Prifysgol Aberystwyth yn dathlu Diwrnod y Sylfaenwyr

Diwrnod y Sylfaenwyr 2016 yn yr Hen Goleg

Diwrnod y Sylfaenwyr 2016 yn yr Hen Goleg

14 Hydref 2016

Mae Dydd Gwener 14 Hydref 2016 yn nodi carregfilltir arall i Brifysgol Aberystwyth wrth iddi ddathlu llwyddiannau’r gorffennol drwy nodi cyfraniad ei sylfaenwyr.

Gan ddwyn ynghyd cynrychiolwyr o’r Brifysgol a’r gymuned leol yn yr Hen Goleg, mae’r dathliadau yn adlewyrchu’r ethos y tu ôl i’r dathliadau gwreiddiol a gynhaliwyd yn y Coleg Ger y Lli union 144 o flynyddoedd yn ôl ym mis Hydref 1872.

Mae Diwrnod y Sylfaenwyr yn gyfle i gofio sut mae’r Brifysgol wedi bod yn creu hanes ers y 1850au pan gyfarfu grŵp bach o wladgarwyr dan arweiniad un o Gymry Llundain, Hugh Owen, i godi digon o arian drwy danysgrifiadau preifat a chyhoeddus i sefydlu coleg prifysgol cyntaf Cymru.

Agor gwesty oedd bwriad gwreiddiol y contractwr rheilffordd Thomas Savin ar gyfer yr Hen Goleg, ond fe’i prynwyd gan bwyllgor Prifysgol Cymru yn 1867 am £10,000 oedd  dipyn yn llai na’r gost o’i adeiladu. Fe gyrhaeddodd y 26 myfyriwr cyntaf ym mis Hydref 1872.

Dywedodd Is-Ganghellor Dros Dro Prifysgol Aberystwyth, yr Athro John Grattan: “Mae hanes sefydlu Prifysgol Aberystwyth yn stori arbennig sy’n adlewyrchu gweledigaeth wych, ffrwyth ymroddiad ac uchelgais grŵp bach o bobl.

“Mae’r seiliau cadarn hynny wedi’n galluogi ni i ddatblygu’n sylweddol fel sefydliad sydd bellach yn weithgar ar lwyfan fyd-eang gyda chymuned o dros 60,000 o gyn fyfyrwyr sy’n dal i dyfu. Nid ydym erioed wedi anghofio’n gwreiddiau serch hynny ac fel Prifysgol, rydym yn benderfynol o barhau i weithio’n agos gyda’r gymuned leol ac i gyd-ddathlu’n treftadaeth.

“Dangosodd ein canlyniadau da yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr (NSS) a’r Good University Guide yn ddiweddar bod ein lleoliad a’n cymuned yn bwysig, ochr yn ochr â safon uchel yr addysg i fyfyrwyr sy’n dewis dysgu a byw mewn amgylchedd eithriadol.”

Y siaradwr gwadd ar Ddiwrnod y Sylfaenwyr eleni yw Aelod Seneddol Ceredigion Mark Williams, sydd hefyd yn gyn-fyfyriwr yn y Coleg Ger y Lli: “Mae’r achlysur yma yn gyfle i fyfyrio ar wreiddiau’r Brifysgol a phwysigrwydd y berthynas agos rhwng y sefydliad a thref Aberystwyth. Mae’r Brifysgol hon wastad wedi creu argraff uwchlaw’r disgwyl ac mae’n parhau i wneud hynny wrth symud ymlaen yn hyderus i gwrdd â’r heriau sy’n wynebu’r sector addysg uwch, anghenion y gymuned a’i rôl yn lleol”

Dywedodd Louise Jagger, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni Prifysgol Aberystwyth: "Rydym yn falch iawn o fod yn anrhydeddu a dathlu cyfraniad ein Sylfaenwyr a ddangosodd gyrru ac uchelgais o'r fath, ac sy'n dal i ysbrydoli heddiw. Mae'n addas bod wrth i staff, myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr ac aelodau o'r gymuned leol a gasglwn yma gyda'n gilydd heddiw yn y man geni addysg uwch yn y dref. Yr Hen Goleg yn adeilad poblogaidd, eiconig gyda enw da yn rhyngwladol ac rydym yn edrych ymlaen yn awr at ddatblygu ein gweledigaeth i ddod â Bywyd Newydd i Hen Goleg ymhellach yn y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. "

Fel rhan o’r dathliadau, mae gwahoddiad i fyfyrwyr, staff ac aelodau’r cyhoedd ymuno a theithiau tywys rhad ac am ddim o gwmpas yr Hen Goleg fydd yn cael eu cynnal bob awr rhwng 11yb a 3yp gyda thaith cyfrwng Cymraeg am hanner dydd.

Mae’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru hefyd wedi dewis cynnal cyfarfod yn yr Hen Goleg ar Ddiwrnod y Sylfaenwyr gyda myfyrwyr sy’n derbyn cymorth ariannol tuag at eu hastudiaethau gan gyfranwyr y mudiad.

Yn ôl Prif Weithredwr y Sefydliad, Liza Kellett: “Rydyn ni wrth ein bodd cael cwrdd a’r myfyrwyr sy’n cael cefnogaeth gennym drwy ysgoloriaethau yn Aber. Mae’n bwysig ein bod yn deall eu gofynion a’u pryderon, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddysgu mwy am eu dealltwriaeth a’u profiad o ddyngarwch. Fel ‘y lle ar gyfer dyngarwch yng Nghymru’, mae’n wych gallu bod yn rhan o ddathliadau Prifysgol Aberystwyth sydd hefd yn cydnabod seiliau dyngarol y sefydliad mawreddog yma.”

Am 6yh ar Ddiwrnod y Sylfaenwyr, cynhelir y Ddarlith Goffa gyntaf er cof am yr Athro David Trotter yn Ystafell Seddon yn yr Hen Goleg. Y siaradwr gwadd fydd yr Athro o Brifysgol Heidelberg sy’n gyn-gyfarwyddwr sefydliad ymwchil DEAF (Geiriadur Geirdarddol Hen Ffrangeg). Teitl y ddarlith fydd “The Easy Yoke of Strict Science” ac mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac ar agor i’r cyhoedd.

Bydd staff a myfyrwyr ar gampws Aberystwyth yn Mawrisiws hefyd yn dathlu Diwrnod y Sylfaenwyr a hynny ar ddiwrnod cyntaf y tymor academaidd yno Ddydd Llun 17 Hydref.

Caiff ail ddigwyddiad i gofio sylfaenwyr y Brifysgol ei gynnal yn adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd Ddydd Iau 3 Tachwedd. Daw nawdd Llywydd y Cynulliad ac Aelod y Cynulliad dros Geredigion, Elin Jones, y siaradwr gwadd fydd y Prif Weinidog Carwyn Jones sydd yntau yn un o gyn-fyfyrwyr Aberystwyth.