Dathlu llwyddiant dysgu gydol oes yn Aber
Enillwyr Gwobr Cymraeg yn y Teulu - Vicky Thomas gyda'i gŵr huw a'u pedwar o blant.
21 Hydref 2016
Cynhaliwyd Gwobrau Dysgu Gydol Oes a Chymraeg i Oedolion ym Mhrifysgol Aberystwyth Ddydd Iau 21 Hydref i gydnabod rhagoriaeth mewn dysgu ac addysgu.
Cafodd llwyddiannau unigolion a grwpiau eu dathlu mewn seremoni arbennig oedd yn gyfle i longyfarch myfyrwyr a thiwtoriaid fel ei gilydd.
Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnal cyrsiau dysgu Cymraeg ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yng Ngheredigion, Powys a Sir Gâr.
Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Cyfarwyddwr Athrofa Datblygiad Proffesiynol Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Judy Broady-Preston: “Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn llwyddiant oedolion sy’n dysgu sgiliau newydd. Mae’n dysgwyr ni wedi dangos ymroddiad mawr, ac mae eu hymdrechion yn fuddiol iddyn nhw, i’w teuluoedd a’u cymunedau.”
Gwobr Cymraeg yn y Teulu
Gwobr yw hon ar gyfer dysgwyr Cymraeg sydd wedi cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg o fewn y teulu a’r enillydd eleni oedd Vicky Thomas a’r teulu o Faesymeillion, Llandysul.
Mae Vicky’n dysgu Cymraeg ers pum mlynedd. Fe symudodd hi, ei gwr a’u pedwar o blant bach i Geredigion ym mis Awst 2015. Daeth Vicky a’i gŵr i adnabod ei gilydd yn Saesneg, a Saesneg a siaradai hi â’r ddau blentyn hynaf cyn dechrau dysgu Cymraeg. Bellach mae’r teulu cyfan yn siarad Cymraeg â’i gilydd. Mae Vicky hefyd yn gyfforddus i siarad Cymraeg yn y gymuned.
“Dw i’n gobeithio y bydd fy mhlant yn trosglwyddo’r Gymraeg i’r genhedlaeth nesaf, fel y gwnaethon ni’ medd Vicky, ‘ac y galla i siarad Cymraeg efo’r wyrion!’
Roedd dysgu Cymraeg tra’n magu teulu ifanc yn heriol, ond erbyn hyn mae siarad Cymraeg yn rhan annatod o fywyd y teulu.
Gwobr Grŵp Cymraeg y Flwyddyn
Gwobr i grŵp a ddaeth ynghyd i drefnu a chynnal gweithgaredd newydd yn y Gymraeg dros gyfnod o dri mis neu ragor, er mwyn hybu dysgwyr i ddefnyddio mwy o Gymraeg y tu allan i’r dosbarth ffurfiol ac ennill mwy o hyder i siarad Cymraeg. Yr enillydd eleni oedd Clonc a Chinio o Lanandras ym Mhowys.
Dechreuwyd Clonc a Chinio ym mis Medi 2015 yn Llanandras (Presteigne), tref ar y ffin rhwng Cymru a Lloger. Dechreuodd fel sesiwn sgwrsio yn ystod yr awr ginio rhwng dwy wers. Yn fuan iawn, daeth dysgwyr eraill i ymuno â nhw, ac erbyn hyn mae cymuned fach wedi dod at ei gilydd a thyfu yn y dref. Mae’r grŵp yn trefnu nifer o weithgareddau a digwyddiadau - un o uchafbwyntiau’r flwyddyn oedd cynnal cyngerdd i ddathlu Gŵyl Dewi.
Bu dysgwyr o’r grŵp hefyd yn cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2015 ym Meifod ac yn 2016 yn y Fenni, ac fe enillon nhw’r gystadleuaeth sgets yn Eisteddfod y Dysgwyr yn Aberhonddu ym mis Ebrill 2016.
Gwobr Cymraeg yn y Gweithle
Gwobr yw hon i gyflogwyr sy’n cefnogi eu staff i ddysgu Cymraeg ar gyrsiau gyda Phrifysgol Aberystwyth a’i phartneriaid. Cyfoeth Naturiol Cymru enillodd eleni.
Cafodd 22 o staff Cyfoeth Naturiol Cymru eu rhyddhau yn ystod oriau gwaith i ddilyn cyrsiau dysgu Cymraeg â Phrifysgol Aberystwyth yn 2015/16.
Mae dysgwyr Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu cefnogi i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle drwy gynllun mentora, lle gall dysgwyr sgwrsio’n anffurfiol gyda siaradwyr Cymraeg rhugl. Mae nifer o’u swyddfeydd hefyd yn cynnal sesiynau ‘siop siarad’ neu ‘sgwrs dros baned’ anffurfiol er mwyn ymarfer siarad Cymraeg, ac mae rhai swyddfeydd yn cynnal teithiau cerdded Cymraeg amser cinio.
Mae’r staff a fu’n dysgu Cymraeg yn fwy hyderus i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith o ddydd i ddydd. Mae hynny’n gwella’r dewis iaith i’r cwsmer, gan fod mwy o staff yn hyderus i ddefnyddio’r Gymraeg â’r cyhoedd.
