Prifysgol Aberystwyth i gynnal Cystadleuaeth Ymryson Cyfreitha Genedlaethol Cymru
(Chwith i’r Dde): Enillwyr y llynedd, Jake Moses a Josh Lovell a’r Anrhydeddus Mr Ustus (Syr) Roderick Evans QC. Llun: CJ Photography
15 Tachwedd 2016
Bydd Prifysgol Aberystwyth yn croesawu myfyrwyr y gyfraith o bob rhan o’r wlad y penwythnos hwn, pan fydd yn cynnal Cystadleuaeth Ymryson Cyfreitha Genedlaethol Cymru.
Cynhelir y gystadleuaeth ar 19-20 Tachwedd, gyda thimau o nifer o Ysgolion y Gyfraith yng Nghymru a’r Brifysgol Agored yn cystadlu am deitl clodfawr ‘Pencampwyr Ymryson Cyfreitha Cymru’.
Bellach yn ei hwythfed blwyddyn, sefydlwyd Ymryson Cyfreitha Genedlaethol Cymru sy’n cael ei noddi gan LexisNexis, gan fyfyrwyr o Aberystwyth yn 2019. Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, cyn-fyfyriwr Aberystwyth, a Chwnsler Cyffredinol Cymru ar y pryd, fu’n llywyddu yn y gystadleuaeth gyntaf. Dyma oedd y tro cyntaf i ymryson gyfreitha genedlaethol gael ei chynnal rhwng prifysgolion yng Nghymru.
Mae'r timau o fyfyrwyr pyllau cystadleuaeth yn erbyn pob ddadlau achosion cyfreithiol ffug arall mewn achos llys ffug. Ni fydd llwyddiant o reidrwydd yn deillio o ennill yr achos cyfreithiol, ond yn hytrach o ansawdd cyflwyniad y dadleuon cyfreithiol.
Caiff pob rownd o’r ymryson ei beirniadu gan weithwyr cyfreithiol proffesiynol, gyda’r rownd derfynol yn cael ei beirniadu gan yr Ei Anrhydedd Barnwr Milwyn Jarman QC ar Ei Anrhydedd Barnwr John Diehl QC.
Bydd israddedigion o’r drydedd flwyddyn yn cynrychioli Cymdeithas Ymrysona Aberystwyth sef Jake Woodcock a Jake Moses. Bydd Jake Moses yn amddiffyn y teitl a enillodd gyda Josh Lovell yn 2015. Y sefydliad sy’n ennill y gystadleuaeth sy’n ei chynnal y flwyddyn ganlynol.
Cynhelir y rownd derfynol yn y Llys Ffug, Ystafell 1.21 yn Adeiladu Elystan Morgan yng Nghanolfan Llanbadarn, am 10.30yb ar ddydd Sul 20 Tachwedd ac mae ar agor i'r cyhoedd.
“Mae Ysgol y Gyfraith Aberystwyth wrth ei bodd yn cynnal Cystadleuaeth Ymryson Cyfreitha Genedlaethol Cymru eleni” dywed Dr Glenys Williams, Arweinydd Thema mewn Cyfraith a Throseddeg yn Ysgol y Gyfraith Aberystwyth. “Mae’r penwythnos yn addo bod yn gyffrous ac yn brysur gyda thimau ymryson yn cystadlu yn erbyn ei gilydd i gyrraedd y rownd derfynol ddydd Sul.
“Mae’r gymdeithas ymrysona yn Ysgol y Gyfraith yn brysur iawn ac yn llwyddiannus. Yn wir, y llynedd, cafodd y tîm yr anrhydedd o gyflwyno ymryson gerbron y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Hughes o Ombersley, Ustus Goruchaf Lys y DU yn Llundain. Mae ymrysona’n cynnig cyfle i’n myfyrwyr ddysgu ac ymarfer eu sgiliau eiriolaeth mewn sefyllfaoedd anffurfiol a ffurfiol. I’r rheini sy’n dymuno mynd i broffesiwn y gyfraith, bydd y sgil hwn yn talu ar ei ganfed yn y dyfodol.”
AU12816