BEACON Cymru yn gyd-sylfaenydd cynghrair newydd lansio i gefnogi twf bio-economi'r DG

19 Hydref 2016

Mae prosiect arobryn BEACON Cymru yn un o bum canolfan ymchwil a datblygu  sefydlog ar draws y DG sydd yn cyhoeddi cynghrair newydd heddiw - BioPilotsUK. Bydd y gynghrair yn ceisio gosod Prydain fel arweinydd byd-eang ym maes datblygu technoleg bioburo, a chynhyrchu cynnyrch bioseiliedig - dwy elfen allweddol o'r bio-economi.

Pum canolfan sefydlu BioPilotsUK yw BEACON (Cymru), y Biorenewables Development Centre (BDC - Efrog), the Centre for Process Innovation (CPI - Redcar), IBioIC (Yr Alban) a The Biorefinery Centre (Norwich).

Mae BEACON yn gydweithrediad a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd trwy Lywodraeth Cymru o dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth â Phrifysgolion Bangor ac Abertawe ble mae gwyddonwyr yn arbenigo mewn bio-buro.

Mae BioPilotsUK yn cyfuno arbenigedd a chyfleusterau blaengar i lywio syniadau arloesol trwy’r hyn a elwir yn "ddyffryn marwolaeth" trwy ddangos prosesau a chynhyrchion bio-seiliedig newydd ar raddfa sydd yn fasnachol berthnasol; ac yn sgil hynny helpu cleientiaid i fuddsoddi yn y technolegau cywir i dyfu eu busnesau.

"Yr ydym oll yn ymwneud â chefnogi symud oddi wrth adnoddau ffosil drwy wneud y defnydd gorau o ddeunyddiau bioradnewyddadwy a gwastraff na ellir ei osgoi," meddai Adam Charlton Rheolwr Prosiect BEACON yng Nghanolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor. "Fel cynghrair, fe allwn leihau y risg yn y broses o arloesi yn sylweddol ar gyfer unrhyw un sy'n archwilio syniad bio seiliedig."

Drwy weithio ar y cyd, mae'r gynghrair yn ceisio cyflymu  yn sylweddol y broses o fasnacheiddio prosesau newydd gwyrdd a chynnyrch o fiomas, gan gynnwys: planhigion, algâu, a gwastraff.

Oherwydd natur amrywiol y deunyddiau crai hyn, neu porthiant, nid oes dull gweithredu "un maint i bawb" tuag at bioburo, ond yn hytrach cyfres o dechnolegau y mae'n rhaid eu treialu a'u cyfuno. Yn awr, fe all y gynghrair newydd cydosod y tîm cywir yn gyflym ar gyfer unrhyw brosiect bio-seiliedig gan ddefnyddio arbenigedd a chyfleusterau ar draws y pum canolfan.

Sefydlwyd BEACON yn 2011 a fe gyhoeddwyd buddsoddiad pellach gwerth £12 miliwn a gefnogir gan £8 miliwn o arian yr Undeb Ewropeaidd gan Lywodraeth Cymru yn Rhagfyr 2015.

Mae’r bio-economi yn cynnig cyfle busnes byd-eang £aml-biliwn: mae'n werth tua €2 triliwn yn Ewrop yn unig ac yn tyfu'n gyflym ledled y byd. Gan gynnig y potensial i ddarparu mwy o werth busnes trwy fanteision cymdeithasol, amgylcheddol ac ariannol, amcangyfrifir bod bio-economi'r DG eisoes yn werth £153 biliwn yn nhermau gwerth ychwanegol crynswth (GVA), gan greu dros 4M * o swyddi.

"Mi fydd BioPilotsUK yn galluogi Prydain i wireddu potensial i fanteisio ar  bioadnoddau a biotechnoleg i greu cynnyrch diwydiannol newydd a phrosesau angenrheidiol ar gyfer gwlad sydd yn economaidd ac yn amgylcheddol gynaliadwy," medd Keith Waldron, Cyfarwyddwr, The Biorefinery Centre.

Yr Athro Iain Donnison o IBERS (Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig) Prifysgol Aberystwyth yw Cyfarwyddwr BEACON a dywedodd:

"Mae BEACON yn datblygu technolegau gwyrdd newydd i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, sydd eu hangen i gyflawni cytundeb hinsawdd Paris a lofnodwyd gan arweinwyr y byd yn y Cenhedloedd Unedig yn gynharach eleni. Mae technolegau carbon isel o'r fath hefyd yn cynnig cyfleoedd newydd i gefnogi gweithgarwch economaidd a swyddi, yn y Gymru drefol a gwledig. "

Daw'r cyhoeddiad wrth agor cynhadledd flynyddol sy'n arwain y farchnad, yr European Forum in Industrial Biotechnology and the Bioeconomy (EFIB) 2016, sy'n cael ei chynnal yn Glasgow eleni.

* “Biotech Britain: An assessment of the impact of industrial biotechnology and bioenergy on the United Kingdom economy” Capital Economics, Mehefin 2015. http://www.bbsrc.ac.uk/documents/capital-economics-biotech-britain-july-2015/