Dywedodd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Hoffem longyfarch y dysgwyr Cymraeg a’u tiwtoriaid sydd wedi gweithio mor galed i gyrraedd safon mor uchel. Rydyn ni’n falch fod yr hyn maen nhw wedi’i gyflawni yn cael ei ddathlu yn y seremoni hon a hoffem ddymuno pob llwyddiant a mwynhad wrth iddyn nhw ddatblygu eu sgiliau Cymraeg ymhellach.”
Cafodd tystysgrifau hefyd eu cyflwyno i ddysgwyr Cymraeg sydd wedi llwyddo yn arholiadau Defnyddio’r Gymraeg Canolradd ac Uwch CBAC a Thystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Yn ogystal, cyflwynwyd tystysgrifau Dysgu Gydol Oes i fyfyrwyr sydd wedi ennill 120 credyd mewn ystod o bynciau ym meysydd ieithoedd modern, ysgrifennu creadigol, celf a dylunio, ecoleg maes, astudiaethau achyddol a seicoleg.
Gwobrau Dysgu Gydol Oes
Yng Ngwobrau Dysgu Gydol Oes Prifysgol Aberystwyth, Judie Christie enillodd Myfyriwr Dysgu Gydol Oes y Flwyddyn.
“Mae brwdfrydedd Judie at ddysgu yn afieithus, mae hi’n gweithio’n galed ac mae’n gydwybodol ymhob agwedd o’i gwaith,” yng ngeiriau ei thiwtor Angharad Taris. “Mae’n rhannu’r cyfoeth o wybodaeth sydd ganddi am hanes celf a diwylliant gweledol gyda gweddill y dosbarth mewn ffordd sensitif ac ysgogol. Mae’n annog myfyrwyr eraill ac mae eu sylwadau yn gefnogol, yn ddefnyddiol ac yn berthnasol.”
Am y tro cyntaf erioed, cafodd gwobr Tiwtor Dysgu Gydol Oes y Flwyddyn ei dyfarnu i bedwar tiwtor gan nad oedd y panel yn gallu dewis rhwng y pedwar a ddaeth i frig yr enwebiadau. Llongyfarchiadau mawr i’r enillwyr: Margaret Howells (Ecoleg), Anne Kelly (Ieithoedd Modern), Judy Macklin (Celf) a Jill Rolfe (Uwchgylchu Dillad).
Dyma eiriau un o fyfyrwyr Margaret Howells: “Wrth yngan enw Margaret, mae pawb yn gwenu; mae ei hymroddiad, ei hamynedd a’i hawydd i ddysgu myfyrwyr am blanhigion a’i chariad tuag at ei maes yn serennu. Dwi’n adnabod pobl fu’n dysgu ar ei chyrsiau ddeng mlynedd yn ol a bellach yn gweithio mewn sefydliad blaenllaw yn y sector cadwraeth.”
Caiff cyfraniad Anne Kelly (Ieithoedd Modern) eu dathlu gyda’r geiriau hyn: “Pwy fyddai’n meddwl bod addysg yn gymaint o hwyl! Mae ei gwybodaeth o’i phwnc yn amlwg pan mae’n dysgu. Mae’n rhagorol ymhob agwedd ac mae wastad yn hoelio sylw ei dysgwyr. Gwych!”
Dywed yr enwebiad ar gyfer Judy Macklin (Celf): Mae’n ein hannog ni i ganfod pethau drosom ein hunain. Mae ei dysgu yn rhagweithiol ond nid yw’n bwydo pob gwybodaeth. Mae ganddi bob amser gywreinrwydd am ei maes ac mae wrth ei bodd yn gwneud ac yn rhannu darganfyddiadau newydd ei hun, gan feithrin teimlad o rannu ymhlith y dysgwyr fel ei gilydd.”
Caiff dull brwdfrydig Jill Rolfe (Uwchgylchu Dillad) o addysgu ei gymeradwyo yn y datganiad yma gan fyfyriwr gwerthfawrogol: "Mae ganddi wybodaeth sy’n deillio o weithio yn y theatr ac yn y diwydiant ffasiwn am nifer o flynyddoedd. Mae hi wedi dod a gwisgoedd ei hun i’r dosbarth sydd wedi ysbrydoli myfyrwyr i addasu er mwyn gweithio gyda nhw ar eu prosiectau eu hunain. Mae’r diwrnodau gwnïo wastad yn hwyl diolch i Jill. Mae’n defnyddio straeon o’i phrofiadau personol o fod yn gwneud gwisgoedd mewn ffordd ddifyr ac mae hyn yn ein oll yn ein helpu ni i gofio pa broblemau i’w hosgoi."
Gwobr Goffa Rob Strachan
Yn olaf, cafodd gwobr ei chyflwyno er cof am Rob Strachan, ecolegydd mamaliaid a chadwraethwr a fu’n dysgu ar gyrsiau Ecoleg Dysgu Gydol Oes rhwng 2009 a 2013.
Roedd Rob yn adnabyddus am y darluniau hardd a wnaeth yn ei lyfrau nodiadau maes. Bu farw ym mis Mai 2014 ar ôl salwch byr. Cafodd Gwobr Goffa Rob Strachan ei dyfarnu i'r myfyriwr a gynhyrchodd y llyfr nodiadau maes gorau ar y cwrs Mamaliaid sef Louisa Haywood-Samuel.
Mae Prifysgol Aberystwyth yn gartref i’r adran addysg barhaus hynaf yng Nghymru. Mae’n darparu cyrsiau allgymorth ar draws chwe sir yng Nghymru ac yn arddel arferion addysgu arloesol.