Myfyrwyr Aber yn Pasadena ar gyfer prif gynhadledd planedau’r byd
13 Hydref 2016
Mae tri myfyriwr ymchwil o Brifysgol Aberystwyth wedi eu dewis i gyflwyno papurau yng nghynhadledd planedau fwya’r byd yn yr Unol Daleithiau ym mis Hydref 2016.
Bydd y myfyrwyr PhD yn siarad am eu hymchwil yng Nghyngres Gwyddoniaeth Planedau Ewropeaidd (EPSC) sy'n cyfarfod y tu allan i Ewrop am y tro cyntaf ers ei sefydlu yn 2006.
Mewn partneriaeth ag Adran Gwyddorau Planedau Cymdeithas Seryddeg America, mae’r Gyngres eleni yn cael ei chynnal 16-21 Hydref 2016 yn Pasadena – drws nesaf i brif labordy gwthrym jet NASA.
Mae myfyrwyr o Aberystwyth wedi cael bod yn rhan o'r Gyngres Ewropeaidd ers y dechrau, diolch i un o sylfaenwyr y digwyddiad ac un o’r prif drefnwyr yr Athro Manuel Grande sy’n Bennaeth Ffiseg y System Solar yn Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth.
Yn y gorffennol, mae’r Athro Grande wedi gallu cynnig y cyfle i fyfyrwyr wneud cais am swyddi mewn gwahanol swyddi cefnogi fel stiwardiaid neu swyddogion tocynnau – ond dyma’r tro cyntaf i fyfyrwyr o Aberystwyth gyflwyno papurau yn y gynhadledd.
Mae Zoe Lee-Payne, Rose Cooper a Joe Hutton – sy’n fyfyrwyr doethuriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth – wedi eu dewis ar sail eu gwaith rhagorol ac fe fyddan nhw’n rhoi eu papurau i gynulleidfa fydd yn cynnwys rhai o'r enwau mwyaf ym maes Gwyddor Planedau.
Bydd Rose Coopers yn cyflwyno 'Modelu o fflwroleuedd pelydr-X o wyneb ac sffêr-exo y blaned Mercher' a ysgrifennwyd ganddi hi, ei goruchwyliwr yr Athro Manuel Grande a dau gydweithiwr o Brifysgol Caerlŷr, Emma Bunce a Adrian Martindale.
Wrth siarad am yr achlysur, dywedodd Rose: "Mae Prifysgol Aberystwyth a’m goruchwyliwr yr Athro Grande wedi agor cymaint o ddrysau i mi. Fydden i fyth wedi breuddwydio y bydden i yn cyflwyno papur ym mhrif gynhadledd planedol y byd tra’n dal i astudio ar gyfer fy noethuriaeth. Mae'n gyfle sy’n dod unwaith mewn bywyd ac un dwi’n mawr obeithio fydd yn fy arwain ymlaen at ddyfodol llwyddiannus yn y maes."
Dywedodd Pennaeth Ffiseg y System Solar Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Manuel Grand: "Mae’r Gyngres Gwyddor Planedau Ewropeaidd yn enghraifft o sut mae Ewrop yn flaenllaw yn y maes ar hyn o bryd; ni yw’r grwp Seryddiaeth Planedau mwyaf yn y byd ar hyn o bryd, sy'n dipyn o gamp. Os edrychwch chi ar daith Rossetta yna unwaith eto, Ewrop sydd wrth y llyw o ran datblygiadau planedol cyfredol. Ar gyfer ein myfyrwyr, mae hyn yn brofiad sy’n rhoi llwyfan iddyn nhw gael eu clywed gan eu cyfoedion a chan arweinwyr yn y maes - mae'n brofiad amhrisiadwy ".
Mae'r Gyngres yn ymhel ag ystod eang o bynciau gwyddonol sy'n gysylltiedig â gwyddor planedau a theithiau gofod. Mae'n cynnig llwyfan ar gyfer dosbarthu a chyfnewid gwybodaeth, rhannu syniadau a rhwydweithio â grwpiau eraill yn ogystal a bod yn achlysur ar gyfer gweithdai mwy penodol eu ffocws a chyfarfodydd mwy ymylol.
Bydd y tri myfyriwr eithriadol yn hedfan allan i Pasadena gyda'r Athro Manuel Grande ar gyfer y Gyngres ym mis Hydref a phwy a ŵyr i ble bydd y cyfle yn mynd â nhw - gwyliwch y gofod hwn...