Bwrsariaeth Newydd i Fyfyrwyr Aberystwyth
Myfyrwyr ar gampws Prifysgol Aberystwyth
07 Tachwedd 2016
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi lansio bwrsariaeth newydd i fyfyrwyr, diolch i rodd hael gan ddyn busnes o Dde Affrica sydd bellach yn byw yng Nghymru.
Prif nod Bwrsariaeth Myfyrwyr Rashid Domingo yw cynorthwyo gyda chostau byw myfyrwyr sy’n dangos addewid academaidd ond sydd efallai’n cael eu rhwystro rhag mynd i Brifysgol am resymau ariannol.
Ar ôl creu nifer o ysgoloriaethau a bwrsariaethau yn ei Dde Affrica enedigol, roedd Mr Domingo yn awyddus i anelu ei ddyngarwch at Gymru a myfyrwyr o Gymru, ac mae’n dymuno cynorthwyo ymgeiswyr abl a haeddiannol i gyflawni eu haddewid academaidd.
Mae’r wobr yn werth hyd at £12,000 dros gyfnod o dair blynedd ac mae’n agored i ymgeiswyr ar gyfer unrhyw un o'n cyrsiau israddedig yn IBERS neu'r Adran Ffiseg sydd wedi mynychu ysgol uwchradd neu goleg yng Nghymru am gyfnod o dair blynedd o leiaf.
Gellir defnyddio’r fwrsariaeth i dalu am lety a chostau byw eraill, yn ogystal â chostau cysylltiedig ag astudiaethau, megis prynu llyfrau ac offer astudio.
Meddai Cyfarwyddwr y Swyddfa Ddatblygu a Chysylltiadau Alumni, Louise Jagger: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Rashid am ei rodd hael i’n myfyrwyr ac i’r Brifysgol. Mae ei ddyngarwch yn ysbrydoliaeth, nid yn unig o ran maint y rhodd ond hefyd ei uchelgais i wneud gwahaniaeth i’r myfyrwyr a’r adrannau y mae’n eu cynorthwyo.
“Fel prifysgol a sefydlwyd ar gefnogaeth ddyngarol dros 140 mlynedd yn ôl, mae Aberystwyth yn hynod freintiedig i gael cefnogaeth barhaus rhoddwyr sy’n bartneriaid a chyfeillion, ac edrychwn ymlaen i rannu’r effeithiau a ddaw yn sgil y fwrsariaeth hon â Rashid a’n holl gefnogwyr.”
Mae Dr Michael Rose yn Uwch Ddarlithydd yn Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig [IBERS] ym Mhrifysgol Aberystwyth a bydd ei fyfyrwyr yn elwa o’r fwrsariaeth: “Mae pryderon ariannol yn ffactor pwysig iawn i nifer o bobl ifanc wrth benderfynu mynd i’r Brifysgol ai peidio. Bydd bwrsariaeth Rashid Domingo yn rhoi myfyrwyr na fyddent fel arall mewn sefyllfa i fwynhau manteision addysg uwch yn Aberystwyth i ymroi i’w hastudiaethau heb orfod meddwl a ydynt yn gallu fforddio talu’r rhent.”
AU32216