Prifysgol Aberystwyth yn coffáu myfyrwyr fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf
Llun o dîm peldroed Prifysgol Aberystwyth yn 1894-1895. Lee Roose yw’r trydydd o’r dde yn y rhest gefn.
15 Rhagfyr 2016
Mae enw pêl-droediwr chwedlonol Cymreig am gael ei ychwanegu at blac arbennig i goffáu myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Cafodd Leigh Richmond Roose ei gydnabod fel un o golwyr gorau ei gyfnod, ond yn 1916, fe’i lladdwyd yn ystod ymladd ffyrnig ar y Somme.
Er iddo farw, nid yw enw Roose wedi ymddangos ar y plac coffa sydd yn yr Hen Goleg i fyfyrwyr a gollodd eu bywydau.
Nawr mae aelodau o Gymdeithas Cyn-Fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wedi dod at ei gilydd i goffáu Roose a sicrhau bod y gôl-geidwad yn cael ei ychwanegu at y rhestr goffa.
Dywedodd Louise Perkins, Rheolwr Alumni yn Nhîm Datblygu a Chysylltiadau Alumni Prifysgol Aberystwyth: "Ers canrif, mae enw Leigh Richmond Roose wedi bod yn absennol o'r gofeb ryfel a godwyd gan Gymdeithas y Cyn-fyfyrwyr i anrhydeddu’r rhai o'r Brifysgol a gollwyd yn y Rhyfel Mawr. Nid ydym yn siŵr pam nad oedd ei enw yno, ond rydym nawr am gywiro’r gwall hwnnw a dathlu bywyd un o gyn-fyfyrwyr mwyaf lliwgar Aber."
Daeth Roose i Brifysgol Aberystwyth yn 1895 i astudio'r celfyddydau a’r gwyddorau a dechreuodd chwarae yn y gôl dros Aberystwyth.
Yn ystod ei flwyddyn gyntaf fel myfyriwr fe’i dewiswyd hefyd i chwarae dros Gymru, ac yn ôl y sôn roedd yn mynnu gwisgo hen grys pêl-droed Tref Aberystwyth o dan ei grys rhyngwladol.
Yn ystod gyrfa lwyddiannus iawn fel golwr, aeth Roose ymlaen i chwarae ar gyfer amrywiaeth o glybiau blaenllaw gan gynnwys Arsenal, Aston Villa a Sunderland.
Roedd ganddo fywyd lliwgar oddi ar y cae hefyd ac ym 1905 fe'i disgrifiwyd gan y Daily Mail fel un o ddynion di-briod mwyaf cymwys Prydain.
Ar ôl cwblhau ei astudiaethau yn Aberystwyth, aeth Roose ymlaen i astudio meddygaeth yn Llundain.
Pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf ym 1914 ymunodd â Llu Meddygol y Fyddin Frenhinol, er na chwblhaodd ei radd feddygol oherwydd ei yrfa pêl-droed lwyddiannus.
Yn ddiweddarach trosglwyddodd i’r Ffiwsilwyr Brenhinol a gwasanaethodd yn y ffosydd, gan ennill y Fedal Filwrol am ei ddewrder wrth atal ymosodiad yn defnyddio fflam daflwyr drwy daflu grenadau at y gelyn, er ei fod wedi ei anafu.
Ar 7 Hydref 1916, yn 38 oed, lladdwyd Roose wrth ymladd yn y Somme.
Ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, aeth Cymdeithas y Cyn-Fyfyrwyr ati i brynu 10 Maes Lowri a chyflwyno’r adeilad i’r Brifysgol er cof am aelodau staff, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr a gollodd eu bywydau yn y brwydo.
Y Gymdeithas hefyd a ddarparodd y rhestr goffa wreiddiol, sydd ddim yn cynnwys enw Roose. Mae’n bosibl na chafodd ei enw ei gynnwys oherwydd ei fod wedi ei gamsillafu ar ei bapurau recriwtio ac yn sgil hynny ar y gofeb i’r rhai a gollwyd ar y Somme yn Thiepval.
Syniad Rhiannon Steeds, cyn ysgrifennydd ac aelod hir ei gwasanaeth o’r Gymdeithas a chefnogwr brwd o Dîm Peldroed Tref Aberystwyth, oedd ychwanegu Roose at y rhestr goffa.
“Roeddwn am wneud rhywbeth oherwydd y diddordeb mewn nodi canmlwyddiant ers brwydr y Somme ac oherwydd ym mod yn teimlo rhyw atyniad rhyfedd at y cyn-fyfyriwr enigmatig a charismatig hwn.”
“Teimlaf yn gryf ein bod ni fel aelodau cyfredol o’r Gymdeithas yn gyfrifol am ofalu am ein gorffennol a’i bod yn ddyletswydd arnom i anrhydeddu ei hegwyddorion deublyg, gwasanaethu a chymrodoriaeth, hyd eithaf ein gallu ac ar ffurf gweithredoedd priodol,” ychwanegodd.
Fel gôl-geidwad gydag Aberystwyth, roedd Roose yn allweddol yn eu helpu i ennill Cwpan Cymru ym 1900, yr unig dro yn hanes y clwb o'r canolbarth iddynt ennill y tlws.
Eglurodd Tony Bates, Cadeirydd presennol Clwb Pêl-droed Aberystwyth, pam fod pobl o fewn y clwb mor hoff o Roose: "Mae ‘na statws eiconig yn perthyn i Leigh Richmond Roose o fewn y Clwb, falle’r cymeriad mwyaf yr ydym erioed wedi cael y fraint i’w alw yn un ohonon ni. Fe lenwodd y clwb pêl-droed a'r Brifysgol â balchder, yn sgil ei fywyd a'i aberth yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae hon yn deyrnged addas i golwr eithriadol, ffrind i Aberystwyth ac arwr rhyfel. "
Caiff y plac coffa ei ddadorchuddio yn yr Hen Goleg ar ddydd Gwener 16 Rhagfyr am 10:45am.