Ailasesu George Whitefield
George Whitefield
11 Tachwedd 2016
Mae cyhoeddi llyfr ar fywyd a gwaith yr efengylydd Americanaidd o’r 18fed ganrif George Whitefield yn amserol yn sgil buddugoliaeth Donald Trump yn etholiadau arlywyddol yr Unol Daleithiau, yn ôl un o’r awduron.
Mae’r hanesydd o Brifysgol Aberystwyth Dr David Ceri Jones yn gyd-olygydd George Whitefield: Life, Context and Legacy (Oxford, 2016) gyda Geordan Hammond, sydd hefyd o Brifysgol Aberystwyth.
Mae'r casgliad o ysgrifau yn archwilio sawl agwedd ar fywyd a dylanwad yr efengylydd o’r ddeunawfed ganrif.
“Gydag efengylwyr yn y newyddion yn sgìl eu rôl allweddol yn ethol Darpar Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, mae ailasesiad o fywyd George Whitefield yn ymddangos yn arbennig o amserol,” meddai Dr Jones.
“Mae tarddiad y mudiad efengylaidd, sydd yn rym mor bwerus yng ngwleidyddiaeth gyfoes yr Unol Daleithiau, mewn cyfres o ddiwygiadau crefyddol a ddigwyddodd ledled Ynysoedd Prydain a’r trefedigaethau yng Ngogledd America yng nghanol y ddeunawfed ganrif. Dan arweiniad George Whitefield a John Wesley ym Mhrydain, a Whitefield a Jonathan Edwards yn America, ganwyd mudiad crefyddol newydd, Efengyliaeth.”
Erbyn heddiw mae George Whitefield yn angof i raddau helaeth y tu hwnt i gylchoedd crefyddol, ond ef oedd un o ffigurau cyhoeddus mwyaf adnabyddus ei gyfnod, a’r diwygiwr efengylaidd a deithiodd fwyaf.
Roedd Whitefield yn offeiriad Anglicanaidd, ac ysbrydolodd fudiad adnewyddu Protestannaidd yn sgil ei bregethu carismatig.
Y mudiad Methodistiaid Calfinaidd a sefydlodd mewn partneriaeth gyda'r Methodistiaid Cymreig ddaeth â’r Cymry i Fyd Iwerydd y ddeunawfed.
“Gyda'i weinidogaeth deithiol ar draws yr Iwerydd, a’i enwogrwydd oedd yn ymylu ar statws ‘seleb’, Whitefield oedd arweinydd y gymuned grefyddol newydd i bob pwrpas. Cawsai ei adnabod fel 'Apostol yr ymerodraeth Saesneg', a bu’n pregethu ledled Ynysoedd Prydain, ac ym mhob tref bron ar hyd arfordir dwyreiniol America. Ef oedd seren gyntaf y byd Eingl-Americanaidd,” meddai Dr Jones.
"Roedd persona Whitefield yn hynod hydrin, ac fe’i siapiwyd gan lawer o gynulleidfaoedd yn ystod ei oes, ac mae’r traethodau hyn yn dangos ei fod yn parhau i fod yn ffigwr dadleuol iawn."
Yn ogystal â'i berthynas â'i gyfoedion efengylaidd, mae'r llyfr yn ceisio gosod Whitefield o fewn cyd-destun ehangach, gan archwilio sut y cafodd ei lunio gan yr Ymoleuo, sut yr oedd yn ddinesydd byd yr Iwerydd, ac ar yr un pryd yn asiant integreiddio rhwng y byd newydd a'r hen, ac yn rym a oedd yn tynnu dwy ochr yr Iwerydd ymhellach ar wahân yn ystod y degawdau arweiniodd at y Chwyldro Americanaidd.
Disgrifiwyd y gyfrol fel y ‘llyfr ysgolheigaidd pwysicaf a gyhoeddwyd erioed ar Whitefield' (Douglas A Sweeney, Trinity International University), a gobaith Dr Jones yw y bydd y gwaith yn annog ailasesiad o waith “un o ffigurau mwyaf arwyddocaol a diddorol byd Iwerydd Prydeinig y ddeunawfed ganrif”.
Yn 2014 dyfarnwyd £115,527 gan Ymddiriedolaeth Leverhulme i Dr Jones ar gyfer ei brosiect 'George Whitefield a Phrotestaniaeth Drawsiwerydd' ac yn gynharach eleni (2016) arwyddodd gytundeb gyda Gwasg Prifysgol Rhydychen i gyhoeddi llythyron Whitefield yn llawn am y tro cyntaf. Disgwylir i’r gyntaf o saith cyfrol gael ei chyhoeddi yn 2018.
AU34316