Gwyddonwyr Aberystwyth yn cynnig cwrs ar fregusrwydd
Henoed mewn parc
13 Hydref 2016
Mae gwyddonwyr Chwaraeon a Ymarfer Corff yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn lansio cwrs MOOC ar-lein ar adnabod ac atal bregusrwydd mewn oedolion hŷn.
Bydd y cwrs yn cychwyn ar y 29ain o Hydref fel rhan o EITHealth, un o'r mentrau gofal iechyd mwyaf ledled y byd, sydd yn anelu i hyrwyddo amodau ar gyfer y dyfodol yn byw yn iachach a lles pobl ar draws Ewrop.
Cynhelir y cwrs gan Dr Marco Arkjestejn, Darlithydd mewn Biomecaneg Chwaraeon a Ymarfer, a'i gydweithiwr Rhian George sydd yn un o raddedigion 2016 a gwyddonydd newydd gymhwyso mewn Chwaraeon a Ymarfer Corff yn IBERS. Mi fydd y cwrs yn canolbwyntio ar beth ydy bregusrwydd, pam mae'n bwysig, a sut mae ei gydnabod a'i atal.
Dywedodd Dr Arkestejn "Wrth i un fynd yn hŷn, mae’r gallu corfforol a meddyliol yn tueddu i ostwng. Gall hyn arwain at anabledd, megis anallu i gerdded yn annibynnol, neu i wisgo heb gymorth gan eraill.
Fodd bynnag, yn aml mae’r newidiadau sy'n digwydd wrth heneiddio yn digwydd yn araf hyd at bwynt penodol, a wedi hynny fe all y dirywiad ddigwydd yn gyflym. Mae hynny'n cael ei ddisgrifio'n aml fel 'cael bregusrwydd' a mae’n golygu mynd yn fwy diamddiffyn. "
Cydnabyddir bregusrwydd yn gynyddol fel syndrom clinigol perthnasol, ac yn un y dylid rhoi sylw iddo a’i atal trwy addysgu'r cyhoedd yn gyffredinol, a dyna beth fydd y cwrs hwn yn ei wneud. Mae'r MOOC yn ymdrechu i godi ymwybyddiaeth o fregusrwydd, a dangos fod modd ei atal a’i wrthdroi.
Meddai Rhian George. Mae'r MOOC ‘Recognizing and preventing frailty’ yn cynnwys gwybodaeth hawdd i'w deall a fideos, a chyngor ar sut i atal bregusrwydd drwy fwyta'n iach a bod yn weithgar."
Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru, cliciwch yma please click here neu chwilio Google am "Recognising and preventing frailty" MOOC.