Cymeriadau Ceredigion yn ysbrydoli ffilmiau myfyrwyr

12 Rhagfyr 2016

Mae myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wedi creu casgliad o 19 o ffilmiau byr yn dogfennu agweddau gwahanol o fywyd yng Ngeredigion.

Cafodd y ffilmiau eu creu gan fyfyrwyr ail flwyddyn sy’n dilyn modiwl Dogfen Greadigol yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.

Bydd y ffilmiau pum munud o hyd yn cael eu dangos am y tro cyntaf mewn noson sgrinio arbennig yn stiwdio R Gerallt Jones yn adeilad Parry-Williams ar gampws Penglais heno, Nos Lun 12 Rhagfyr, sy’n dechrau am 6 o’r gloch.

Ymhlith y pynciau sy’n cael sylw mae portread o ffermwr ifanc o Landysul; hanes y teulu Davies sy’n rhedeg sinema’r Commodore yn Aberystwyth, a golwg ar y gwaith o ddiogelu trysorau a wnaed gan y Llyfrgell Genedlaethol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Cafodd nifer o’r ffilmiau eu hysbrydoli yn ystod taith bws o gwmpas y sir a drefnwyd gan gydlynydd y modiwl Dogfen Greadigol, Elin Morse.

“Un o brif hanfodion ffilm ddogfen lwyddiannus yw cael cyfranwyr o bob math o gefndir ac yn arbennig cyfranwyr o'r gymuned y mae'r ffilm yn ymwneud â hi. Diben y daith bws felly oedd cyflwyno'r myfyrwyr i'r gymuned ehangach yng Ngheredigion,” eglurodd Ms Morse sy’n Gymrawd Dysgu yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.

“Yn ystod y daith, fe aethon ni heibio Aberaeron, Llangeitho a Thregaron gan gyfweld â phobl yr ardaloedd hynny. Daeth y syniad am ffilm James Brothers pan gwnaethon ni stopio yn garej y cwmni yn Llangeitho, er enghraifft, a daeth y syniad am Y Mart ar ôl siarad â phobl yn Nhregaron.

“Rwy’n hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi cytuno i fod yn rhan o’r ffilmiau yma a ‘ngobaith tymor hir yw y bydd taith o’r fath yn digwydd yn flynyddol nawr, gan ddatblygu ymhellach y berthynas hollbwysig honno gyda’r gymuned.”

Mae pob un o’r bobl leol sy’n ymddangos yn y ffilmiau wedi cael gwahoddiad i’r noson sgrinio, ynghyd â’r 50 o fyfyrwyr fu wrthi’n eu cynhyrchu.

 Y llynedd, fe enillodd un o’r ffilmiau a gynhyrchwyd fel rhan o’r modiwl Dogfen Greadigol y brif wobr ar gyfer ffilm ddogfen yng ngŵyl ffilmiau myfyrwyr Ffresh yng Nghaerdydd.