Myfyriwr Aberystwyth yw 'Rhodocop' Eryri
Y Rhodocop Gruffydd Jones. Cyllidir ei ymchwil gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Aberystwyth.
15 Tachwedd 2016
Myfyriwr o Brifysgol Aberystwyth yw ‘Rhodocop’ newydd Eryri.
Cenhadaeth Gruffydd Jones, sy’n wreiddiol o Bwllheli, yw rheoli'r planhigyn gormesol estron Rhododendron trwy ddefnyddio gwyddor y pridd.
Yn ôl Gruffydd, sydd newydd ddechrau ar ddoethuriaeth yn Aberystwyth, mae’r Rhododendron yn anodd ei reoli ac yn fygythiad i fioamrywiaeth Cymru.
Bydd Gruffydd yn gweithio gyda Pharc Cenedlaethol Eryri ac Adnoddau Naturiol Cymru ac mae’r ymchwil wedi ei gyllido ar y cyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Aberystwyth.
Mae Rhododendron yn lledaenu'n gyflym, ac yn goresgyn ardaloedd helaeth o dir.
Amcangyfrifir bod cyfanswm yr ardal a gwmpesir gan Rododendron ym Mharc Cenedlaethol Eryri yn cyfateb i tua 5,000 o gaeau pêl-droed.
Bu Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (APCE), yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (YG) a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn llwyddiannus iawn o ran rheoli'r rhywogaeth hon yng Ngogledd Cymru gan ddefnyddio slaesio a llosgi ynghyd â chwynladdwr ar unrhyw aildyfiant.
Ond, mae'r broses hon yn gostus a llafur-ddwys ac nid yw'n atal egin blanhigion Rhododendron rhag sefydlu ar safleoedd sydd wedi’u clirio.
Dywedodd Gruffydd; "Rwy'n benderfynol o fynd at wraidd y broblem hon ac yn anelu i gyfrannu at ddiwedd y gormes ecolegol hwn drwy ganolbwyntio yn gyfan gwbl ar y pridd, gan wneud y pridd yn annymunol i'r hadau hynny i egino a sefydlu yn y dyfodol.
Os gallwn ni drin y pridd lle mae'n tyfu, yna ni fyddai’r rhywogaeth hon yn gallu ail-sefydlu trwy hadau, ar ôl clirio’r tir. Mae rhai garddwyr yn ei chael yn anodd iawn i dyfu Rhododendron addurniadol oherwydd y pridd, felly mae hyn yn rhywbeth y gallwn weithio arno.”
Mae Rhododendron yn tyfu’n wyllt o ganlyniad i nifer o ffactorau yng Nghymru ac mae'n ffynnu mewn hinsawdd wlyb, gymedrol a'r priddoedd asidig yn ein hucheldiroedd.
Mae Rhododendron hefyd yn cynhyrchu nifer helaeth o hadau a’r rheiny yn hadau bach iawn ysgafn sydd yn cael eu gwasgaru gan y gwynt gan deithio ymhell, a setlo yn aml mewn ardaloedd anghysbell megis ar fynyddoedd serth. Dyna pam ei bod yn anodd ei reoli.
Ail-gyflwynwyd rhywogaeth Rhododendron ponticum i Ynysoedd Prydain fel planhigyn addurniadol mewn gerddi ystadau yng nghanol y 1700au (efallai'n gynharach).
Yn dilyn hynny, dihangodd o diroedd nifer o ystadau ledled Cymru a dechreuodd goloneiddio cynefinoedd brodorol megis coetiroedd llydanddail a rhostiroedd.
Nid oes gan y Rhododendron elynion naturiol yng Nghymru ac nid oes yma blâu a phathogenau sy'n rheoli ei phoblogaeth o fewn ei chynefin brodorol.
Mae'r planhigyn hefyd yn diogelu ei ddail ifanc rhag cael eu pori gan dda byw trwy gynhyrchu cemegau gwenwynig.
Os yw da byw yn bwyta’r planhigyn fe all gael effeithiau andwyol a hyd yn oed amharu ar eu system nerfol. Mae'r rhan fwyaf o achosion o wenwyno yn effeithio ar ddefaid neu eifr pori sydd yn bwyta dail neu flagur.
Mae gwenwyn dynol yn brin, ond mae achosion wedi bod yn Nhwrci lle mae mêl yn cael ei halogi â’r tocsinau hyn oherwydd bod gwenyn yn ymweld â blodau Rhododendron.
Mae bwyta'r hyn a elwir y "mêl gwallgof" yn arwain mewn achosion prin i symptomau yn amrywio o benysgafnder a chyfog i’r rhith, ffitiau a hyd yn oed marwolaeth.
Awgrymir hefyd bod rhai o'r cemegau a gynhyrchir gan y planhigyn hwn yn atal twf rhywogaethau planhigion sydd mewn cystadleuaeth - math o ryfela cemegol planhigion.
Credir y gallai'r rhain gael eu cyflwyno i'r pridd o ddail a gwreiddiau Rhododendron wedi pydru, gan gyfrannu at yr ardaloedd o dir noeth o gwmpas y planhigyn.
Ychwanegodd Dr Dylan Gwynn Jones, yn un o oruchwylwyr PhD Gruffydd; “Mae hwn yn faes cyffrous i’w astudio, yn enwedig pe gallem droi’r drwg yn dda a manteisio ar y cemegau hyn sy'n chwynladdwyr naturiol ar gyfer defnyddiau eraill.”
Ar hyn o bryd mae Prifysgol Aberystwyth yn hysbysebu cyfle PhD ychwanegol KESS II i weithio ochr yn ochr â Gruffydd Jones Rhodocop o fis Ionawr 2017.