Israddedigion a Chyswllt Ysgolion: “Mae Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn gweithio’n agos gyda Gyrfa Cymru ac ysgolion y sir ers nifer o flynyddoedd ar weithgareddau amrywiol. Mae’r Ŵyl Yrfaoedd – y gyntaf o’i math i’w chynnal yng Ngheredigion – yn gyfle ardderchog i ddisgyblion gwrdd ag amrywiaeth eang o arddangoswyr, gan gynnwys cyflogwyr a darparwyr addysg a hyfforddiant.”
Dywedodd Richard Spear, Prif Weithredwr Gyrfa Cymru: “Nod Gŵyl Yrfaoedd Dewiswch eich Dyfodol yw rhoi cyfle i bobl ifanc gwrdd â chyflogwyr, eu hannog i roi cynnig ar bethau newydd ac i ofyn cwestiynau am swyddi a gyrfaoedd penodol.
“Mae rhoi cyfle i bobl ifanc roi cynnig ar ystod o weithgareddau rhyngweithiol sy’n ymwneud â sectorau penodol yn eu galluogi i gael blas ar swyddi gwahanol, ac mae’n helpu i agor eu llygaid ynghylch dewisiadau a llwybrau gyrfaol nad ydynt o bosib wedi meddwl amdanynt o’r blaen.
“Mae digwyddiadau o’r fath yn arbennig o bwysig i’r disgyblion hyn gan y gallent fod hanner ffordd trwy eu cyrsiau TGAU neu Lefel A a byddant wrthi’n ceisio penderfynu beth i’w wneud ar ôl gadael yr ysgol neu’r coleg – boed hynny’n mynd ymlaen i’r chweched dosbarth, coleg, prifysgol neu wneud prentisiaeth, prentisiaeth uwch neu fynd yn syth i weithio. Mae pobl ifanc sy’n meithrin cyswllt â chyflogwr tra eu bod mewn addysg yn llai tebygol o fod yn bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) – yn y dyfodol.”
Cynhelir Gŵyl Yrfaoedd Dewiswch eich Dyfodol yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ac Undeb Myfyrwyr Aberystwyth rhwng 9yb–4yp heddiw.
AU5817