Partneriaeth rygbi newydd yn hyrwyddo bwyta’n iach

Lansio cynllun Menter Bwyta'n Iach Y Scarlets / Prifysgol Aberystwyth ym Mharc y Scarlets.

Lansio cynllun Menter Bwyta'n Iach Y Scarlets / Prifysgol Aberystwyth ym Mharc y Scarlets.

21 Rhagfyr 2016

Mae Prifysgol Aberystwyth a chlwb rygbi'r Scarlets wedi dod at ei gilydd i lansio Menter Bwyta'n Iach newydd ar gyfer plant ysgol.

Fel rhan o’r prosiect, bydd sesiynau bwyta'n iach yn cael eu cyflwyno mewn ysgolion uwchradd ar draws y rhanbarth am gyfnod o dair blynedd gyda gwobr arbennig yn cael ei dyfarnu’n flynyddol.

Lansiwyd y fenter yr wythnos ddiwethaf ym Mharc y Scarlets gyda disgyblion o Ysgol Gyfun y Strade, cyn-fyfyriwr Prifysgol Aberystwyth a phrop pen rhydd y Scarlets Wyn Jones, David Moyle (Rheolwr Cyswllt Ysgolion a Cholegau Prifysgol Aberystwyth), Llyr Thomas (Swyddog  Rygbi Prifysgol Aberystwyth) a staff o dimau Masnachol a Chymunedol y Scarlets.

Wrth sôn am y lansiad ar ran Prifysgol Aberystwyth, dywedodd David Moyle; "Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio ar y cyd gyda'r Scarlets ac ochr yn ochr gydag Wyn Jones, y chwaraewr sy’n cael ei noddi gennym a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.

"Mae'r Brifysgol eisoes yn cymryd rhan weithredol mewn nifer o weithgareddau gydag ysgolion ar draws y rhanbarth, ac rydym yn edrych ymlaen at ymuno gyda'r Scarlets i gyflwyno'r sesiynau bwyta'n iach newydd i ddisgyblion."

Meddai Rheolwr Masnachol y Scarlets Rhys Thomas; "Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Phrifysgol Aberystwyth i gyflwyno'r sesiynau a datblygu ein perthynas gyda sefydliad addysgol mor enwog."

Ym mis Awst 2016, Aberystwyth oedd y brifysgol gyntaf yng Nghymru i benodi Swyddog Rygbi mewn partneriaeth ag Undeb Rygbi Cymru i hyrwyddo’r gamp ymhlith myfyrwyr a’r gymuned ehangach.

Dywedodd Pennaeth Marchnata Prifysgol Aberystwyth, Julie McKeown: “Fel Prifysgol, rydyn ni’n awyddus i feithrin cysylltiadau agosach gyda’r gymuned ac i weithio mewn partneriaeth gyda mudiadau eraill er budd pobl ifanc yr ardal. Rydyn ni hefyd yn gweithio’n agos gyda’r Urdd i ddatblygu sgiliau chwaraeon a sgiliau arwain ymhlith y to ifanc.”