Gwobr Aur EcoCampus i Brifysgol Aberystwyth
Chwith i’r Dde: Chris Woodfield, Hyrwyddwr Cynaliadwyedd Bywyd Llety; Janet Sanders, Cynghorydd Ynni gyda’r Tîm Datblygu Ystadau; Alastair Johnstone, Cynghorydd Iechyd a Diogewlch IBERS; Heather Crump, Cynghorydd Iechyd Diogelwch a’r Amgylchedd a Paul Evans, Rheolwr Tiroedd y Brifysgol.
15 Tachwedd 2016
Dyfarnwyd Gwobr Aur EcoCampus i Brifysgol Aberystwyth yn dilyn archwiliad annibynnol o'i system rheoli amgylcheddol.
Mae'r wobr yn cydnabod gwaith y Brifysgol i wella ei hamgylcheddol a’i chynaliadwyedd ac mae’n braenaru’r tir at sicrhau Gwobr Platinwm EcoCampus, a’r safon amgylcheddol ryngwladol ISO1400.
Ymhlith y datblygiadau a welwyd yn ystod 2016 mae gosod goleuadau stryd campws newydd ynni isel LED a fydd yn defnyddio 80% yn llai o drydan.
Gosodwyd cysgodfeydd beiciau newydd wrth i’r Brifysgol gymell mwy o fyfyrwyr a staff i feicio i’r gwaith, ac mae’r gwaith o hau blodau gwyllt a phlannu bylbiau – mwy na 50 o fathau gwahanol – wedi bod yn parhau er mwyn hyrwyddo bioamrywiaeth a chymell bywyd gwyllt.
Rhoddwyd sylw arbennig hefyd i’r gwaith i ddiweddaru labordy C66 yn adeilad Llandinam, sydd yn mynd rhagddo ar hyn o bryd.
Mae’r gwaith yn cydymffurfio gyda chanllaw SKA Sefydliad Brenhinol y Tirfesurwyr Siartredig (RICS) ar gyfer adnewyddu adeiladau, sy’n cwmpasu’r defnydd o ddŵr, ynni, gwastraff, iechyd a lles, a phrynu deunyddiau.
Meddai Rebecca Davies, Prif Swyddog Gweithredol a Dirprwy Is-Ganghellor: “Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig amgylchedd dysgu a gweithio gwych ac rydym wrth ein bodd bod ymdrechion ein cydweithwyr ar draws y sefydliad i wella ar yr hyn sydd gennym wedi cael ei gydnabod gyda Gwobr Aur EcoCampus. Rydym nawr yn edrych ymlaen at sicrhau’r Wobr Platinwm ac i adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd eisoes er mwyn sicrhau cynaladwyedd y Brifysgol yn y dyfodol er budd yr amgylchedd y mae pawb yma yn ei mwynhau.”
Ym mis Gorffennaf 2016 dathlodd y Brifysgol ei thrydedd flwyddyn lwyddiannus fel rhan o Gynllun Effaith Gwyrdd Undeb yr NUS lle mae myfyrwyr yn archwilio gwaith adrannau ar draws y Brifysgol.
Ac ym mis Awst 2016, dyfarnwyd y Faner Werdd i Llanbadarn am y tro cyntaf, ac am yr ail flwyddyn yn olynol i Gampws Penglais.
Mae'r Brifysgol hefyd yn ymgynghori ar ei Strategaeth Cynaliadwyedd ac yn ceisio barn myfyrwyr a staff.
Ymysg y targedau arfaethedig mae:
- gostyngiad o 40% mewn allyriadau Carbon Deuocsid
- cynyddu nifer y cerbydau fflyd trydan
- lleihau'r defnydd o ddŵr o 20%
- lleihad o 75% yn y gwastraff adeiladu sy'n mynd i safleoedd tirlenwi.
Gellir cyfrannu at yr ymgynghoriad ar y Strategaeth Cynaliadwyedd tan ddiwedd mis Tachwedd.
AU34216