Aberystwyth yn dathlu Blwyddyn y Ceiliog
Blwyddyn y Ceiliog yw 2017
10 Chwefror 2017
Bydd cymuned Tsieineaidd Prifysgol Aberystwyth yn dathlu'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd nos Sadwrn 11 mis Chwefror 2017.
Caiff yr achlysur ei nodi gyda noson o berfformiadau a cherddoriaeth, a bwyd traddodiadol ym Medrus Mawr, Penbryn dan ofal Cymdeithas Diwylliant Tsieineaidd y Brifysgol.
Mae'r noson yn dechrau am 6.30pm ac mae gwahoddiad cynnes i unrhyw un sy'n dymuno bod yn bresennol, gyda bwyd Tsieineaidd wedi ei gynnwys yn y pris mynediad o £8 a £4 i blant ysgol gynradd.
Mae’r dathliadau eleni yn nodi dechrau blwyddyn y Ceiliog sydd yn arwydd o ffyddlondeb a phrydlondeb - ar gyfer hynafiaid oedd heb glociau larwm, roedd caniad y ceiliog yn arwyddocaol gan ei fod yn deffro pobl ar gyfer dechrau gweithio.
Bydd y digwyddiad hefyd yn nodi Gŵyl y Llusern, sef y 15fed niwrnod, a'r olaf, o ddathliadau’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd gyda llusernau lliwgar o bob lliw a llun yn addurno’r ystafell - rhai â phosau arnynt i’w dyfalu gan y rhai sy'n mynychu'r ŵyl.
Nodwedd arall o Ŵyl y Llusern yw’r yuanxiao, twmplen fechan gron o flawd reis wedi’u llenwi gyda gwahanol gynhwysion a honno ar ffon. Mae’r bwyd arbennig yma yn cynrychioli aduniad, cytgord a hapusrwydd.
Yn draddodiadol ar noson yr ŵyl, mae aelodau o'r teulu yn eistedd gyda'i gilydd i flasu yuanxiao ac i werthfawrogi’r lleuad lawn.
Dywedodd Swyddog Rhyngwladol Dwyrain Asia Prifysgol Aberystwyth, Dandan Wu: "Mae'r Gymdeithas Myfyrwyr Tsieineaidd ar y cyd â'r Swyddfa Ryngwladol wedi bod yn brysur yn paratoi ar gyfer Blwyddyn Newydd Tsieineaidd a Gŵyl y Llusern sy'n rhan o raglen eang o ddathliadau amlddiwylliannol rydyn ni’n eu cynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth. I rai myfyrwyr, mae'n rhan o'u treftadaeth draddodiadol, i eraill mae'n gyfle i fod yn rhan o ddiwylliant arall a mwynhau'r bwyd, y dawnsio a’r hwyl sydd i’w gael."
Dywedodd Ruth Owen Lewis, Cyfarwyddwr y Swyddfa Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Rydym wedi bod yn dathlu'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth ers sawl blwyddyn bellach ac mae'n gyfle gwych i'n myfyrwyr Tsieineaidd i rannu eu diwylliant gyda'r gymuned ehangach. Mae'n enghraifft arall o gyfraniad gwerthfawr ein myfyrwyr rhyngwladol i'r Brifysgol, ac rydym yn edrych ymlaen at noson o adloniant a bwyd gwych.”
Cyfarchiadau Blwyddyn Newydd Mandarin
- 新年好 – Xīnnián hǎo – Blwyddyn Newydd Dda! (ynganiad sshin-nyen haoww)
- 吉星高照 - Jíxīng gāozhào – Bydd Ffawd yn gwenu arnoch (ynganiad jee-sching-go-cho)
- 恭喜发财 -Gōngxǐ fācái 'Hapusrwydd a ffyniant!’ (Ynganiad gong-sshee faa-tseye)
Mae tocynnau ar gyfer Dathliad Blwyddyn Newydd Cymdeithas Diwylliant yn £8 ac ar gael drwy:
zeq@aber.ac.uk, 07843 811659 neu ar-lein.