Myfyrwyr Seicoleg yn gwirfoddoli dramor
Un o'r lluniau a dynnwyd gan y myfyrwyr yn ystod eu cyfnod yn Sri Lanka
30 Rhagfyr 2016
Mae myfyrwyr Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi bod yn brysur nid yn unig yn astudio eleni ond hefyd yn gwirfoddoli dramor.
Mae Chelsey Morris yn treulio blwyddyn yn astudio yn Malta ar hyn o bryd, a bydd yn cynorthwyo yn ei hamser sbâr gyda phrosiectau ffoaduriaid a chymorth i ddioddefwyr.
Yn gynharach eleni, fe dreuliodd Chelsey a dwy fyfyrwraig arall - Harriet Batchelor ac Emily Jacques - gyfnod o bump wythnos yn Sri Lanka ar leoliadau iechyd meddwl a drefnwyd gan fudiad gwirfoddoli SLV Global.
Bu’r myfyrwyr yn gweithio mewn timau oedd yn trefnu ac yn cynnal gweithgareddau therapi mewn canolfannau seiciatrig i bobl â chanddynt ystod o broblemau iechyd meddwl.
Buon nhw hefyd yn cynorthwyo gyda gweithgareddau cymdeithasol i blant ac oedolion gydag anableddau, ynghyd â dysgu Saesneg yn y gymuned.
Dywedodd Harriet Batchelor: “Cefais gyfle i ymweld â nifer o brosiectau a chwrdd â defnyddwyr gwasanaeth oedd ag ystod eang o anghenion arbennig a phroblemau iechyd meddwl. Roedd y profiad yn gallu bod yn anodd ar adegau ond gan fwyaf roedd gweld defnyddwyr gwasanaeth yn cymryd rhan yn y gweithgareddau roedden ni wedi eu trefnu yn hynod galonogol.”
Yn ogystal â gweithio gyda’r gymuned leol, bu’r gwirfoddolwyr yn byw gyda theuluoedd ac roedd hynny medden nhw yn cynnig cipolwg unigryw iddynt ar fywyd a diwylliant Sri Lanka.
Dywedodd Emily Jacques: "Mae gwirfoddoli trwy SLV yn brofiad gwych sy’n rhoi’r cyfle i chi ymweld â gwlad brydferth tra hefyd yn cael profiad gwerthfawr yn y sector iechyd meddwl. Trwy fyw mewn cartrefi lleol, rydych yn cael eich trin fel aelod o’r teulu ac yn cael syniad go iawn o fywyd pob dydd pobl Sri Lanka.”
Un arall o blith y myfyrwyr o Aberystwyth a fu’n gwirfoddoli yw Chelsey Morris: “Rwyf wedi cael profiad ymarferol o’r gwahaniaeth anhygoel gall gwirfoddoli ei wneud ac fe fydden i’n annog unrhyw un i fanteisio ar y cyfle. Rwyf wedi dysgu cymaint - am wlad brydferth a’i diwylliant, am iechyd meddwl, ac amdanaf i fy hun fel unigolyn.”
Dywedodd Dr Nigel Holt, Pennaeth yr Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae gradd Seicoleg o Aberystwyth yn dysgu cymaint o bethau i’n myfyrwyr gan gynnwys ystod o sgiliau i’w defnyddio yn y gweithle.
“Mae cael profiad o’r gweithle yn rhan arbennig o bwysig o’r profiad prifysgol ac rydym yn cydweithio gyda nifer o fudiadau i helpu ein graddedigion i gyflawni eu hamcanion.
“Rwy’n falch iawn o’r ffordd y mae’r myfyrwyr hyn wedi gwirfoddoli a chofleidio profiadau newydd wrth astudio gyda ni. Mae gwybod sut i roi ar waith y sgiliau maen nhw wedi eu dysgu fel myfyrwyr yma yn gymorth mawr ar ôl iddyn nhw orffen yn Aberystwyth a symud ymlaen gyda’u gyrfaoedd a’u huchelgeisiau.”