Lansio cyfres o lyfrau darllen newydd sbon i blant

Delyth Ifan, Cyfarwyddwr CAA a golygydd y llyfrau, gyda Carys Lake, yr awdur

Delyth Ifan, Cyfarwyddwr CAA a golygydd y llyfrau, gyda Carys Lake, yr awdur

02 Tachwedd 2016

Mae un o gyhoeddwyr adnoddau addysgol mwyaf Cymru, CAA (Cyhoeddwr Adnoddau Addysg), Prifysgol Abertystwyth, yn lansio cyfres o lyfrau newydd sbon ar gyfer plant heddiw.

Cafodd cyfres Sgragan ei lansio yn Siop Eifionnydd, Porthmadog, gyda Mair Tomos Ifans yn darllen y llyfrau i ddisgyblion Ysgol Eifion Wyn a gwesteion eraill.  

Cyfres o lyfrau hwyliog a difyr i blant yw Cyfres Sgragan. Yn y gyfres o 8 o lyfrau, dilynir hynt a helynt Tomi a’i ffrind newydd, Sgragan y gath, wrth iddynt ymweld â gwahanol leoliadau ledled Cymru – megis Aberdaron, Tywyn, Fflint, ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Awdur y gyfres yw Carys Lake, sydd hefyd yn athrawes yng Nghanolfan Iaith Gwynedd, a’r darlunydd yw Rhys Aneurin.

Anelir y gyfres at blant 7-11 oed, a cheir cyfuniad o lyfrau stori bywiog a llyfrau ffeithiol llawn gwybodaeth ddiddorol.

Mae CAA yn cynhyrchu deunyddiau print a digidol o ansawdd uchel yn y Gymraeg ac yn Saesneg. Fe gyhoeddwyd oddeutu 2,500 o gyhoeddiadau ers ei sefydlu ym 1982.