Gwobr Y Gymdeithas Frenhinol i Fathemategydd o Aberystwyth

Yr Athro Gennady Mishuris

Yr Athro Gennady Mishuris

16 Rhagfyr 2016

Mae gwaith Athro Mathemateg o Brifysgol Aberystwyth wedi cael ei gydnabod gan y Gymdeithas Frenhinol.

Mae'r Athro Gennady Mishuris, sy’n Athro Modelu Mathemategol yn Adran Mathemateg y Brifysgol, wedi ennill Gwobr Teilyngdod Ymchwil Wolfson y Gymdeithas Frenhinol.

Mae'r wobr yn darparu hyd at bum mlynedd o gyllid i gefnogi ymchwil o’r radd flaenaf yn y DU.

Yn wreiddiol o’r Undeb Sofietaidd ac yna Gwlad Pwyl, derbyniodd yr Athro Mishuris ddoethuriaeth o Brifysgol Leningrad (Prifysgol St Petersburg erbyn hyn) a gradd Doethur mewn Gwyddoniaeth o Brifysgol Technoleg Cracow.

Mae’n ymuno â rhestr o ymchwilwyr enwog sydd wedi cael eu cydnabod gan y Gymdeithas Frenhinol.

Eisoes dyfarnwyd i’r Athro Mishuris Gymrodoriaeth Marie Curie, Gymrodoriaeth Ymchwil Wadd Leverhulme a Chymrodoriaeth Alexander von Humboldt, ac mae ei waith wedi ei gydnabod gan y Weinyddiaeth Addysg dros Ymchwil Gwyddonol Gwlad Pwyl.

Yn 2104 cafodd ei urddo’n Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Mae gwaith diweddaraf yr Athro Mishuris wedi arwain at ddatblygiadau arwyddocaol yma maes  diagnosis llid y cymalau - cyflwr sy'n effeithio ar tua thraean o bobl 45 oed a hŷn yn y DU.

Gwnaeth hefyd waith pwysig ar fodelu mathemategol a rhifiadol ym maes hollti hydrolig, sef defnyddio hylif i ledaenu craciau mewn deunydd solet.

Mae hollti hydrolig yn digwydd mewn ystod o brosesau naturiol, gan gynnwys draenio llynnoedd o dan yr iâ ac mewn llosgfynyddoedd.

Mae dealltwriaeth ohono yn hanfodol wrth gynnal diogelwch argaeau, claddfeydd gwastraff daearegol, ac adeiladwaith storio a chadw carbon.

Yn fwy diweddar, daeth i amlygrwydd cyhoeddus wrth i gwmnïoedd ddefnyddio ‘ffracio’ i agor  cronfeydd olew a nwy newydd.

Dywedodd yr Athro Mishuris: "Roedd y newyddion am y wobr hon yn syndod mawr ac rwy’n falch iawn o’r gydnabyddiaeth gan y Gymdeithas Frenhinol. Ni allwn fod wedi gwneud hyn heb gefnogaeth fy nghydweithwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth ac rwy’n gobeithio y bydd y wobr hon yn ein galluogi i barhau â'n gwaith ymchwil a sicrhau cynnydd."

Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Pennaeth Mathemateg yr Athro Simon Cox: "Mae penodiad yr Athro Mishuris wedi profi’n llwyddiant mawr i Aberystwyth. Yn ystod ei amser gyda ni, mae wedi sicrhau naw prosiect yr UE gyda chyfanswm buddsoddiad o fwy na €10M. Mae iddo fod wedi cael ei anrhydeddu fel Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, fel Athro Belvedere (a ddyfarnwyd gan Arlywydd Gwlad Pwyl), ac yn awr yn ddeiliad Gwobr Teilyngdod Ymchwil Wolfson y Gymdeithas Frenhinol, yn tanlinellu ansawdd ei waith."

"Mae ei grŵp ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi bod yn allweddol wrth greu amgylchedd cyfoethog ac amrywiol o fewn yr adran Fathemateg ar gyfer ymchwil mathemategol a chydweithio rhyngwladol o safon byd", ychwanegodd yr Athro Cox.

O ganlyniad i'r wobr hon, bydd yr Athro Mishuris nawr yn gweithio ar ddadansoddi dulliau deinamig o hollti meta ddeunyddiau.

Mae’r strwythurau cymhleth yma yn gallu cael eu defnyddio i greu dyfeisiadau mantellu neu ailgyfeirio tonnau o wahanol natur ac ynni, ac fe allai’r rhain gael eu defnyddio i ddiogelu adeiladau rhag effeithiau daeargrynfeydd.