Gwobr Menter Aber yn cynnig llwybr llwyddiant

Tony Orme, Ymgynghorydd Gyrfaoedd (Menter) Gyrfaoedd Aber, Dylan Eurig Jones, Swyddog Cronfa Aber yn Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni, Louise Somerfield, Cynorthwyydd Cynorthwyol Menter, Gyrfaoedd Aber a Sian Furlong-Davies, Cyfarwyddwr Gyrfaoedd Aber yn lansio Gwobr Menter Aber.

Tony Orme, Ymgynghorydd Gyrfaoedd (Menter) Gyrfaoedd Aber, Dylan Eurig Jones, Swyddog Cronfa Aber yn Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni, Louise Somerfield, Cynorthwyydd Cynorthwyol Menter, Gyrfaoedd Aber a Sian Furlong-Davies, Cyfarwyddwr Gyrfaoedd Aber yn lansio Gwobr Menter Aber.

14 Tachwedd 2016

Mae cyfle i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wireddu eu breuddwydion entrepreneuraidd trwy gystadleuaeth Gwobr Menter Aber sydd wedi ei lansio heddiw, Dydd Llun 14 Tachwedd.

Mae’r gystadleuaeth yn cynnig hyd at £10,000 i'r unigolyn neu'r tîm buddugol i’w fuddsoddi mewn offer, adnoddau neu wasanaethau proffesiynol er mwyn troi ei/u dyfais neu’r syniad busnes cychwynnol yn realiti.

Mae'r broses yn syml; mae’r myfyriwr neu grŵp o fyfyrwyr, sydd â syniad am gynnyrch neu wasanaeth y gallent ei dro yn fusnes neu'n fenter gymdeithasol lwyddiannus, yn anfon cais i mewn.

Os ydynt ymysg y rhai sydd wedi eu dewis ar gyfer y rownd derfynol, bydd cyfle iddynt gyflwyno eu syniad i banel o alumni busnes y Brifysgol - tebyg i’r hyn a welir ar y gyfres deledu enwog Dragons' Den.

Dywedodd yr Athro Donald Davies, cyn-fyfyriwr ac un o feirniaid cystadleuaeth Gwobr Menter Aberystwyth; “Rwy'n falch iawn o fod unwaith eto ar y panel beirniadu ar gyfer Gwobr Menter Aberystwyth. Bu Aberystwyth yn gymorth mawr i mi sefydlu fy ngyrfa ac mae’n hyfryd cael y cyfle i annog cenhedlaeth newydd o fyfyrwyr i fyd busnes. Rydym yn chwilio am sbarc yn ein enillydd posibl neu dîm buddugol; mae angen i’r syniad i fod yn unigryw ac yn gyraeddadwy, ond rydym hefyd am fyfyriwr neu fyfyrwyr sydd yn credu yn eu cynnyrch a bod ganddynt y dycnwch i lwyddo.”

Bydd yr enillydd yn derbyn pecyn gwobrau hael gan gynnwys cymorth a buddsoddiad gwerth hyd at uchafswm o £10,000 i ddechrau'r busnes.

Dywedodd yr Ymgynghorydd Gyrfaoedd ym Mhrifysgol Aberystwyth, Tony Orme; “Mae ein myfyrwyr yn cael mynediad i rai o'n cyn-fyfyrwyr busnes mwyaf dylanwadol; cyfle i’w holi a darganfod cyfrinach llwyddiant. Mae'r arian yn gymorth gwych tuag at gostau cychwyn busnes ond y cyngor a'r cymorth fydd fwyaf gwerthfawr. Rydym yn ffodus bod gennym raddedigion sydd am roi rhywbeth yn ôl a gweithio gyda'r myfyrwyr, ac mae eu haelioni mewn amser a chyllid yn ysbrydoliaeth.”

Fel rhan o Gwobr Menter Aber, bydd Rhwydwaith 'AberPreneur' Aberystwyth yn cynnal amrywiaeth o weithdai a chyflwyniadau ysbrydoledig sy'n agored i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn datblygu eu sgiliau entrepreneuraidd a pharatoi eu cais.

Lansiwyd y gystadleuaeth yn 2012, a dyfarnwyd gwobr y flwyddyn gyntaf drwy Gronfa Flynyddol y Brifysgol i Jake Stainer am ei wefan ddysgu iaith Papora.com, sydd wedi mynd ymlaen i fod yn llwyddiant mawr.

Dywedodd Jake Stainer; "Roedd y syniad am Papora wedi bod gen i am rai blynyddoedd ond nid oedd gen i unrhyw fath o gyllid. Yn fy ail flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth penderfynais wneud cais. Ar ôl ennill, aeth Gwobr Menter Aber â’m busnes i'r lefel nesaf ac rwyf wedi llwyddo i gyflawni cymaint o bethau na fyddai wedi bod yn bosibl o'r blaen. Mae Papora yn tyfu bob mis, diolch i Gwobr Menter Aber.”

Yn ogystal â'r wobr ariannol i’r enillydd, bydd pawb sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn derbyn cyngor arbenigol gan y panel o alumni entrepreneuraidd llwyddiannus.

Dywedodd Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni, Louise Jagger; "Gall Gwobr Menter Aberystwyth olygu cymaint i rywun sydd â syniad gwych y mae angen y cymorth a'r arweiniad ariannol er mwyn ei sefydlu. Rydym yn ddiolchgar iawn i'r cyn-fyfyrwyr sy'n parhau i gyfrannu mor hael tuag at Gronfa Aber sy'n cyllido’r wobr ariannol ac i’r cyn-fyfyrwyr a chefnogwyr sydd yn rhoi o’u hamser i fod ar y panel beirniadu.”

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymdrechu i gynorthwyo ei holl fyfyrwyr gyda’r help sydd ei angen arnynt ar gyfer eu gyrfaoedd drwy’r tîm cynghori yn GyrfaoeddAber. Fel rhan o'r cymorth hwn, mae help ymarferol ar gael ar gyfer mentrau arloesi a dechrau busnes.

AU34916