Ethol naw academydd i Goleg Adolygu Cydweithwyr yr AHRC
Chwech o’r naw academydd o Aberystwyth sydd wedi eu hethol i Goleg Adolygu Cydweithwyr yr AHRC. (Ch-Dd) Dr Hywel Griffiths, yr Athro Peter Merriman, Dr Elin Royles, yr Athro Wini Davies, Dr Andrea Hammel, Dr Cathryn Charnell-White.
22 Rhagfyr 2016
Mae naw o academyddion Prifysgol Aberystwyth wedi cael eu gwahodd i wasanaethu ar Goleg Adolygu Cydweithwyr Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC).
Mae aelodau’r Coleg Adolygu yn arbenigwyr sy’n cynrychioli sefydliadau academaidd ac eraill, ac sy’n cwmpasu’r ystod o feysydd ymchwil y celfyddydau a'r dyniaethau.
Maen nhw’n darparu adolygiadau arbenigol o safon ar geisiadau am gyllid ac mae’r rhain yn cael eu hystyried fel rhan o brosesau penderfynu’r AHRC.
Mae'r naw academydd o Aberystwyth sydd wedi eu henwebu i fod ar y Coleg Adolygu Cydweithwyr yn gweithio naill ai yn Athrofa Daearyddiaeth, Hanes, Gwleidyddiaeth a Seicoleg y Brifysgol neu Athrofa’r Celfyddydau a'r Dyniaethau:
• Dr Berit Bliesmann de Guevara (Gwleidyddiaeth Ryngwladol)
• Dr Jeff Bridoux (Gwleidyddiaeth Ryngwladol)
• Dr Cathryn Charnell-White (Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd)
• Yr Athro Wini Davies (Ieithoedd Modern)
• Dr Hywel Griffiths (Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear)
• Dr Andrea Hammel (Ieithoedd Modern)
• Yr Athro Peter Merriman (Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear)
• Dr Elizabeth New (Hanes a Hanes Cymru)
• Dr Elin Royles (Gwleidyddiaeth Ryngwladol)
Yn ogystal â chael eu henwebu’n aelodau o’r Coleg Adolygu, mae’r Dr Berit Bliesmann de Guevara a’r Athro Peter Merriman hefyd wedi cael eu hethol ar Grŵp Rhyngwladol Coleg Adolygu Cydweithwyr yr AHRC.
Caiff adolygwyr rhyngwladol eu penodi i baratoi adolygiadau o gynigion ymchwil sydd â chyd-destun rhyngwladol.
Dywedodd yr Athro Chris Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil ac Ansawdd Academaidd Prifysgol Aberystwyth: "Mae aelodau Colegau Adolygu Cydweithwyr yn cael effaith sylweddol ar y penderfyniadau ariannu sy’n cael eu gwneud gan y Cynghorau Cyllido ac maen nhw’n hanfodol o ran sicrhau rhagoriaeth ymchwil yn y Deyrnas Gyfunol. Mae enwebu naw o'n hacademyddion i wasanaethu ar Goleg Adolygu Cydweithwyr yr AHRC yn arwydd o’r parch mawr sydd yna at ein hymchwilwyr ym maes y celfyddydau a'r dyniaethau."
Bydd yr aelodau sydd newydd eu penodi i Goleg Adolygu Cydweithwyr yr AHRC yn gwasanaethu am dymor o dair blynedd o 1 Ionawr 2017 tan 31 Rhagfyr 2020.