Gweddnewid labordy Daearyddiaeth
Llyfrgell Llandinam, cyn ei haddasu'n labordy
16 Tachwedd 2016
Mae labordy Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cael ei hadnewyddu ar drothwy canmlwyddiant yr Adran yn 2017.
Cafodd ystafell C66 Kidson yn adeilad Llandinam Campws Penglais ei defnyddio fel labordy dysgu ers yr 1970au, pan gafodd ei haddasu o fod yn llyfrgell.
Bu rhai o Athrawon mwyaf nodedig yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn dysgu yno, gan gynnwys yr Athro E G Bowen a'r Athro Clarence Kidson, yr enwyd yr ystafell ar ei ôl.
Dros gyfnod o bedwar mis o fis Hydref 2016 tan fis Chwefror 2017, bydd y labordy gemeg a gwyddorau ffisegol yn cael ei thrawsnewid yn adnodd gwyddoniaeth o’r radd flaenaf.
Agorir y labordy ar ei newydd wedd yn swyddogol ym mis Mawrth 2017 gyda'r seremoni yn nodi dechrau dathliadau canrif o addysgu Daearyddiaeth yn Aberystwyth.
Mae'r prosiect yn fuddsoddiad o hanner miliwn o bunnoedd ac yn cynnwys gwaith ar gragen yr adeilad yn ogystal â’r labordy.
Mae'r gwaith adnewyddu yn rhan o strategaeth fuddsoddi ehangach sydd wedi gweld mwy na £9m yn cael ei wario ar uwchraddio mannau dysgu ar draws y Brifysgol.
Dywedodd Rebecca Davies, Dirprwy Is-Ganghellor a Phrif Swyddog Gweithredu Prifysgol Aberystwyth: "Mae Daearyddiaeth yn Aberystwyth wedi mwynhau enw da eithriadol ers i’r pwnc gael ei gyflwyno gyntaf yn 1917. Mae'r buddsoddiad diweddaraf yn dangos y pwyslais a roddwn ar gynnal a gwella’r enw da hwnnw. Mae hefyd yn dangos pwysigrwydd y profiad myfyrwyr yma yn Aberystwyth a’n hymrwymiad i ddarparu’r cyfleusterau gorau i’n myfyrwyr, yn ogystal ag addysg o safon gan staff sydd yn weithgar ym maes ymchwil.”
Y nod yw creu amgylchedd dysgu hyblyg a fydd yn cymell myfyrwyr ac a fydd yn defnyddio’r dechnoleg amlgyfrwng ddiweddaraf ar gyfer dysgu.
Dywedodd yr Athro Neil Glasser, Cyfarwyddwr Athrofa Daearyddiaeth, Hanes, Gwleidyddiaeth a Seicoleg (IGHPP); "Y flwyddyn nesaf (2017-18) fydd y 100fed o ddysgu Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae'r Adran yn falch iawn o'i thraddodiad hir o addysg ac ymchwil rhagorol mewn Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear. Bydd y gwaith o uwchraddio’r labordy hon yn cael ei gwblhau yn gynnar yn 2017 a bydd agoriad ffurfiol y labordy yn nodi dechrau dathliadau canmlwyddiant. Mae nifer o ddigwyddiadau wedi cael eu cynllunio o fewn yr Adran i ddathlu ein 100fed blwyddyn, gan gynnwys Cyfres Darlithoedd y Canmlwyddiant a gwahoddiad agored i bob un o'n cyn-fyfyrwyr i ymuno â ni i ddathlu yma yn Aberystwyth ym Mehefin 2018.”
Arweinydd y prosiect ym Mhrifysgol Aberystwyth yw Nia Jeremiah o Datblygu Ystadau: "Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous a fydd yn darparu amgylchedd gwell o lawer i’n myfyrwyr a’n staff ar gyfer dysgu ac addysgu. Rydym yn ymwybodol bod y gwaith yn cael ei wneud yn ystod y tymor ac mae pob ymdrech yn cael ei gwneud i osgoi amharu ar waith dydd i ddydd. Rydym yn edrych ymlaen at ailagor y labordy pan fydd dysgu Semester 2 yn dechrau ym mis Chwefror 2017."
AU35216