Llywodraeth Iwerddon yn cefnogi dysgu Gwyddeleg Modern yn Aber
J. E. Caerwyn Williams, Traddodiad Llenyddol Iwerddon
13 Hydref 2016
Mae Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd wedi derbyn grant gan Lywodraeth Iwerddon i gefnogi gwaith dysgu iaith a llenyddiaeth y Wyddeleg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae Adran Materion y Celfyddydau, Treftadaeth, Rhanbarthol, Gwledig a'r Gaeltacht wedi dyfarnu swm hael o arian i Brifysgol Aberystwyth dros dair blynedd drwy raglen Llywodraeth Iwerddon sy'n cefnogi dysgu Gwyddeleg Modern.
Bydd y grant yn cael ei ddefnyddio hefyd i greu nifer o ysgoloriaethau iaith a fydd yn golygu y bydd myfyrwyr Aberystwyth yn gallu mynd ar gyrsiau haf mewn ardal Wyddeleg ei hiaith.
Dywedodd Cathryn Charnell-White, Pennaeth Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd: "Rydym wrth ein bodd bod y grant hwn yn golygu y gallwn sefydlu cynllun ysgoloriaethau a fydd yn galluogi myfyrwyr i gael profiad o'r iaith Wyddeleg yn ei bro, ac i ddod â’r profiad hwnnw yn ôl i Aberystwyth. "
Mae iaith a llenyddiaeth y Wyddeleg yn rhan allweddol o waith Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth – adran a ddyfarnwyd y gorau ym Mhrydain o ran answadd ei dysgu yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr 2016.
Mae'r Adran yn cynnig cynllun gradd anrhydedd cyfun mewn Gwyddeleg, yr unig un o'i fath ym Mhrydain Fawr, ac mae gan y Brifysgol draddodiad cryf o astudiaethau'r iaith Wyddeleg.
Mae'r Wyddelig hefyd yn elfen graidd yn y cynllun gradd Astudiaethau Celtaidd ac yn ddewis poblogaidd hefyd i'r rhai sy'n gwneud gradd yn y Gymraeg.
Dros y blynyddoedd, mae Academyddion yn yr Adran wedi cynhyrchu ymchwil pwysig, gan gynnwys y gyfrol boblogaidd gan J. E. Caerwyn Williams, Traddodiad Llenyddol Iwerddon a gyhoeddwyd yn y Wyddeleg, y Gymraeg a'r Saesneg.
Fe'i defnyddir o hyd fel y prif werslyfr ar gyfer myfyrwyr llenyddiaeth Wyddeleg ym mhrifysgolion Iwerddon. Roedd gan Williams Gadair yn y Wyddeleg yn Aberystwyth rhwng 1965 a 1979.
Ychwanegodd Peadar Ó Muircheartaigh, Darlithydd mewn Astudiaethau Celtaidd,: "Mae'r grant hwn yn cydnabod y safon uchel a'r gwaith caled yn Aberystwyth wrth astudio a dysgu iaith a llenyddiaeth y Wyddeleg dros y blynyddoedd. Mae ein harbenigedd ni a lleoliad eithriadol y Brifysgol yn ei gwneud yn ddewis gwych ar gyfer myfyrwyr Astudiaethau Celtaidd. "
Mae'r Adran wedi meithrin cysylltiadau â dysgwyr Gwyddelig ledled Cymru a Lloegr, gan ddarparu dysgu a chymorth rheolaidd i grwpiau ym Manceinion, Gorllewin Canolbarth Lloegr a Llundain.
Bydd rhagor o fanylion am yr ysgoloriaethau i fyfyrwyr ar gael maes o law.