Prifysgol Aberystwyth yn cynnal 10fed Colocwiwm BCSWomen Lovelace
Aelodau pwyllgor trefnu Colocwiwm BCSWomen Lovelace 2017 (chwith i’r dde) Dr Amanda Clare, Cydlynydd Siaradwyr; Dr Hannah Dee, Cadeirydd; Dr Edel Sherrat, Cydlynydd Poster a Dr Helen Miles, Is-Gadeirydd.
15 Chwefror 2017
Bydd prif gynhadledd gyfrifiadura'r Deyrnas Unedig sy’n cymell mwy o fyfyrwyr benywaidd i fynd i fyd cyfrifiadureg a Thechnoleg Gwybodaeth yn dathlu ei 10fed pen-blwydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Ebrill 2017.
Sefydlwyd Colocwiwm BCSWomen Lovelace gan Dr Hannah Dee, Uwch Ddarlithydd yn yr Adran Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Cynhelir y gynhadledd eleni ar Ddydd Mercher 12 Ebrill ac mae digwyddiadau wedi'u cynllunio ar gyfer y noson gynt a'r diwrnod canlynol.
Enwyd y gynhadledd undydd ar ôl y mathemategydd Ada, Iarlles Lovelace, sy'n cael ei hadnabod fel rhaglennydd cyfrifiadur cyntaf y byd, a’r nod yw dod â myfyrwyr, menywod mewn technoleg a chyflogwyr at ei gilydd.
Prif siaradwr y gynhadledd eleni fydd Dr Sue Black OBE, sylfaenydd BCSWomen a sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol TechMums, menter gymdeithasol sy'n darparu hyfforddiant technegol i famau mewn ardaloedd difreintiedig.
Ymysg y siaradwyr eraill a gadarnhawyd y mae Milka Horozova o Google a Carrie Anne Philbin, Cyfarwyddwr Addysg gydag Ymddiriedolaeth Raspberry Pi.
Yn ogystal, cadarnhawyd nawdd gan Google, sydd yn brif noddwr (ac yn dychwelyd am y 10fed flwyddyn yn olynol), BCS, GE, Bloomberg, Dell, Scott Logic ac Amazon.
Mae Dr Dee a'i chyd-drefnwyr yn disgwyl mwy na 200 o gynrychiolwyr o bob cwr o'r DU i fynychu eleni, o'i gymharu â'r 60 a fynychodd y digwyddiad cyntaf a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Leeds yn 2008.
Maen nhw hefyd yn galw ar fyfyrwyr sy'n astudio cyfrifiadureg neu bynciau cysylltiedig i gymryd rhan mewn cystadleuaeth poster sy'n cynnig y posibilrwydd o deithio a llety am ddim i'r gynhadledd.
Bydd y rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu dewis ar sail crynodeb 250 gair a gyflwynir gan bob ymgeisydd ar agwedd o gyfrifiadura, ac mae cystadlaethau ar wahân ar gyfer y flwyddyn 1af, 2il flwyddyn, israddedigion blwyddyn olaf a myfyrwyr MSc.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw Dydd Gwener 17 o Chwefror. Mae rhagor o wybodaeth am sut i fynd i mewn ar gael ar-lein.
Ysbrydolwyd Dr Hannah Dee i sefydlu Colocwiwm BCSWomen Lovelace yn dilyn ei phrofiad cynnar o gynadleddau.
“Y gynhadledd ymchwil gyntaf erioed i mi fynychu oedd un ar olwg gyfrifiadurol yn 2004. Tua hanner ffordd drwy gyflwyno fy mhapur sylweddolais mai fi oedd yr unig fenyw yn yr ystafell, ac roedd yn eithaf rhyfedd. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, roeddwn yn mynychu digwyddiad menywod mewn cyfrifiadureg lle'r oedd y gwrthwyneb yn wir, ac er fy amheuon roedd yn brofiad cadarnhaol. Dyna pryd y sylweddolais y byddwn wedi mwynhau gallu mynychu digwyddiad o'r fath fel myfyriwr israddedig, ac felly fe es ati i sefydlu un.”
“Mae myfyrwyr Aberystwyth wedi mynychu'r digwyddiadau BCSWomen Lovelace blynyddol bob blwyddyn ers 2011, ac yn 2014 llwyddodd y criw i ennill £1000 o wobr rhyngddynt. Mae staff Aberystwyth wedi chwarae rhan bwysig hefyd, gyda thîm ohonom yn cynorthwyo gyda threfniadau’r gynhadledd yng Nghaerfaddon, Nottingham, Reading, Caeredin a Sheffield. Mae'n wych felly cael dod â hi adref ar gyfer ei 10fed pen-blwydd.”
Cafodd cyfraniad Dr Dee ei gydnabod gan Computer Weekly yn 2016 a’i rhoi yn y 9fed safle ar rhestr menywod mwyaf dylanwadol maes Technoleg Gwybodaeth yn y Deyrnas Unedig.
"Mae digon o dystiolaeth erbyn hyn fod cael safbwyntiau gwahanol yn bwydo i mewn i'r broses o wneud penderfyniadau yn arwain at benderfyniadau gwell. Mae adroddiad McKinsey Women Matter yn dangos bod busnesau gyda byrddau amrywiol yn perfformio'n well, ac nid yw hyn yn ymwneud â rhyw yn unig”, meddai Dr Dee.
“Y broblem gyda chyfrifiadureg yw ei fod yn fyd hen, gwrywaidd a gwelw - rydym yn ddiwydiant lle mae 15% o’r gweithlu technegol yn fenywod. Y rheswm pam fod Google, Amazon a llawer o’r prif gyflogwyr eraill yn ymuno â ni yn y Colocwiwm BCSWomen Lovelace Colocwiwm yw oherwydd eu bod yn awyddus i recriwtio pobl - maent am gael menywod disglair yn eu timau.”
I nodi’r pwynt, cyfeiriodd Dr Dee at ap iechyd a ddatblygwyd yn ddiweddar gan gwmni technoleg blaenllaw nad oedd yn gallu cofnodi misglwyf menywod.
“Daeth i’r amlwg nad oedd menyw ar ei tîm datblygu. Rydych yn meddwl, mae hwn yn beth mawr i fod wedi ei anghofio ac mae’r math hyn o beth yn digwydd drwy'r amser”, ychwanegodd.
Mae rhagor o wybodaeth am Colocwiwm BCSWomen Lovelace 2017 ar gael yma, a manylion y gystadleuaeth poster ar-lein yma.