Galw am fwy o fuddsoddiad mewn ymchwil i wyddoniaeth amaethyddol

04 Tachwedd 2016

Mae Athro Economeg o Brifysgol Aberystwyth, Peter Midmore, wedi galw am fwy o fuddsoddiad mewn ymchwil i wyddoniaeth amaethyddol.

Roedd yr Athro Midmore yn siarad mewn cynhadledd ryngwladol ar wyddoniaeth amaethyddol yn Ewrop sydd yn cael ei chynnal heddiw, dydd Gwener 4 Tachwedd, ym mhencadlys yr FAO, Corff Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig, yn Rhufain.

Clywodd y gynhadledd bod manteision cymdeithasol cryf yn deillio o gyllid cyhoeddus ar gyfer gwyddoniaeth amaethyddol.

"Mae ymchwil yn hanfodol i gynorthwyo’r diwydiant ffermio yn Ewrop i ymateb i heriau mawr megis ansefydlogrwydd prisiau bwyd, newid hinsawdd, a’r pwysau ar dir i dyfu cnydau ar gyfer cynhyrchu biodanwydd, yn hytrach na bwyd,” dywedodd Ren Wang, Cyfarwyddwr Cyffredinol Cynorthwyol dros Amaeth yr FAO.

Mae'r Undeb Ewropeaidd (UE) yn gwario bron €4 biliwn ar ei raglen ymchwil wyddonol gyfredol Horizon 2020 mewn ymateb i'r heriau hyn, ond er bod gwariant yr UE ar gynnydd, torri cyllidebau mae’r rhan fwyaf o lywodraethau cenedlaethol Ewrop yn ei wneud yn bennaf.

"Y canlyniad net yw llai o wariant, tra bod yr angen amdano yn cynyddu," meddai'r Athro Midmore.

Am y tair blynedd diwethaf mae’r Athro Midmore wedi cydlynu prosiect o'r enw IMPRESA i ymchwilio i effeithiolrwydd gwariant cyhoeddus ar fusnesau fferm, yr amgylchedd naturiol, a chymunedau gwledig.

Mewn 20 o wledydd a arolygwyd, gwelwyd cynnydd mewn gwariant ar ymchwil amaethyddol mewn wyth gwlad rhwng 2008 a 2013, gostyngiad mewn saith a gwariant yn cael ei gynnal yn weddol gyson mewn pump.

Bu IMPRESA yn olrhain effaith gwyddoniaeth mewn achosion pendant o ymchwil a gafodd ei roi ar waith mewn amaethyddiaeth yn Ewrop.

Yn Canino yn yr Eidal, gwelwyd tyfwyr olewydd yn lleihau ar eu defnydd o blaladdwyr yn sylweddol o ganlyniad i system Rheoli Plâu Integredig. Datblygodd gwyddonwyr ym Mwlgaria feddyginiaeth yn erbyn un o brif achosion marwolaethau mewn gwenyn. Ac yn yr Almaen, mae synwyryddion optegol yn cynorthwyo ffermwyr i wneud y defnydd gorau o wrtaith.

Casgliad IMPRESA yw bod cyllido cyhoeddus yn arwain at fanteision cymdeithasol cryf na fyddai wedi’u cyflawni gan gwmnïoedd preifat.

O'i gymharu â'r Unol Daleithiau a gwledydd rhyngwladol eraill, mae'r ad-daliad i ymchwil amaethyddol yn Ewrop ychydig yn is er bod yr effeithiau yn cael eu teimlo yn gyflymach. Mae hyn oherwydd natur fwy cymhwysol ei gwyddoniaeth amaethyddol.

Mae'r prosiect hefyd yn nodi ffyrdd y gellir gwella effaith yr ymchwil.

Byddai cydnabod gwyddoniaeth fel rhan o system arloesi, a chymell gwyddonwyr i gofleidio "diwylliant effaith", yn golygu y byddai mwy o gyfleoedd i gyflawni effeithiau ehangach a gwell.

Drwy weithio gyda chwmnïau preifat, gall gwyddoniaeth sy’n cael ei gyllido gan lywodraeth ganolbwyntio'n well ar ddiwallu anghenion cymdeithasol. Ond mae angen cydbwysedd rhwng cydweithio, sydd yn fuddiol, a sybsideiddio gwaith ymchwil preifat.

Yn olaf, mae IMPRESA yn argymell cadw cofnodion mwy cyflawn a thrylwyr o weithgareddau ymchwil er mwyn gallu olrhain eu heffaith yn well, oherwydd ei fod yn aml yn digwydd ymhell ar ôl datblygu’r wyddoniaeth gychwynnol.

"Yn aml, mae'r amser mae’n ei gymryd i ymchwil gael ei effaith llawn yn hwy na chylch gyrfa gwyddonydd," dywedodd yr Athro Midmore.

"Am y rheswm hwnnw, tra bod gwario ar fonitro yn gyfran fechan iawn o'r adnoddau cyffredinol sydd wedi’u neilltuo i brosiectau a rhaglenni ymchwil, mae'n elfen hanfodol sy'n sicrhau ein bod yn manteisio’n llawn ar fuddsoddiad cyhoeddus mewn gwyddoniaeth," ychwanegodd.

Mae prosiect IMPRESA wedi ei ariannu gan y Comisiwn Ewropeaidd dan ei Seithfed Rhaglen Fframwaith (FP7) ar gyfer Ymchwil a Datblygu.

Mae'n brosiect tair blynedd sy'n dod i ben 31 Rhagfyr 2016. Dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth, mae'n cynnwys wyth partner arall o chwe gwlad. Mae dau bartner yn sefydliadau rhyngwladol, yr FAO a Chanolfan Ymchwil ar y Cyd y Comisiwn Ewropeaidd yn Seville.