Agor enwebiadau ar gyfer Gwobrau Dysgu UMAber
Dr Neil Taylor (canol) o’r Adran Gyfrifiadureg yn derbyn Gwobr Dysgu Arbennig oddi wrth Lauren Marks, Swyddog Addysg Undeb Myfyrwyr Aberystwyth a’r Athro John Grattan, Is-Ganghellor Dros Dro yn noson Gwobrau Dysgu 2016. Credit: Alex Stuart & AJFS Photography
14 Chwefror 2017
Mae enwebiadau ar gyfer Gwobrau Dysgu Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, sydd yn eu chweched flwyddyn, bellach ar agor.
Caiff y gwobrau eu trefnu yn flynyddol gan Undeb Myfyrwyr Aberystwyth gyda chefnogaeth y Brifysgol, ac maent yn cynnig cyfle i gydnabod cyfraniad staff sy’n addysgu a'r rhai nad ydynt yn addysgu, a chynrychiolwyr academaidd ar draws y Brifysgol am eu gwaith drwy gydol y flwyddyn academaidd.
Mae myfyrwyr yn cael eu gwahodd ar hyn o bryd i gydnabod staff a chyd-gynrychiolwyr myfyrwyr drwy enwebu unigolion neu adrannau am un o’r tair-gwobr-ar-ddeg sydd ar gael.
Y categorïau ar gyfer 2017 yw:
- Darlithydd y Flwyddyn
- Aelod Staff Ategol / Gwasanaethu'r Flwyddyn
- Cynrychiolydd Academaidd y Flwyddyn
- Goruchwyliwr y Flwyddyn Ôl-raddedig
- Goruchwyliwr y Flwyddyn – Israddedig
- Adran y Flwyddyn
- Hyrwyddwr yr Iaith Gymraeg
- Athro Ôl-raddedig y Flwyddyn
- Gwobr Ddysgu Arloesol
- Tiwtor Personol y Flwyddyn
- Gwobr Adborth Eithriadol
- Gwobr Cam Nesaf
- Gwobr Arwain Cydraddoldeb
- Clod Arbennig
Tra bydd y rhan fwyaf o'r enwebiadau yn cael eu gwneud gan fyfyrwyr, mae aelodau staff hefyd yn cael eu hannog i enwebu mewn dau gategori - Cynrychiolydd Academaidd y Flwyddyn a Gwobr Arwain Cydraddoldeb.
Mae categori Clod Arbennig wedi ei gynnwys hefyd, sy'n caniatáu i'r panel beirniadu gydnabod gwaith neu gyfraniadau arbennig i fywyd myfyrwyr nad ydynt efallai yn ffitio’n glir i un o'r categorïau eraill.
Wrth sôn am lwyddiant y Gwobrau, dywedodd Ryan Myles, Swyddog Addysg Undeb y Myfyrwyr: "Mae Gwobrau Dysgu UMAber yn rhoi cyfle i fyfyrwyr wobrwyo a diolch i aelodau staff a chynrychiolwyr myfyrwyr sydd wedi cael effaith ar eich cyfnod yma yn Aberystwyth.
"Eleni bydd y gwobrau yn fwy ac yn well nag erioed o'r blaen, gyda 13 o wobrau i’w cyflwyno eleni gan gynnwys Darlithydd y Flwyddyn, Hyrwyddwr yr Iaith Gymraeg, Tiwtor Personol y Flwyddyn ac Adran y flwyddyn. Yn ogystal mae gennym wobrau newydd sy'n cynnwys gwobr Adborth Eithriadol, Addysgu Arloesol a gwobr y Cam Nesaf. Rwy'n edrych ymlaen at glywed mwy am yr holl bethau gwych sy'n digwydd yma yn Aberystwyth."
Dywedodd yr Athro John Grattan, Is-Ganghellor Dros Dro: "Mae Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr Aberystwyth wedi tyfu a datblygu dros y chwe blynedd diwethaf i ddod yn un o uchafbwyntiau calendr y Brifysgol. Mae'r gwobrau yn galluogi myfyrwyr i gydnabod a gwobrwyo arfer da a dathlu cyfraniad rhyfeddol ein staff dysgu ac atodol wrth wella’r profiad rhagorol i fyfyrwyr.
"Mae'r profiad y myfyrwyr wedi bod yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud yma ym Mhrifysgol Aberystwyth ar hyd yr amser. Amlygwyd hyn gan ganlyniadau’r Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol diweddaraf oedd yn dangos bod boddhad cyffredinol ymhlith ein myfyrwyr yn 92%, sy’n golygu bod Prifysgol Aberystwyth yn un o'r pum prifysgol eang ei darpariaeth orau yn y DU a’r orau un yng Nghymru am foddhad cyffredinol myfyrwyr."
Mae'r cyfnod enwebu ar gyfer Gwobrau Dysgu UMAber yn cau ar 12 Mawrth. Yna bydd yr enwebiadau yn cael eu barnu gan banel o staff a myfyrwyr, gydag enillydd ac unigolion sy’n derbyn cymeradwyaeth arbennig yn cael eu dewis ar gyfer pob categori.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn noson ddathlu ar nos Wener 5 Mai.