Dyfarnu Cadair o fri i hanesydd blaenllaw
Mae’r Athro Paul O'Leary wedi cyhoeddi'n helaeth ar hanes Cymru fodern ac Iwerddon, ac mae'n gyd-Gyfarwyddwr Rhwydwaith Ymchwil Iwerddon-Cymru.
27 Chwefror 2017
Mae un o ysgolheigion mwyaf blaenllaw'r byd ar hanes y Gymru fodern, yr Athro Paul O'Leary, wedi cael ei benodi i Gadair Hanes Cymru Syr John Williams ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Wedi'i sefydlu yn 1931, mae hon yn gadair waddoledig er cof am ‘sylfaenydd' y Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Syr John Williams, a roddodd gasgliad o lyfrau i ffurfio craidd y Llyfrgell.
Yr economegydd E. A Lewis oedd y deilydd cyntaf, ac yn fwy diweddar, mae Ieuan Gwynedd Jones, J. Beverley Smith ac Aled Gruffydd Jones wedi arddel y teitl.
Mae’r Athro Paul O'Leary wedi cyhoeddi'n helaeth ar hanes Cymru fodern ac Iwerddon, ac mae'n gyd-Gyfarwyddwr Rhwydwaith Ymchwil Iwerddon-Cymru.
Ymlith ei lyfrau mae Claiming the Streets: Processions and Urban Culture in South Wales, c.1830-1880 (2012) ac Immigration and Integration: the Irish in Wales, 1798-1922 (2000).
Mae’r Athro O’Leary hefyd yn gyd-awdur llyfr sydd ar fin ei gyhoeddi yn edrych ar sut mae strydoedd yn cael eu defnyddio ar gyfer protestiadau a dathliadau yn y cyfnod modern.
Dywedodd Pennaeth yr Adran Hanes a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth, yr Athro Martyn Powell: "Rydym wrth ein bodd gyda phenodiad yr Athro O'Leary i gadair sy’n arwydd nid yn unig o statws blaenllaw yn y ddisgyblaeth, ond sydd hefyd â’r fath adlais o ran hanes a diwylliant Cymru."