Cyn-fyfyrwraig Celfyddyd Gain o Brifysgol Aberystwyth yn cyrraedd rownd derfynol Arlunydd Tirwedd y Flwyddyn

Kim Whitby

Kim Whitby

23 Tachwedd 2016

Mae Kim Whitby, a raddiodd gyda gradd MA mewn Celfyddyd Gain o Ysgol Gelf Aberystwyth yn 2014, wedi cyrraedd rownd derfynol Arlunydd Tirwedd y Flwyddyn 2016 Sky Arts.

Roedd Kim, a fagwyd yn Aberaeron, yn un o 300 o artistiaid a wahoddwyd i herio arlunwyr proffesiynol yn y gystadleuaeth.

Cafodd y rownd gynderfynol,  a ddarlledwyd nos Fawrth 22 Tachwedd, ei chynnal yn Marget, Kent,  lle bu’r arlunwyr yn defnyddio’r harbwr yno fel eu hysbrydoliaeth.

Cwblhaodd Kim radd Baglor mewn Celf Addysg yng Ngholeg y Brenin Alfred, Winchester, cyn dysgu’n llawn amser am nifer o flynyddoedd fel athro babanod yn Nyfnaint ac yna yng Ngheredigion.

Ym mis Rhagfyr 2014, cwblhaodd radd Meistr mewn Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac ers hynny mae wedi canolbwyntio ar ddatblygu ei gwaith celf. "Bu fy amser ar y radd MA mewn Celfyddyd Gain yn Aberystwyth yn brofiad ‘Ronseal’. Roedd yn gwneud popeth roedd yn ei ddweud ar y tun!" meddai Kim. “Yr wyf yn sicr ym mod wedi gorffen fy nghwrs mewn lle proffesiynol na fuaswn wedi gallu dychmygu byth ei gyrraedd cyn fy MA.”

Dywedodd yr Athro John Harvey, o Ysgol Gelf Aberystwyth, a arolygodd Kim yn ystod ei MA: “Kim oedd un o’r Ôl-raddedigion mwyaf gweithgar, brwdfrydig a phenderfynol y cefais y pleser o’u dysgu erioed. Mae ei llwyddiant diweddar yn ganmoladwy, ond nid yw’n syndod.”

Bydd rownd derfynol Arlunydd Tirwedd y Flwyddyn 2016 yn cael ei darlledu ar ddydd Mawrth 29 Tachwedd ar Sky Arts am 8 yr hwyr.

Yr her i Kim a'r ddau arall sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol fydd creu darn o gelf sy’n darlunio Castell Uquhart ar lannau Loch Ness.

Bydd yr artist buddugol yn derbyn comisiwn £10,000 i ddehongli Petworth House yng Ngorllewin Sussex ar gyfer casgliad celf cenedlaethol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a £500 i'w wario ar ddeunyddiau CassArt.