Rhedeg ras 10k Aber er cof am yr Athro Mike Foley

Chwith i'r dde:  Huw Lewis, Elin Royles, Patrick Finney, Neil Glasser a Milja Kurki, fydd yn rhedeg er cof am yr Athro Mike Foley ddydd Sul 11 Rhagfyr.

Chwith i'r dde: Huw Lewis, Elin Royles, Patrick Finney, Neil Glasser a Milja Kurki, fydd yn rhedeg er cof am yr Athro Mike Foley ddydd Sul 11 Rhagfyr.

08 Rhagfyr 2016

Bydd tîm o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn rhedeg ras 10K Aberystwyth ar ddydd Sul 11 ​​Rhagfyr, 2016 er cof am gyn-bennaeth yr Adran yr Athro Mike Foley a fu farw ym mis Awst 2016.

Mae cyn-gydweithwyr, myfyriwr, cyn-fyfyrwraig a dau o blant Athro Foley yn rhan o'r tîm o naw a fydd yn codi arian i un o’r prif elusennau canser y gwaed Bloodwise.

Ymunodd yr Athro Foley â Phrifysgol Aberystwyth yn 1974 fel darlithydd mewn Llywodraeth a Gwleidyddiaeth America, a gwasanaethasant y Brifysgol am dros 40 mlynedd mewn amryw ffyrdd.

O dan arweiniad Dr Patrick Finney, Darllenydd yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, mae'r tîm yn gobeithio codi mwy o arian na’i targed cychwynnol o £1,000.

Meddai Patrick: “Bu marwolaeth Mike yn sioc fawr i gymuned Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac roeddem am sicrhau ein bod yn gwneud rhywbeth i gofio amdano. Roedd codi arian tuag at Bloodwise yn teimlo’n naturiol gan mai dyma’r elusen a bennwyd gan y teulu am roddion yn ei angladd.”

“Daeth y syniad o redeg y ras er cof am Mike i ni tua diwedd yr haf. Rydym wedi bod yn hyfforddi'n galed ers hynny, ac yn falch iawn o gael cwmni aelodau o'i deulu.”

Gellir cyfrannu at y gronfa Bloodwise drwy wefan Just Giving.

Mae cyfleoedd hefyd i gyfrannu drwy flychau casglu yn yr Adran a raffl sydd i’w thynnu ym mharti Nadolig yr Adran.