Statws amgueddfa i’r Ysgol Gelf

Adeilad Edward Davies

Adeilad Edward Davies

18 Tachwedd 2016

Mae Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth wedi derbyn Statws Amgueddfa Achredig gan Gyngor Celfyddydau Lloegr.

Mae’r achrediad yn cydnabod bod Amgueddfa ac Orielau'r Ysgol Gelf yn arddel y safonau uchaf wrth reoli a gofalu am ei chasgliadau.

Aberystwyth a Glasgow yw’r unig ddwy ysgol gelf yn y Deyrnas Unedig i sicrhau statws amgueddfa achredig.

Yn ôl yr Athro Robert Meyrick, Ceidwad Celf a Phennaeth Amgueddfa ac Orielau Ysgol Gelf Aberystwyth: “Mae cadw’n statws fel amgueddfa achredig yn gamp arwyddocaol ac yn dyst i ymroddiad ein staff a’n myfyrwyr. Mae casgliadau ac orielau’r Ysgol bellach yn chwarae rhan fwy blaenllaw nag erioed mewn gweithgareddau i ennyn diddordeb y cyhoedd, yn ogystal â hyfforddi myfyrwyr celfyddyd gain a hanes celf sy’n mynd ymlaen i fod yn artistiaid, haneswyr celf, curaduron a gweithwyr proffesiynol mewn amgueddfeydd.”

Wedi’i lleoli yn adeilad hanesyddol Edward Davies ar y Buarth Mawr yn Aberystwyth, mae’r orielau’n cynnal arddangosfeydd o gasgliadau celfyddyd gain ac addurnol yr Ysgol.

Caiff sioeau teithiol eu rhaglennu’n gyson ynghyd ag arddangosfeydd o waith aelodau staff, myfyrwyr ac artistiaid gwadd.

Mae arddangosfeydd sydd wedi’u trefnu gan yr Ysgol hefyd wedi mynd ar daith i rai o brif orielau ac amgueddfeydd y DU.

O fis Tachwedd 2017 hyd fis Chwefror 2017, mae’n cynnal arddangosfa o’r enw ‘Didwylledd Tawel’ sy’n gasgliad o gelf ar fenthyg yn dathlu canrif ers geni’r arlunydd tirlun enwog John Elwyn (1916-1997) o Gastell Newydd Emlyn.

Mae cyfle hefyd i weld casgliad printiau a darluniau o ‘gasgliadau arlunwyr' yr Ysgol Gelf sy'n cynrychioli gyrfa artist unigol dros gyfnod o sawl degawd.

“Y brif ystyriaeth yn y broses o brynu casgliadau arlunwyr yw eu potensial o ran addysgu ac ymchwil. Mae’n enghraifft bellach o’n polisi i ddatblygu casgliadau sydd o bwys cenedlaethol ac sy’n adnodd gwerthfawr ar gyfer cenedlaethau o fyfyrwyr ac ysgolheigion y dyfodol,” meddai’r Athro Meyrick.

Cynhelir arddangosfeydd yn adeilad rhestredig Gradd II* trawiadol yr Ysgol Gelf ar y Buarth Mawr yn Aberystwyth yn ogystal ag Oriel Serameg Canolfan y Celfyddydau ar gampws Penglais. Mae pob sioe ar agor i’r cyhoedd ac mae mynediad am ddim.

Mae ansawdd addysgu celf fel pwnc yn Ysgol Gelf Aberystwyth ar y brig yn y Deyrnas Gyfunol yn ôl Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2016, gyda sgôr o 100% am fodlonrwydd cyffredinol y myfyrw­yr. Eleni roedd 100% o’i graddedigion mewn gwaith neu’n dilyn astudiaethau pellach o fewn 6 mis i raddio.