Darlith Goffa EH Carr

Yr Athro Margaret MacMillan. Llun drwy garedigrwydd IDRC/CRDI.

Yr Athro Margaret MacMillan. Llun drwy garedigrwydd IDRC/CRDI.

25 Hydref 2016

Yr arbenigwr blaenllaw ar hanes a chysylltiadau rhyngwladol, Yr Athro Margaret MacMillan, fydd yn traddodi Darlith Goffa EH Carr eleni, am 6 o’r gloch Nos Iau 27 Hydref yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth.

Caiff Darlith Goffa EH Carr ei hystyried yn gyffredinol fel y gyfres darlithoedd fwyaf nodedig ym maes gwleidyddiaeth ryngwladol.

Bydd Yr Athro Margaret MacMillan yn traddodi 33ain Darlith Carr, ar y pwnc ‘Sometimes It Matters Who Is In Power’. 

Yr Athro MacMillan yw Warden Coleg St Anthony, Rhydychen. Mae hi’n awdur byd-enwog sydd wedi ennill nifer o wobrau am ei llyfrau poblogaidd, a bydd llawer o bobl yn gyfarwydd â’i llais o raglenni ar Radio 4 yn 2014 yn nodi canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf.

'Darlith Eithriadol'

Wrth son am y ddarlith, dywedodd Yr Athro Ken Booth o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol: “Rydym yn arbennig o ffodus i allu croesawu Margaret i Aberystwyth: rhaid mai hi yw un o’r bobl prysuraf yn y wlad, gyda’i gwaith ysgolheigaidd a’i gwaith i’r cyfryngau, ei chyfrifoldebau rheolaethol, a’i hymrwymiadau Cyhoeddus.

"Mae hanes yn amgylchynu ei bywyd, nid yn unig yn broffesiynol ond yn bersonol – mae hi’n or-wyres i David Lloyd George, ac yn fodryb i’r hanesydd Dan Snow. Mae ei llyfrau - y diweddaraf ohonynt yw History’s People: Personalities and the Past - yn cyfuno'r darlun eang a disgrifiadau o unigolion. Mae’n gampus am adrodd stori, gan weu manylion hynod ddiddorol a disgrifiadau o’r prif themâu. Rydyn ni’n sicr o gael darlith eithriadol ar bwnc sydd gyda’r mwyaf perthnasol ym Mhrydain ac yn wir y byd heddiw: sef y rhan sydd gan unigolion mewn hanes.”

Cynhelir y ddarlith ym Mhrif Neuadd yr Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar Gampws Penglais, am 6pm ddydd Iau 27 Hydref 2016. Mae’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn estyn gwahoddiad cynnes i aelodau’r cyhoedd yn ogystal ag i staff a myfyrwyr y Brifysgol.

Cadair Gwleidyddiaeth Ryngwladol E.H. Carr

Mewn datblygiad arall, cyhoeddodd Prifysgol Aberystwyth bod yr Athro Richard Beardsworth wedi'i benodi i Gadair nodedig E.H. Carr ym maes Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Mae’n olynu’r Athro Ken Booth a chyn hynny’r Athro Ian Clark.

Ymunodd yr Athro Beardsworth âg Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth yn 2013 ar ôl dysgu ym Mhrifysgol Ryngwladol Fflorida a’r Brifysgol Americanaidd ym Mharis.

Mae wedi cyhoeddi llyfrau o bwys ar Nietzsche, Derrida ac, yn fwy diweddar, ar theori cosmopolitaniaeth a chysylltiadau rhyngwladol.

Ers 2015, yr Athro Beardsworth yw Cyfarwyddwr Moeseg y Brifysgol ac fe’i penodwyd yn Bennaeth yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym mis Awst 2016. Ymhlith ei ddiddordebau ymchwil cyfredol y mae astudio cyfrifoldebau’r wladwriaeth mewn oes o heriau byd-eang cymhleth ac amrywiol.