Darlith Goffa David Trotter
Yr Athro Frankwalt Möhren
14 Hydref 2016
Bydd y ddarlith goffa gyntaf i anrhydeddu cyfraniad y diweddar Athro David Trotter yn cael ei chynnal gan Adran Ieithoedd Modern Prifysgol Aberystwyth Nos Wener 14 Hydref 2016.
Mae'r Adran Ieithoedd Modern wedi sefydlu cyfres o ddarlithiau coffa blynyddol er mwyn cydnabod nid yn unig cyfraniad pwysig yr Athro Trotter at astudio iaith Ffrangeg canoloesol a geiraduraeth Eingl-Normanaidd, ond hefyd ei swyddogaeth fel darlithydd Ffrangeg a Phennaeth yr Adran am dros ugain mlynedd.
Roedd yr Athro Trotter yn awdurdod rhyngwladol blaenllaw ar yr iaith Ffrangeg a geiriadura, ac yn brif olygydd y Geiriadur Eingl-Normanaidd yn Aberystwyth gan dderbyn anrhydeddau megis y Prix Honoré Chavée.
Yn ogystal â derbyn nifer o wobrau yn ystod ei yrfa, roedd yn arweinydd ysbrydoledig ac yn gydweithiwr ffyddlon ym Mhrifysgol Aberystwyth. Roedd yn mwynhau cydweithio ar brosiectau gydag eraill ac roedd ganddo rwydwaith rhyngwladol eang o gyfeillion academaidd.
Caiff ei gofio gan ei gydweithwyr am ehangder ei wybodaeth, ei chwilfrydedd deallusol a'i dro hynod ffraeth o ymadrodd (a hynny mewn sawl iaith).
Traddodir y ddarlith gyntaf gan gyn-gyfarwyddwr sefydliad ymchwil DEAF (Geiriadur Geirdarddol Hen Ffrangeg) a ffrind personol i'r teulu, Yr Athro Frankwalt Möhren o Brifysgol Heidelberg.
Bydd y ddarlith yn taflu goleuni ar waith geiriadurwyr fel yr Athro Trotter. Ar sail enghreifftiau megis 'pwdin', 'byd gwastad' a 'Proffesiwn Iesu Grist', bydd yn amlygu’r diddordeb cyffredinol sydd yna yng ngwaith y geiriadurwr ac yn dangos ei berthnasedd fel rhan o'r dyniaethau.
Teitl y ddarlith gan yr Athro Frankwalt Möhren fydd ‘The Easy Yoke of Strict Science’ a bydd yn dechrau am 6yh yn Ystafell Seddon yn yr Hen Goleg, Aberystwyth, Nos Wener 14 Hydref. Bydd derbyniad diod o 5.15yp ymlaen ac mae croeso i bawb.