Arweinyddiaeth wleidyddol mewn byd anwadal
Yr Athro Richard Beardsworth
08 Chwefror 2017
Noder os gwelwch yn dda fod y ddarlith hon wedi ei gohirio.
Bydd academydd blaenllaw o Brifysgol Aberystwyth a phennaeth yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn defnyddio’i ddarlith agoriadol i gyflwyno ar y pwnc hynod amserol o arweinyddiaeth a chyfrifoldeb gwleidyddol mewn byd sy’n gynyddol anrhagweladwy ac ansicr.
Caiff y ddarlith ei chyflwyno gan yr Athro Richard Beardsworth ym Mhrif Neuadd yr Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol am 6.00pm ar nos Fawrth, 14 Chwefror.
Gyda mudiadau gwleidyddol poblogaidd ar gynnydd mewn llawer o wledydd hemisffer y gorllewin a heriau i'r drefn wleidyddol yn dod yn eu sgil, bydd yr Athro Beardsworth yn darlithio ar y pwnc ‘The Political Moment: Political Responsibility and Leadership in a Globalized, Fractured Age’.
Yr Athro Beardsworth yw Athro Gwleidyddiaeth Ryngwladol EH Carr a chaiff ei gydnabod yn rhyngwladol am ei waith ym meysydd athroniaeth, moeseg wleidyddol a chysylltiadau rhyngwladol. Fe hefyd yw Cyfarwyddwr Moeseg y Brifysgol.
Dywedodd Milja Kurki, Cyfarwyddwr Ymchwil yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol: "Mae hwn yn gyfle gwych i glywed gan feddyliwr blaenllaw ar lefel byd-eang yn cyflwyno araith allweddol ynglŷn â sut y gallwn negodi ein heriau gwleidyddol byd-eang presennol a thwf cenedlaetholdeb poblogaidd mewn ffyrdd newydd a mwy effeithiol. Mewn cyfnod o ansicrwydd mawr, dyma gyfle i arbenigwyr ar wleidyddiaeth ryngwladol i wneud cyfraniad drwy gynnig gweledigaeth amgen a llwybr newydd ar gyfer y drefn ryngwladol. Dyma’r union bwnc fydd yr Athro Beardsworth yn mynd i’r afael ag ef yn y ddarlith hon."
Cyn ymuno â Phrifysgol Aberystwyth, bu’r Athro Beardsworth yn dysgu am nifer o flynyddoedd ym Mhrifysgol Americanaidd Paris ac ym Mhrifysgol Rhyngwladol Florida.
Mae gwahoddiad agored i bawb fynychu'r ddarlith ac mae mynediad am ddim. Bydd derbyniad diodydd yn dilyn y ddarlith.
Yr Athro Richard Beardsworth
Richard Beardsworth yw Athro Gwleidyddiaeth Ryngwladol EH Carr yn adran Wleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth. Cyhoeddodd yn helaeth mewn athroniaeth wleidyddol Ffrangeg ac Almaeneg ac athroniaeth technoleg yn y 1990au (Derrida and the Political, Nietzsche, Technics and Time (cyf.)) cyn symud i ddisgyblaeth Cysylltiadau Rhyngwladol yn 2005. Gweithiodd wedyn ar y berthynas a’r tensiynau rhwng moeseg a gwleidyddiaeth byd (Cosmopolitanism and International Relations Theory, 2011). Mae ei ddiddordebau diweddar yn ymwneud â chlymu theori normadol a gweledigaeth wleidyddol gyda heriau byd-eang empeiraidd a mynegi'r hyn sydd yn ffurfio yn fyd-eang yn wleidyddol gyda gwleidyddiaeth is fyd eang mewn oes lle mae sofraniaeth yn cael ei hadnewyddu.