Iolo Williams yn agor arddangosfa Archaeopteryx
Yn agoriad swyddogol arddangosfa Archaeopteryx gyda Iolo Williams mae Dr Richard Bevins, Dr Caroline Buttler a Dr David Anderson o Amgueddfa Cymru – National Museum of Wales, a Louise Jagger a Dr Rhodri Llwyd Morgan o Brifysgol Aberystwyth
17 Chwefror 2017
Mae arddangosfa treftadaeth Jwrasig sy'n cynnwys yr Archaeopteryx hynafol wedi cael ei hagor yn swyddogol yn yr Hen Goleg ym Mhrifysgol Aberystwyth gan y naturiaethwr a'r cyflwynydd teledu Iolo Williams.
Daeth dros 200 o oedolion a phlant at ei gilydd yn yr Hen Goleg nos Fawrth 14 Chwefror 2017 ar gyfer y noson lansio, a oedd yn cynnwys sesiwn holi ac ateb fywiog gydag Iolo Williams ac arbenigwyr o Amgueddfa Cymru-National Museum Wales a Phrifysgol Aberystwyth.
Mae’r arddangosfa yn cael ei hariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri (CTL) ac mae ar fenthyg o Amgueddfa Cymru – National Museum Wales, gyda ffosilau ychwanegol o gasgliadau'r Brifysgol.
Gall ymwelwyr alw heibio’r Hen Goleg unrhyw adeg rhwng 10yb – 4yp o ddydd Llun i ddydd Sadwrn tan 21 mis Ebrill 2017, ac mae mynediad am ddim.
Mae cyfres o weithgareddau a sgyrsiau hefyd yn rhan o'r rhaglen ac fe fydd y manylion yn cael eu cyhoeddi ar ’dudalen digwyddiadau'r Brifysgol.
Ac yntau’n Gymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgol Aberystwyth, dywedodd Iolo Williams bod cael gwahoddiad i agor yr arddangosfa yn fraint.
"Nes i dyfu lan yn naturiaethwr â diddordeb arbennig mewn adar, ac yn y cefndir drwy gydol yr amser hwn roedd Archaeopteryx – y ffosil arbennig yma sy’n ddolen gyswllt goll rhwng ymlusgiaid – sef y deinosoriaid - ac adar.
"Bydden i’n darllen amdano yn fachgen, ac felly mae cael arddangosfa yma yn Aberystwyth o'r Archaeopteryx a ganfuwyd yn yr Almaen yn anrhydedd go iawn a bydden i’n annog pawb i ddod draw i’w gweld."
Dyddio mae’r Archaeopteryx o'r cyfnod Jwrasig hwyr, tua 150 miliwn o flynyddoedd yn ôl, ac mae’n ddeinosor sy’n ymdebygu i aderyn, gyda dannedd miniog a chrafangau.
Ochr yn ochr â'r castiau a hanes yr Archaeopteryx, mae castiau o greaduriaid cynhanesyddol eraill, bywyd gwyllt morol, a llystyfiant a roddwyd gan y botanegydd arloesol Agnes Arber ac sydd bellach yn rhan o gasgliadau'r Brifysgol.
Gan fod yr arddangosfa ar agor yn ystod yr hanner tymor ysgol a'r gwyliau Pasg, bydd sesiynau treftadaeth rhyngweithiol ar gyfer teuluoedd yn cael eu trefnu mewn partneriaeth ag Amgueddfa Ceredigion.
Elfen drawiadol arall yw model 11 troedfedd o hyd o’r Tyrannosaurus Rex, a gafodd ei greu gan aelodau Fforwm Gymunedol Penparcau ar gyfer carnifal y dref y llynedd.
Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Roedd cyffro go iawn yn yr Hen Goleg ar gyfer agoriad yr arddangosfa hynod ddiddorol hon, sy’n amlwg wedi dal dychymyg pobl hen ac ifanc. Yn dilyn llwyddiant arddangosfa Y Gwyll cyn y Nadolig, wele brawf pellach o'r galw sydd yn lleol ar gyfer sesiynau trafod ac arddangosfeydd o ansawdd uchel sy'n dod â'r gymuned gyfan at ei gilydd."
Dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru – National Museum Wales, David Anderson, a fynychodd y lansiad: Y Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru: “Rwy'n gobeithio y bydd yr arddangosfa yn llwyddiant mawr a’r dechrau’n unig i’n partneriaeth gyda Phrifysgol Aberystwyth. Mae’r Hen Goleg yn adeilad gwych sydd â photensial enfawr fel gofod arddangos a lleoliad diwylliannol newydd o bwys yng Nghymru. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio yn y dyfodol, i rannu straeon am wrthrychau a sbesimenau o gasgliadau cenedlaethol Cymru, gyda phobl o bob cwr o Gymru a thu hwnt.”
Dywedodd Dr Richard Bevins, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil Amgueddfa Cymru National Museum Wales, sydd wedi bod yn chwarae rhan fawr yn y prosiect: “Mae gweithio ar yr arddangosfa hon wedi bod yn fraint wirioneddol, nid yn unig oherwydd y cyfle i rannu stori hyfryd yr Archaeopteryx gyda mwy o bobl, ond hefyd oherwydd fy nghysylltiadau personol â Phrifysgol Aberystwyth. Mae'n lle arbennig sy'n cynnig ei hun i arddangosfeydd fel y rhain.”
Ychwanegodd Richard Bellamy, Pennaeth CDL yng Nghymru: "Diolch i gyllid gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae'r prosiect hwn wedi creu cyfle newydd i sefydliadau i weithio gyda'i gilydd er budd pobl leol a thwristiaid. Rydym yn gwybod bod yna gryn ddiddordeb mewn treftadaeth Jwrasig ac mae’r arian hwn yn golygu y bydd mwy o bobl yn cael cyfle i weld a dod i wybod am gasgliadau pwysig na fyddai fel arall ar gael yn Aberystwyth. Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn falch iawn i estyn ei chefnogaeth."
Mae'r arddangosfa wedi cael grant o £9,800 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, a hwnnw’n cael ei ategu gan rodd hael o £5,000 gan Dr Terry Adams, daearegwr a Chymrawd er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth, a £3,700 gan CronfaAber.