Prif Weinidog Cymru yn hel straeon am ei ddyddiau coleg
Y Prif Weinidog a chynfyfyriwr o Aber, Carwyn Jones, yn annerch dathliad y Sylfaenwyr a gynhaliwyd yn y Pierhead, Caerdydd
04 Tachwedd 2016
Bu'r Prif Weinidog yn rhannu atgofion am ei ddyddiau yn y Coleg Ger y Lli mewn digwyddiad arbennig i ddathlu sylfaenwyr Prifysgol Aberystwyth Ddydd Iau 3 Tachwedd 2016.
Y Gwin Anrh. Carwyn Jones AC oedd y prif siaradwr mewn derbyniad yn adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd ddaeth â chyn-fyfyrwyr a chyfeillion Prifysgol Aberystwyth ynghyd.
Noddwyd y digwyddiad yn swyddogol gan Lywydd Cynulliad Cymru, Elin Jones AC, sydd hefyd yn un o gyn fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.
Dyma oedd y tro cyntaf i’r Brifysgol gynnal dathliad sylfaenwyr yng Nghaerdydd ond y gobaith yw y daw’n ddigwyddiad blynyddol.
Mae'r digwyddiad yn gyfle i goffáu sut mae'r Brifysgol wedi gwneud ei marc yn y byd ers y 1850au pan lwyddodd grŵp bach o ysgolheigion gwladgarol dan arweiniad un o Gymry Llundain, Hugh Owen, i godi digon o arian drwy danysgrifiadau cyhoeddus a phreifat i sefydlu’r coleg cyntaf ag iddo statws Prifysgol yng Nghymru.
Fe ail gyflwynodd Prifysgol Aberystwyth Ddiwrnod y Sylfaenwyr ym mis Hydref 2015 gyda dathliad cymunedol i nodi’r union ddiwrnod pan agorodd yr Hen Goleg ei ddrysau i 26 o fyfyrwyr nôl yn 1872.
Yn ei anerchiad i gynulleidfa fawr dywedodd y Prif Weinidog bod ei brofiadau ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi "ffurfio'i fywyd", ac wedi rhoi iddo "addysg ragorol" a "ffrindiau am oes".
Daeth Carwyn Jones yn las fyfyriwr i Brifysgol Aberystwyth ym 1985 a chael gradd yn y gyfraith yn 1988 cyn mynd ymlaen i Ysgol y Gyfraith yr Inns of Court yn Llundain.
“Fel un o raddedigion Aber, mae gweld y brifysgol yn mynd o nerth i nerth wedi bod yn destun balchder i mi. Yn ystod y 144 mlynedd diwethaf mae'r sefydliad wedi dod yn bell iawn, o fod yn westy glan môr wedi ei hanner orffen gyda dim ond 26 o fyfyrwyr yn 1872, i fod yn un o brifysgolion blaenllaw Cymru.
“Mwynheais fy amser ym Mhrifysgol Aber yn fawr iawn, ac felly mae dathliad y Sylfaenwyr yn gyfle da i fyfyrio ar yr amryw ffyrdd y gwnaeth fy nyddiau prifysgol ddylanwadu ar fy mywyd,” ychwanegodd y Prif Weinidog.
Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro John Grattan: "Mae’r stori y tu ôl i sefydlu'r Brifysgol Aberystwyth yn ysbrydoliaeth i ni gyd. Mae’r don o gefnogaeth gyhoeddus a 'cheiniogau'r werin' a arweiniodd at agor y Coleg Ger y Lli bron i 150 mlynedd yn ôl yn dangos y bri mae Cymru wastad wedi ei roi ar addysg o ansawdd uchel.
"Mae Prifysgol Aberystwyth wedi mynd o nerth i nerth ers y dyddiau cynnar hynny ond mae dysgu a byw mewn amgylchedd eithriadol wedi bod yn nodwedd gyson o fywyd myfyrwyr ar hyd yr adeg. Mae Aberystwyth ar y brig o ran bodlonrwydd myfyrwyr yng Nghymru yn ôl Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2016 a’r gorau am ansawdd ei haddysgu yn ôl rhifyn diweddara’r Good University Guide.
"Wrth i ni edrych nôl felly ar waith ein sylfaenwyr, gallwn ymfalchïo hefyd yn llwyddiant ein cymuned presennol o staff, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr ar draws y byd. Rydym yn falch iawn bod y Prif Weinidog fel un o'n cyn fyfyrwyr mwyaf blaenllaw wedi gallu dod atom ni heno ar gyfer y dathliad arbennig hwn ac mae’n diolch hefyd yn mynd i'r Llywydd am noddi swyddogol ein digwyddiad yn y Pierhead – adeilad sydd fel yr Hen Goleg yn cofnodi cyfnod arbennig yn hanes ein gwlad.”
Yn ystod y digwyddiad, cafodd Cadeirydd y Coaching Inn Group, Andrew Guy MBE, ei gyflwyno â Chymrodoriaeth er Anrhydedd gan Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Syr Emyr Jones Parry.