Ailethol Athro yn y Gyfraith i gorff hawliau dynol Ewropeaidd

Yr Athro Ryszard Piotrowicz

Yr Athro Ryszard Piotrowicz

08 Tachwedd 2016

Mae’r Athro Ryszard Piotrowicz o Ysgol y Gyfraith Aberystwyth wedi'i ail-ethol i GRETA, grwp arbenigol Cyngor Ewrop sy’n brwydro yn erbyn masnachu pobl.  

Cafodd yr Athro Piotrowicz ei ethol Ddydd Gwener 4 Tachwedd 2016 fel cynrychiolydd  Prydain ar y corff sy’n cynnwys 15 o aelodau. Roedd 45 o wledydd wedi bwrw pleidlais yn yr etholiad yn Strasbwrg.

GRETA yw un o brif gyrff hawliau dynol Cyngor Ewrop. Mae'n monitro sut mae gwledydd yn cyflawni eu dyletswydd i amddiffyn hawliau pobl sy’n cael eu masnachu yn ogystal â'u hymdrechion i erlyn masnachwyr pobl.

Am yr eildro’n olynol, bydd yr Athro Piotrowicz yn gwasanaethu am dymor o bedair blynedd ac fe fydd ei waith yn ystod y cyfnod hwn yn cynnwys ymweld â gwledydd ledled Ewrop i asesu eu perfformiad o ran eu dyletswyddau gwrth-fasnachu.

Yn sgil y swyddogaeth hon, gall ei waith gael effaith wirioneddol a chadarnhaol drwy gyfrannu at ddiywgio polisi a’r gyfraith ar fasnachu pobl ac, yn bwysicaf oll, estyn cymorth i ddioddefwyr caethwasiaeth fodern.

Mae’n ofynol i unigolion sy’n cael eu henwebu ar gyfer aelodaeth o grŵp GRETA fod yn  adnabyddus am eu harbenigedd ym meysydd hawliau dynol, cynorthwyo a diogelu dioddefwyr a chymryd camau yn erbyn masnachu pobl, neu â chanddynt brofiad proffesiynol yn y meysydd sy'n dod o fewn cwmpas Confensiwn Cyngor Ewrop ar Weithredu yn erbyn Masnachu Pobl. 

Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd yr Athro Ryszard Piotrowicz: “Rydw i wrth fy modd cael fy ethol ar gyfer ail dymor ar grŵp GRETA. Mae fy ngwaith yn Strasbwrg dros y pedair blynedd diwethaf wedi fy ngalluogi i gael effaith go iawn ar y modd mae'r gyfraith yn diogelu dioddefwyr masnachu pobl, sydd yn aml wedi profi trais a dioddefaint eithriadol gan eu masnachwyr.”

Yr Athro Ryszard Piotrowicz

Ac yntau'n hanu o'r Alban, astudiodd yr Athro Piotrowicz ym Mhrifysgolion Dundee, Glasgow, Thessaloniki a Warsaw, yn ogystal ag astudio yn Sefydliad Materion Rhyngwladol Gwlad Pwyl yn Warsaw a Sefydliad Max-Planck y Gyfraith Ryngwladol yn Heidelberg.

Ar ôl cael ei Ddoethuriaeth yn 1987, cafodd swydd fel darlithiwr ym Mhrifysgol Tasmania am ddeng mlynedd cyn cael ei benodi'n Ddeon ar Gyfadran y Gyfraith yno.

Cafodd Gadair yn y Gyfraith yn 1999 ac mae hefyd wedi dysgu cyfraith ryngwladol ym Mhrifysgolion Glasgow a Durham. Mae'n un o Gymrodorion Alexander-von-Humboldt a bu'n athro gwadd yn y gyfraith ryngwladol mewn sawl gwlad.

Mae'n arbenigo ar gyfraith ymfudo a chyfraith ddyngarol ryngwladol, ac ar hyn o bryd mae wrthi'n gweithio'n bennaf ar y materion cyfreithiol sy'n codi o fasnachu pobl.

Mae wedi cynghori cyrff rhyngwladol, llywodraethau cenedlaethol a chyrff anllywodraethol ar y materion hyn. Mae'n aelod o Grŵp Arweinyddiaeth Atal Caethwasiaeth Cymru a bu'n aelod o Grŵp y Comisiwn Ewropeaidd o Arbenigwyr ar Fasnachu Pobl o 2008-15.

Mae'r Athro Piotrowicz wedi gweithio'n eang â sefydliadau rhyngwladol, gan gynnwys y Sefydliad dros Ddiogelwch a Chydweithredu yn Ewrop (OSCE), Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid (UNHCR), Sefydliad Rhyngwladol Ymfudo (IOM) a'r UE.